top of page

Fi yw Fi: Sioned

Countryside Road

Fi ddim y pertaf. Fi ddim y mwyaf poblogaidd. Fi ddim yn berffaith. Does gen i ddim corff tenau, siapus, nac wyneb llyfn, meddal, heb sôn am wallt godidog sy’n disgleirio yn yr haul. Fedra i ddim eich swyno ar yr olwg gyntaf. Ond pa ots yw hynny? Rydw i’n berson fy hunan, does dim rhaid bod y ddelwedd gywir o ferch fel y gwelir yn y cylchgronau. Ni gyd yn wahanol. Dyma fi.

Merch o’r mynydd. Cefn gwlad Cymru. Y Gorllewin gwyllt, yr arfordir creigiog a’i phrydferthwch. Hwn yw fy myd i. O gopa Pen Dinas yn Aberystwyth lawr hyd at fwrlwm Tref Aberteifi.

 

Sioned ydw i. Rwy’n ddeuddeg oed ac rwy’n mynychu Ysgol Bro Teifi yn Llandysul. Adref rwy’n byw efo mam, dad, fy chwaer fach Beca a fy nghi bywiog Benji mewn pentref bach ger ardal Llanbedr Pont Steffan.

Dwi ddim yn un o rheini sy’n joio siopa a gwisgo ffrogiau a cholur. A dweud y gwir rwy’n casáu hynny’n fwy na dim. Rydw i'n mwynhau ffotograffiaeth, padlfyrddio a seiclo. Blas yr aer hallt lawr ar draeth Llangrannog neu'r gwynt yn gwibio heibio fy nghlustiau yn gyflymach na mellten wrth i mi barhau i bedlo yn Nhregaron. Un o fy niddordebau yw chwarae hoci. Rwy’n chwarae i dîm Llandysul.
 

Mountain biking

Mae pobl yn meddwl eu bod nhw yn gallu fy narllen fel llyfr, eu bod nhw yn fy adnabod. Y ferch dawel, swil yna yng nghefn y dosbarth. Ond dim fi yw honna. Dim y gwir fi. Adref rydw i’n dawnsio a chanu o gwmpas y lle fel clown dwl, ac yn cael amser fy mywyd. Fel mae’r rhan fwyaf ohonoch chi siŵr yn gwybod, cafodd Eisteddfod Genedlaethol Cymru cael ei chynnal ar ffin Tregaron eleni ac yn honno ces i’r fraint o fod yn un o ferched dawns y blodau - ac am unwaith, r’on i’n hapus i wisgo ffrog borffor adeg y seremonïau coroni a chadeirio!

Nid fi yw tegan disgleiriaf yn y siop, does dim miloedd eisiau bod fel fi. NA. Dwi’n gwbl unigryw. Fedrith neb bod yn fi,  ac fel 'na dwi’n ei hoffi. Dim ond un aren? Ie ar yr ochr chwith. Sbectol? Oes, ers o’n i’n 5. Tyllau’n fy nghlustiau? Dim gobaith caneri. Sgertiau byr? No wê! Crys T a thrwseri - bob dydd! Felly am nawr dyma fi, ond mewn blwyddyn - pwy a ŵyr!

 

bottom of page