top of page
Glityr a Gewinedd
gan Anna Mared

Helo helo! Anna Mared ydw i, a chroeso i fy mlog gyntaf!
Dros y blynyddoedd diwethaf mae celf ewinedd wedi esblygu i fod yn un o’r trends harddwch mwyaf poblogaidd gyda merched ar draws y byd yn bwcio’i apwyntiadau misol am gels neu i ddechrau ar eu ‘biab journey’ i gryfhau a thyfu’r ewinedd. O ddyluniadau syml a minimalistaidd i batrymau geometric i ddyluniadau cymhleth a chain sy’n cymryd rhai oriau i’w cyflawni. Ond pwy sydd ddim yn joio ymlacio yn y gadair am awran neu ddwy gyda phaned a sgwrs am y rhaglenni teledu trash diweddaraf?!
Mae celf ewinedd yn ffordd greadigol a hwyl i ychwanegu personoliaeth i unrhyw edrychiad boed chi’n hoffi cynildeb neu statement. Mae ‘na rhywbeth at ddant pawb!
Helo i’r rheiny sy’n hoffi bach o barti ac eisiau ffordd i ddyrchafu gwisg a mynd a’r wisg i’r lefel nesa’. Mae celf ewinedd yn ffordd syml ond hynod o effeithiol o ychwanegu bach o glits i unrhyw wisg. Boed chi ar y ffordd i barti pen-blwydd, priodas neu noson allan efo ffrindiau, gall ewinedd pert fod yr ategolyn perffaith.
I ddechrau, glityr! Pwy sy ddim yn licio glityr? Does 'na ddim byd yn deud parti fel bach o sbarcl. Mae modd mynd ‘all out’ gydag ewinedd hollol sbarcli neu ychwanegu pop o arian neu aur glityr i dynnu llygad. Mae ychwanegu siapiau a phatrymau geometric yn ffordd o ddyrchafu'r ewinedd a mynd a nhw i’r lefel nesa. Mae modd hefyd ychwanegu glits arian at liwiau gwahanol i ychwanegu haen wahanol! Mae modd rhoi’r patrymau hyn ar ewinedd hir ac ewinedd byr. Yn fan hyn mae cyfuniad y lliwiau a’r patrymau yn creu edrychiad lliwgar a chwareus. Mae amrywiaeth i’r dyluniad, o polka dots, sy’n trendi iawn ar hyn o bryd, i batrymau abstract sy’n rhoi cymeriad gwahanol i bob ewin. Mae’r lliwiau gwahanol yn hyfryd ac yn addas ar gyfer pob tymor.
Am rywbeth mwy cynnil ond yr un mor effeithiol mae modd cael patrwm syml ar gefndir plaen a niwtral. Mae’r lliwiau pinc a choch tywyll yma yn berffaith ar gyfer unrhyw achlysur boed yn barti neu de prynhawn gyda’r teulu yn ystod unrhyw dymor. Yr hyn sy’n lysh am symlrwydd y cynllun yw’r acenion syml a gwahanol ar bob ewin. Y blodyn gyda’r gemau sbarcli, a’r ‘french tips’ gyda thwist gyda phatrwm ‘tortoise shell’. Yma dani’n gweld y patrwm ar ewinedd eithaf hir gyda siâp almwnd ond mae modd cael yr un math o batrwm ar ewin byrrach hefyd.

Be da chi’n feddwl o’r patrymau yma? A fyddwch chi’n mynd i salon neu’n mentro gwneud y patrymau yma eich hun? Mae’r opsiynau a’r cynlluniau cŵl yn ddiddiwedd. Anfonwch eich lluniau ewinedd aton ni i ni gael gweld!
Lluniau gan Esyllt a Catherine o gyfres deledu Y Galeri Luniau, S4C!
bottom of page





