top of page

Cyfresi
Cyffrous

TV Remote

Dyma ni, wedi cyrraedd yr haf a diolch byth fod popeth yn dechrau dod i ben yn barod am saib haeddiannol! Dyddiau olaf ysgol, coleg - munud i anadlu heb boeni am unrhyw deadline.

Felly, rhaid cael cyfres i’w binjo! Cyfres i ymgolli ynddi’n gyfan gwbl am ychydig o oriau gyda llond trol o snacs i’w mwynhau, a phwy well i holi am argymhellion na darllenwyr Lysh?

Dyma lond llaw o’r argymhellion:

 

Copsan

Mae’n debyg fod penwythnos mewn gwersyll yn ddefod newid byd i harddegwyr Cymru ac mae gan bawb atgofion melys o’r hwyl a helynt sydd i’w gael yno! Tra bod rhai yn mynd i wersyll Llangrannog ger y môr, Glan Llyn yw’r lle i fynd i eraill.

Gwersyll y Fron yw cartref disgyblion Ysgol Glanrafon am benwythnos yn ail gyfres Copsan, sy’n serennu neb llai na lodes Lysh
Becca Naiga a’r comedïwr Kiri Pritchard-McClean. Spin-off i gyfres Rownd a Rownd ydi Copsan, sy’n rhoi mewnwelediad i gymeriadau ifanc y gyfres. Tybed, all Rhods, y swog, gadw trefn ar bawb, neu oes angen rhywun i gadw trefn ar Rhods?

 

Copsan.jpg

© Rondo Media / S4C

Extraordinary.jpg

© Sid Gentle Films / Disney+ Star

Extraordinary

Cyfres sydd wedi ei gosod mewn byd sy’n wahanol iawn ond eto’n hynod o debyg. Mae Jen, rhan sy’n cael ei chwarae gan Máiréad Tyers, yn wynebu sefyllfa anodd; mae pawb o’i chwmpas yn datblygu pwerau goruwchnaturiol. Pawb ar wahân iddi hi.

Er bod y gyfres yn un sydd wedi’i selio ar bwerau sydd ddim yn bodoli i ni, hawdd iawn yw uniaethu gyda Jen a’i theimladau cymysg.  Mae pob un ohonom wedi teimlo fel asyn mewn cae o ferlod o leiaf un tro, yn teimlo’r genfigen, siom ac yn ddigalon. Ond, mae’n bwysig i gofio ein bod ni yn wahanol ac mae hynny’n rhywbeth arbennig iawn. Nid asyn mewn cae o ferlod wyt ti wedi’r cwbl, ond iwnicorn!

 

Y Sŵn

Ocê, dydi hon ddim yn gyfres, ond mae’r ffilm yma yn un da i lenwi prynhawn diog.

Mae ein sianel deledu genedlaethol yn rhywbeth rydym yn ei gymryd yn ganiataol. Efallai na fyddwch chi’n cofio amser heb S4C! Fydd rhai yn cofio gwylio Slot Meithrin ac eraill yn fabis Cyw, ond mae S4C wedi bod yno erioed i ni. Prin ein bod wedi sylwi ar y frwydr i gyrraedd y sefyllfa yma.

Cawn gwrdd â chymeriad Gwynfor Evans, wedi ei chwarae gan Rhodri Evan, a Ceri Samuel, wedi ei chwarae gan Lily Beau, sy’n ein tywys ar daith ar hyd ein hanes ac yn rhoi darlun cyfan o’r aberth a thrybeini. Rhaid canmol am yr olygfa dwyn papur toiled, ond does dim spoilers yma!

 

Y Swn.jpg

© Swnllyd / Joio / S4C

Dal y Mellt.jpg

© Vox Pictures / S4C / Netflix

Dal y Mellt

Er i’r gyfres ddod allan sbel yn ôl, mae’r gyfres yma yn werth ei gwylio os nad ydach chi wedi mynd ati i wneud yn barod! Dyma gyfres sydd wedi cael argraff arbennig nid yn unig yma yng Nghymru. Mae stori Carbo yn cael ei mwynhau ledled y byd wrth iddi gael ei harddangos ar wasanaeth ar alw Netflix.

Cewch fwynhau’r gyfres yng nghwmni Carbo, bachgen sydd â bysedd blewog gyda thrwbwl yn ddilyn bob gam. Ymysg y cymeriadau lliwgar eraill mae Mici, Gronw, Antonia a Les, sydd yn siŵr o’ch diddanu trwy’r gyfres gyfan. A phwy a ŵyr, efallai cawn ail gyfres yn fuan, felly mae’n hen bryd i chi ddal i fyny ar y gyfres gyntaf!

 

Heb os, mae darllenwyr Lysh yn rhai gwych am rannu argymhellion felly mae’r rhestr yma yn un dda i’ch rhoi chi ar ben ffordd wrth benderfynu beth i wylio wrth ymlacio'r haf yma.

Oes gennych chi argymhellion ar gyfer cyfresi teledu? Rhowch wybod i ni ac efallai wnawn ni rannu eich syniadau ar ein cyfrifon cymdeithasol!

 

bottom of page