
Helo! Fi yw Catrin, a dwi'n dwlu ar deithio. Dwi'n gwybod eich bod chi'n rhy ifanc i godi pac nawr, ond beth am ystyried gwneud ymhen rhai blynyddoedd?
Ar ôl i mi raddio o’r brifysgol, ges i swydd cynllun graddedigion gyda chwmni ceir enwog - swydd ddelfrydol. Ond ar ôl cwpwl o flynyddoedd sylweddolais nad o’n i’n mwynhau, ddim yn cael fy ngwerthfawrogi a ro'n i wedi cael digon o weithio 12 awr (literally) y diwrnod. Ar fy mhen-blwydd yn 25 ges i, be dwi’n ei alw, yn quarter life crisis. Penderfynais newid fy mywyd.
Yn gyntaf es i i Africa am fis i gampio (mewn pabell!!) er nad oeddwn erioed wedi campio o’r blaen. Wedyn es i i Asia i ddysgu Saesneg i blant. Wnes i benderfynu gwthio fy hun mewn ffordd o'n i heb ei wneud o’r blaen ac mi roedd y profiad yn anhygoel. OND peidiwch â gadael i Facebook neu Instagram eich twyllo, doedd y dyddiau o weithio 12 awr y dydd tan 9 neu 10pm ddim wedi gorffen, ac ar adegau roedd hi’n anodd, yn enwedig o fod mor bell i ffwrdd o fy nheulu a ffrindiau.