Fi Mewn Tri
Cip ar dri dilledyn sy’n bwysig i Mirain Iwerydd
gyda Llio Angharad
Mae wardrobs merched Cymru yn orlawn, o fargeinion siopa elusen i hen hen ddillad does gynom ni ddim mo’r calon i'w rhoi i ffwrdd. Ond, yn fwy ‘na jest cist llawn defnydd, mae wardrobs merched Cymru llawn storis. Mae pob dilledyn yn geidwad i hanesion difyr ac atgofion melys.
Ymysg y ffasiynol yn swyddfa Radio Cymru Mirain Iwerydd, cyflwynydd o fri sy’n diddanu’r genedl ar ei sioe frecwast penwythnosol.
Cefais y cyfle i sgwrsio gyda Mirain i’w holi pa drysorau sy’n byw yn ei wardrob hi. Cychwynnais drwy ofyn be ydi’r fargen ora’ mae hi wedi dod ar ei draws, ac yna ymddangoswyd siaced yn y piws mwyaf llachar erioed!

Mirain Iwerydd:“Wnes i gael hwn mewn siop elusen yn Aber am £5! Fi jest yn meddwl fod e’n hyfryd achos mae e’n fully-lined, mae e’n rili safonol a oedd e’n £5! Stori ddoniol... nath ffrind fi ffeindio fe’n wreiddiol, ond oni ‘di cwympo mewn cariad ar ôl i fi weld e, nes i snatchio fe mas o'i dwylo hi! Mae o fel stolen jacket dipyn bach, ond nes i ofyn iddi ‘ti’n siŵr ti ddim moyn e?’ a odd hi fel ‘na mae o’n fine, gei di fe’ ond dwi wedi cynnig bod hi’n gallu rhannu’r siaced. Dwi yn absolutely caru’r siaced yma a oedd e ‘mond yn £5!”
Llio Angharad: Pan ti’n disgyn mewn cariad efo dilledyn, does ‘na ddim byd yn gallu cal yn y ffordd nagos?
MI: Yn union, oni jest fel OMG ‘ma rhaid i fi gal hwnna, ma rhaid i fi gal e!
LA: Be ydi’r dilledyn efo’r atgofion mwyaf melys?
MI: Fi ‘di dewis y par o ddyngarîs ‘ma. Wnes i wnïo’r rhain allan o hen gyrtans yn ystod y lockdown cyntaf. Odd dim syniad be oni’n neud efo peiriant wnïo yn ystod y lockdown cyntaf, wnes i jest gweld y rhain [y cyrtans] yn tŷ fi a meddwl ‘hei, fydda nhw’n neud dilledyn rili col’. Ac wedyn wnes i fideo Hansh, ac wedyn dyna sut wnes i ddechre yn y byd cyflwyno. Ma’ rhain wastad yn dod ag atgofion rili rili melys i fi achos dyna’r tro cynta pan wnes i rain oni fel ‘hei, fi’n actually rili joio cyflwyno a ma’ pobl eraill yn meddwl dwi ddim too bad yn neud e’, ma’ popeth fi di neud yn y byd cyflwyno ar y radio a phethe fi fel kind of yn diolch am hwnna i gyd i'r rhain. A ma nhw’n rili cosy a’r peth cynta wnes i wnïo! Dwi wedi cwympo mewn cariad efo gwnïo ar ôl creu'r rhain.

