top of page

Gair gan y Golygydd

Fi-1.jpg

Wel, helo! Mae hi wedi bod yn sbel go hir ers i mi ysgrifennu gair bach fel hyn, do? I fod yn blwmp ac yn blaen, dwi wedi bod yn trio ac mae’r darn yma wedi cael ei gychwyn sawl tro. Dim oherwydd nad oes gen i rywbeth i’w ddweud, achos mae’r rhestr o’r hyn fyswn i’n gallu ei drafod yn faith! Ond, mae llond llaw o bethau ar fy rhestr yn teimlo’n hollol ddibwys bellach, gyda gweddill y rhestr yn teimlo mor bwysig nes eu bod yn haeddu lle arbennig eu hunain ar y wefan, yn llawer rhy rymus i’w crybwyll mewn erthygl sy’n crynhoi’r hyn sydd ar fy meddwl. Felly, maddeuwch i mi os byddai’n hawlio mwy nag un erthygl dros yr wythnosau nesaf, ond dwi eisiau bwrw fy mol a gwneud cyfiawnder ar y pynciau yma.
 

Gaza

Wnes i dreulio wythnos diwethaf yn yr Eisteddfod, a dwi wrth fy modd mynychu’n flynyddol. I mi, mae’n ddathliad nid yn unig o’n hunaniaeth, ond hefyd yn ddathliad o heddwch. Roeddwn felly’n falch o weld nad oedd rhaid i mi edrych yn bell i weld fflag Gaza wrth gerdded y Maes, gydag artistiaid yn datgan eu cefnogaeth am ryddid i Gaza ar sawl llwyfan, gan gynnwys Y Pafiliwn ei hun.

Welais i ddatganiad yn ystod yr wythnos bod cyfarwyddyd wedi ei roi i swyddogion BBC Cymru Wales i beidio dangos mynegiant o gefnogaeth i Balesteina, ac y dylai peidio darlledu unrhyw gyfweliad neu berfformiad sydd yn mynegi cefnogaeth. Braf iawn felly oedd gweld artistiaid yn uno i roi fflag Gaza yn rhan flaenllaw o’u perfformiadau, gydag un Eisteddfotwr yn gwireddu cais Dafydd Iwan o gael gwisgo’r fflag yn ystod ei berfformiad olaf gyda’i fand yn yr Eisteddfod, a hynny drwy daflu fflag i fyny ar Lwyfan y Maes. Allai ddychmygu bod mynd ati i ddarlledu gan ddilyn y canllawiau a roddwyd yn dasg amhosib, hynny’n ddiolch i artistiaid yn uno er mwyn datgan cefnogaeth am ryddid i’n brodyr a’n chwiorydd sy’n dioddef wrth law llywodraeth greulon.

 

Untitled design.jpg
1.png

Merch Anas

Rwy’n ysgrifennu hwn ar y diwrnod lladdwyd y newyddiadurwr Anas Al Sharif, oedd yn ddewr yn ei sylwebaeth o’r hyn roedd yn digwydd o’i gwmpas. Mae fideo o Anas a’i ferch yn aduno wedi cyfnod ar wahân wedi cael ei rannu ar-lein. Wrth wylio’r fideo, y cariad mor gryf bod modd teimlo’r tyniant rhwng tad a merch, wnes i sylweddoli mai tua’r un oed oeddwn i pan wnes i ddod o fewn trwch blewyn o golli fy nhad fy hun. Wrth gwrs, doeddwn i ddim yn byw mewn rhyfel ac ni laddwyd fy nhad wrth law cyfundrefn oedd yn ei dargedu - cafwyd llif ar yr ymennydd. Wel, dau a dweud y gwir. Un ddaru fyrstio, a’r llall oedd ar fin diweddu ei fywyd petai’r llawdriniaeth heb ddigwydd yn y fan a’r lle ar yr union adeg honno. Roedd dod i sylweddoli bod Dad am farw neu oroesi gyda niwed enfawr i’w ymennydd yn hollol drawmatig i blentyn mor ifanc, gymaint nes rydw i’n gallu cofio hyd heddiw'r wisg roeddwn yn ei wisgo wrth ymweld â’i wely yn yr ysbyty a dwi’n cofio’r tyniant yna rhwng tad a merch yn cael ei flocio’n llwyr gan wely oedd mor uchel i mi, weiriau yn sicrhau bod coflaid yn amhosib a’r graith ar ei ben wedi ei greithio ar yn fy nghof. I’w gymharu, mae fy mhrofiad i, er mor drawmatig, yn ddiddig i’r hyn mae merch Anas yn profi yn ei phrofedigaeth  - ei thad yn cael ei dargedu, ei ladd, a’i orfodi i adael ei ferch a gweddill y teulu mewn dyfodol ansicr. Boed iddi dyfu’n ferch cryf, moesgar a dewr, yn union fel ei thad.

