top of page

DigwyddiadaU
ar y Gorwel

baner cymru.png
Untitled design (14).png

Gyda’r gwanwyn ar droed, mae pawb o bobl y byd yn deffro’n ara’ deg o’r trwmgwsg gaeafol. Rydym yn ysu’n ddiffuant am haul, dipyn bach o gynhesrwydd a llond trol o hwyl a chreu atgofion.

Mae’n amser felly i edrych ymlaen at beth sydd i ddod eleni a wir i chi, mae’n argoeli i fod yn flwyddyn a hanner!

 

Delwedd: © S4C

Cân i Gymru 2023

Cerdyn sgorio allan, mae’n amser #CiG2023!

Wel, dyma i chi gystadleuaeth sy’n hynach nag amser ei hun ac mae’r Cymry i gyd yn edrych ymlaen yn arw ati! Eleni, mae’r safon yn uchel iawn gyda chyfansoddwyr a pherfformwyr yn brwydro am y tlws arbennig.

Er dim ond dwy gân fydd yn cael ei pherfformio gan ferched eleni, mae’r merched sydd yn ein cynrychioli yn rhai hynod o ddawnus. Bydd tair o’r grŵp Tant, sef Siwan Iorwerth, Angharad Elfyn ac Elliw Jones yn perfformio cân sydd wedi cael ei chyfansoddi gan Alun Tan Lan. Dwy sydd wedi cyfansoddi ac yn perfformio cân eu hunain ydi Sarah Zyborska ac Eve Goodman.

Cewch wylio’r cyfan yn fyw ar S4C ar y 3ydd o Fawrth. Peidiwch ag anghofio eich cerdyn sgorio!

 

Ysgoloriaeth Bryn Terfel

Mae hon yn gystadleuaeth sy’n cynnig cyfleon gwerth chweil i restr fer o’r unigolion mwyaf talentog yng Nghymru. Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth ddychwelyd ers 2019, felly mae’n debyg y bydd hi’n sioe fythgofiadwy.

Gyda Chymru mor fach, mae pawb yn siŵr o fod yn adnabod rhywun ar y rhestr fer! Fyddwch chi gyd yn gyfarwydd â Gwenno Morgan yn dilyn
ei erthygl sbel fach yn ôl ac yn cystadlu gyda hi mae dwy ferch ddawnus arall; Fflur Davies a Mali Elwy.

 

Delwedd: © Urdd Gobaith Cymru/S4C

Yr elfen gyffrous sy’n perthyn i’r gystadleuaeth yma ydi bod pawb yn arddangos talentau amrywiol; o ddawns i chwarae offeryn neu ganu, mae bob cystadleuydd yn unigryw mewn ffordd arbennig iawn.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu ar nos Sul y 12fed o Fawrth neu, os ydych chi ffansi gwylio’r cyfan yn fyw, mae’r noson fawr yn cael ei chynnal ar y 5ed o Fawrth draw yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

 

Delwedd: © Urdd Gobaith Cymru

Eisteddfod yr Urdd 2023

Mae’n anodd coelio pa mor gyflym mae’r Eisteddfod yn ein cyrraedd bob blwyddyn, ond mae plant a phobl ifanc ledled y wlad yn paratoi ar gyfer y prelims a’r Eisteddfodau Cylch a Sir, sydd ar fin cychwyn!

Yn Sir Gaerfyrddin bydd ŵyl yn cael ei chynnal eleni ac o weld hynt a helynt yr ŵyl gyhoeddi, rydym wedi cael blas ar beth sydd gan Llanymddyfri i’w chynnig!

Mae Lysh eisiau gwybod, beth yw eich hoff beth chi am Eisteddfod yr Urdd? Mae’r ffair yn ffefryn i rai ac mae casglu freebies yn draddodiad i nifer. Fyddwch chi’n mwynhau cystadlu ar lwyfan neu ydych chi’n ffafrio’r brwsh paent ac yn cystadlu yn y babell celf?

Rydym yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod, sy’n cael ei chynnal o’r 29ain o Fai nes y 3ydd o Fehefin 2023.

 

Tafwyl

Dyma i chi arwydd fod yr haf wedi ein cyrraedd a dyma ŵyl mae pawb yn edrych ymlaen ati. Mae dweud fod gan Tafwyl rhywbeth i bawb yn hollol wir. Mae’n ŵyl ar gyfer y teulu cyfan! 

Yn 2023, bydd ŵyl yn symud ei chartref o’r Castell i Barc Biwt, drws nesaf. Mae’r parc yma yn gyfarwydd i bawb sydd wedi ymweld â Chaerdydd ac yn lleoliad perffaith ar gyfer picnic, ac eleni fe gewch fwynhau eich brechdanau wrth wrando ar fandiau mwyaf poblogaidd Cymru.

Croesi bysedd am dywydd braf ar gyfer yr ŵyl ar benwythnos y 15fed-16eg o Orffennaf 2023!

 

Delwedd: © FfotoNant

bottom of page