Fy mrwydr gyda bwyd:

Stori goroesi anorecsia

Ar ôl brwydro gydag anorecsia, a chyrraedd chwe stôn ar ei gwaethaf, mae Lois John, 18 oed, o Gapel Iwan, Sir Gaerfyrddin yn barod i rannu ei phrofiad. Â hithau’n wythnos codi ymwybyddiaeth i anhwylderau bwyta, dyma Lois i rannu ei stori gyda Lysh Cymru.

Helo, Lois John ydw i a nôl yn 2017 fe wnes i frwydro gydag anorecsia a wnaeth siglo fy myd a darfod popeth oedd ynddo. Yn ferch ifanc ar fin sefyll arholiadau cyntaf TGAU fe wnes i brofi teimladau newydd o bryder a gorfeddwl a oedd yn estron i mi cyn hynny. O fewn cwpwl o fisoedd ro’n i’n boddi mewn môr o bryderon ac yn araf bach wnes i droi at reoli fy mhrydau bwyd er mwyn gallu cael rheolaeth ar o leiaf un elfen o fy mywyd. 

Ymhen amser fe wnes i gwympo i mewn i dwll tywyll iawn ac roedd yr un peth ro’n i'n credu fy mod i’n ei reoli yn fy rheoli i, sy’n eironig. Fe wnes i droi i fod yn sâl iawn yn gorfforol yn ogystal ag yn feddyliol. Roedd fy mhwysau yn syrthio yn is ac yn is bob wythnos a’r syniad o allu gwneud y pethau ddylai merch 15 allu gwneud yn diflannu. 

Mewn ychydig o fisoedd roedden o dan ofal CAHMS yng Nghaerfyrddin ond yn anffodus tywyll oedd fy sefyllfa. Wrth i'r wythnosau fynd heibio dechreuodd pryderon meddygol godi fel bilirubin isel yn fy afu, roedd fy nghroen yn felyn a fy ngwallt yn disgyn allan. Wythnosau ar ôl troi'n 16 bu’n rhaid i fi fynd i ysbyty Glangwili oherwydd bod fy nghuriad calon wedi syrthio i 29 - dylai merch fy oedran i fod a churiad calon o tua 70 y munud.

Ar ôl bod yna am wythnos sylweddolodd y doctoriaid bod fy mrwydr gyda bwyd yn gwaethygu a bu’n rhaid i fi fynd i fyw mewn ward ym Mhen-y-bont ar Ogwr o’r enw Tŷ Llidiard. Ar y dechrau roedd yn teimlo’n debyg i garchar, ro’n i’n casáu’r lle ac yn defnyddio’r tamaid o egni oedd gyda fi yn ceisio dianc trwy frwydro yn erbyn pawb a phopeth. Wrth i fy nghyflwr waethygu fe ges i fy ngorfodi i ddechrau herio fy hunan a'r diafol twyllodrus yn fy mhen. Mewn ychydig o fisoedd fe ges i fy rhyddhau ac fel diolch oddi wrtha i yn ogystal â'r gymuned lle ges i fy magu, fe wnaethon ni rhoi swm ariannol mawr i'r uned.

Nawr, wrth gyrraedd y trydydd mis yn 2020, rwyf y fersiwn gorau o fy hun. Wrth edrych nôl mae’n syndod i sylweddoli fy mod wedi bod ar ryw fath o 'death row' am amser mor hir. Heb yr anhwylder ofnadwy fi'n ofni na fydden i'r person yr ydw i heddiw ac o hynny mae'n rhyfedd iawn i ddweud fy mod i’n ddiolchgar.

I unrhyw un sydd yn profi’r anhwylder ofnadwy a chas yma ar hyn o bryd dyma gwpwl o dips i chi er mwyn gallu dychwelyd i fywyd hapusach ac i geisio cael rhyddid unwaith eto: 

  1.  Mae'n rhaid i chi gofio nad chi yw'r anorecsia. Yn syml, ar y dechrau ro’n i’n credu mai fi oedd yn gorfodi fy hunan i beidio â bwyta ac i geisio colli 2 bwys y dydd ond mewn gwirionedd yr anorecsia oedd hyn, mae'n rhaid i chi ddysgu i wahaniaethu'r anorecsia oddi wrth eich llais chi. 

  2. Amgylchynwch eich hun gyda phobl bositif. Mae'n swnio'n syml ond yn y cyflwr yr o’n i ynddo, roedd y byd ar ben bob munud o'r dydd ac ar lawer o adegau ro’n i am roi’r gorau i bethau. Ond wrth gael teulu cefnogol roedd eu hegni positif yn bwydo fy awydd i frwydro a dyfalbarhau.

  3. Credwch beth mae pobl yn dweud. Fe wnes i gredu bod pawb yn dweud celwyddau wrtha i, er enghraifft, “ti'n denau”, “galle dy galon stopio unrhyw funud” ayyb. Roedd y rhain yn ffeithiau cadarn ond oherwydd bod yr anorecsia yn dylanwadu arna i ro’n i’n credu mai celwyddau oedden nhw wrth bobl a oedd yn ceisio fy nghael i i stopio. Ond yn anffodus roedd gwirionedd ym mhopeth oni bai'r llais bach tu mewn i fi'r o’n i'n gaeth i wrando arno.

  4. Chi sydd gryfaf!

Gair o gyngor

Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:

Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456

Beat - www.beateatingdisorders.org.uk

Mae yna hefyd gyngor da ar gael yn Gymraeg ar wefan Meddwl.org - https://meddwl.org/cyflyrau/anhwylderau-bwyta/ 

Sut i gefnogi ffrind sydd â phroblem bwyta

Os ydych chi'n poeni am ffrind sy'n ei chael hi'n anodd bwyta, gwrandewch arnyn nhw. Efallai bod ganddyn nhw bethau anodd yn digwydd yn eu bywyd sy'n achosi'r newidiadau i'w bwyta.

Anogwch eich ffrind i siarad â'u meddyg teulu fel y gallant ddarganfod pa gymorth proffesiynol sydd ar gael iddynt.

Cofiwch, os ydych chi'n poeni amdanyn nhw, does dim rhaid i chi gadw eu cyfrinach oherwydd os nad ydyn nhw'n cael yr help sydd ei angen arnyn nhw gall pethau waethygu'n gyflym iawn. Efallai y bydd dweud wrth aelod o’r teulu, athro neu rywun arall yr ydych yn ymddiried ynddo yn teimlo’n anodd i’r ddau ohonoch, ond mae’n bwysig oherwydd po gyflymaf y bydd eich ffrind yn cael cefnogaeth, y mwyaf tebygol y byddant o wella.

Edrychwch ar ôl eich hun. Gall fod yn anodd iawn cefnogi rhywun sy'n mynd trwy amser anodd a gall hyn effeithio ar eich lles a'ch iechyd meddwl eich hun. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi rywun y gallwch chi siarad â nhw am sut rydych chi'n teimlo, fel aelod o'r teulu neu ffrind dibynadwy.

Noddir gan Lywodraeth Cymru_Gwyn.png

Cefnogir Lysh gyda chymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Llyfrau Cymru. 

Hawlfraint © 2019 Lysh Cymru. Nid yw Lysh Cymru yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.