top of page

Cylchdro
Pŵer y Mislif

Yn ddiweddar, mae pêl-droed a Chwpan y Byd wedi bod yn bwnc llosg bob diwrnod bron!

Mae Cwpan y Byd yn cael ei gynnal dros 28 diwrnod ac mae hynny’n amser cyfarwydd iawn i rai ohonom ni gan mai dyma, ar gyfartaledd, yw hyd cylchdro merched.

Mae ‘Cylchdro’ yn brosiect creadigol sy’n cael ei gynnal gan Iola Ynyr a Sioned Medi, artistiaid creadigol, ac mae’r ddwy wrthi’n brysur yn cynnal gweithdai sy’n creu gofod diogel i drafod profiadau o’r cylchdro.

I wybod mwy am y prosiect, holodd Lysh ychydig o gwestiynau i Iola.

 

1-merched-mislif.png

Lysh Cymru: Fyswch chi’n gallu dweud ychydig mwy am Cylchdro?

Iola Ynyr: Mae Sioned Medi a finnau yn rhan o grŵp Ynys Blastig, sy’n grŵp o artistiaid sy’n cefnogi llesiant trwy gelfyddydau a chreadigrwydd ac mae Cylchdro yn estyniad o hynny, bron. Ei fwriad ydi hyrwyddo pêl-droed merched a hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cylchdro a chreu gofod saff i ferched allu trafod eu mislif heb gywilydd, a dangos fod y pŵer gennym ni a does dim angen ei guddio fo, mae eisiau ei ddathlu fo.

‘Da ni wedi bod yn mynd i ysgolion yn cynnal gweithdai Cylchdro yn ogystal ag efo timau pêl-droed hefyd drwy fynd i weld nhw i wylio a thrafod er mwyn dod i adnabod pa heriau sy’n eu gwynebu nhw.

LC: Beth ydach chi wedi ei ddysgu drwy gynnal y gweithdy?

IY: Beth sydd wedi dod i’r amlwg ydi gymaint o rwystrau a chymaint o dabŵ sydd yna, yn enwedig mewn ysgolion. Mae’r merched jest eisiau cael eu clywed ac yn byrlymu eisiau cael dweud!

 

Y bwriad ydi grymuso merched ond ar yr un pryd grymuso bechgyn.

Tydw i heb gynnal gweithdy gyda bechgyn eto, ond mae’n amlwg fod gwaith i wneud wrth godi eu hymwybyddiaeth nhw o’r mislif. Mae’n bwysig ein bod ni’n creu’r gofod iddyn nhw drafod a dod i ddallt hefyd. Beth mae’r merched wedi bod yn ddweud ydi eu bod nhw eisiau i fechgyn drio dallt yr ochr emosiynol a sut mae’r mislif yn effeithio ar iechyd meddwl. Mae merched eisiau i fechgyn ddallt os ydi merch yn flin, tydi gofyn “O, ti on?” ddim yn dderbyniol. 

 

LC: Pam wyt ti’n meddwl fod gwneud y cysylltiad rhwng y mislif a phêl-droed yn bwysig?

IY: Wrth siarad efo’r genod, mae’n amlwg tydi’r cyfleusterau ddim yna. Hyd yn oed os maen nhw’n teimlo’n ddigon da i fynd, toes dim toiledau gyda biniau addas i roi’r gwastraff.

Mae Cylchdro yn ceisio codi ymwybyddiaeth o be’ mae merched angen i godi eu hymwybyddiaeth nhw o beth mae merched angen i gefnogi nhw a thrio hwyluso sgyrsiau gyda hyfforddwyr hefyd. Dim gwneud lol mae merched os nad ydyn nhw’n gallu chwarae. Mae angen gwrando a pharchu bod y mislif yn effeithio ar eu cyrff nhw.

Roeddwn i’n siarad efo un ferch sy’n chwarae yn y gôl, ac roedd hi’n sôn bod ei cramps hi yn effeithio ar ei gallu hi i ymestyn am y bêl ac yn poeni bod ei pad hi am symud yn ystod y gêm.

Wedi dweud hynny, maen nhw i gyd wedi dweud hefyd weithiau mae jest bod ar y cae, hyd yn oed wrth waedu’n drwm, yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well.

 

2-ar-y-fainc.png
5-fy-ngylchdro-fy-mhwer.png

Dwi’n meddwl bysa fo’n ffantastig taswn ni’n cyrraedd pwynt lle mae merched yn colli gwaed ar eu dillad yn cael ei ystyried fel eu bod nhw wedi colli dŵr, ti’n gwybod? Bod yna ddim unrhyw deimlad o chwithdod, mae o’n rhan o fywyd heb angen teimlad o gywilydd.

LC: Mae cyfranwyr Lysh yn y gorffennol wedi trafod yr ystod eang o oed cychwyn y mislif. Sut mae’r sgyrsiau wedi bod am y pwnc yna?

IY: Mae sawl merch wedi sôn wrthai eu bod nhw heb gychwyn, a dwi’n meddwl fod hynny’n biwtiffyl, bod yna gyfle iddyn nhw ddweud hynny oherwydd mae yna bwysau ar ferched.
Ond ar yr un pryd, mae ‘na rhai merched sy’n cychwyn yn ifanc ofnadwy! 

Mae beth mae’r merched wedi bod yn ddweud wrthai yn bwysig, sef mae angen normaleiddio’r cylchdro fel ein bod ni’n gallu cael y sgwrs yn agored.

 

bottom of page