 

Geiriad

Does dim dwywaith bod platfformau newyddion yn gorfod bod yn ofalus gyda’r geiriau maent yn eu defnyddio. Wedi’r cyfan, mae miloedd ar filoedd o bobl yn ymddiried ynddynt i adrodd y gywir. Rydym wedi clywed droeon am y pwysigrwydd o “amhleidioldeb”, sef y syniad o beidio dewis ochr mewn dadl ac yn hytrach adrodd ar y ffeithiau. Mae hyn yn gwneud synnwyr, fel bod y stori lawn yn cael ei adrodd yn gwbl gywir, gan ganolbwyntio ar yr hyn rydym yn gwybod i fod yn wir. Felly, pam bod penawdau a datganiadau ar rai platfformau newyddion yn adrodd y gwir, ond nid y gwir yn ei chyfanrwydd?

Mae’r hyn dywedodd y cyflwynydd John Oliver ar raglen draw yn America wedi aros gyda fi;
“’Gaza is starving’ is a sentence that’s objectively true, but it’s also slightly misleading because it’s too passive. Gaza is being starved by Israel.”

Mae gan newyddiadurwyr a’u amryw blatfformau ddyletswydd i rannu’n newyddion yn gywir, ond mae hi’n hen bryd i bawb adrodd y newyddion yn gyflawn.

 

2.png
Sunrise on Nature

Ein Cyfrifoldeb Ni

Felly, beth yw ein cyfrifoldeb ni yn hyn i gyd? Wel, i barhau i siarad, a siarad am yr hyn sydd yn wir.

Mae bob sgwrs yn cyfri, yn y pen draw. Boed hynny’n floedd uchel ar orymdaith, neu’n sgwrs gydag aelodau’r teulu. Mae hyn yn arbennig o wir pan fo’r newyddion yn mynd yn ddistaw, sy’n digwydd o bryd i’w gilydd pan fo rhywbeth mawr arall yn digwydd. Rhaid cofio fod yr hyn sydd yn digwydd yn Gaza yn parhau, er weithiau mae’r chwyddwydr yn symud ymlaen i bwnc gwahanol. Mae’n rhaid i ni barhau i ymchwilio ein hunain, a pheidio dibynnu gormod ar yr hyn sydd yn cael ei adrodd yn y prif newyddion. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod beth rydym yn ei ddarllen a’i wylio yn gywir, a thrafod hyn ymysg ein gilydd yn ein cymunedau agos, a thu hwnt mewn gwylnos neu orymdaith.

Er bod y bardd Gerallt Lloyd Owen wedi ysgrifennu’r dyfyniad isod am ein hunaniaeth ni ein hunain fel Cymry, mae’r un peth yn hollol wir am genedl Gaza;

“Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl,
a’i hedd yw ei hangau hi.”

Bloeddia os wyt ti’n gallu, sibryda os ddim - ond paid, da chi, ag ymdawelu.

 

bottom of page