Pel droed.png

Oes Croeso i ni gyd
yng Nghwpan y Byd?

Untitled design (4).png

Mae Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 ac er bod ein calonnau yn byrstio efo balchder ar ôl aros mor hir, mae blas sur yn tarfu ar y dathlu.

Yng Nghatar, mae bywyd yn dra gwahanol i ni yng Nghymru wrth i bobl hoyw, traws, merched a mewnfudwyr cael eu trin fel aelodau eilradd o’r gymdeithas. Mor ffiaidd yw triniaeth y grwpiau yma, mae sawl ffan pêl-droed brwd sy’n perthyn i’r cymunedau yma yn penderfynu aros adref oherwydd yr ofn sydd ganddynt o gael eu herlyn eu hunain.

 

Mynegi drwy gân

Ar ddiwrnod gêm gyntaf Cymru yn erbyn America, cyhoeddodd y cantor Yws Gwynedd gân fer ar ei lwyfannau cymdeithasol yn nodi’r hyn sy’n digwydd draw yng Nghatar. Yn ei gân, mae’n gofyn cwestiwn digon teg, sef “Sut ar y ddaear gafodd ffasiwn le llwyfannu cwpan wbath mae ‘na tê?”. Felly, aeth Lysh ati i’w holi, beth wnaeth ei ysgogi i greu’r gân?

“Jyst teimlo’n rhwystredig rili,” esboniodd. “Weithia’ ti’n teimlo fel bod ‘na ddim byd fedri di neud sy’n gallu gwneud gwahaniaeth, ond wedyn nes i sylweddoli fod gwneud unrhyw beth yn well ‘na gwneud dim byd. Dydi 30 eiliad o gwpl o benillion yn Gymraeg ddim am newid penderfyniad FIFA, ond os neith lot o bobl neud wbath bach, neith o gyfri at rywbeth mwy.” 

Un o’r pethau bach hynny mae Ywain wedi ei wneud ydi gwisgo ategolion sy’n cefnogi’r achos. “Nes i brynu ‘captain’s armband’ enfys a chria enfys i wisgo efo’r band ac ar y teledu, wedyn ddim cweit teimlo fel bo fi’n deud digon, a’r ffordd orau i fynegi wbath fysa drwy gân fach. Dwi methu dychmygu peidio cael fy nerbyn fel person jyst am fod ‘na lywodraeth efo agweddau afiach tuag at hawliau pobl.”

 

Gêm i’r bobl, neu gêm arian?

Un o’r un farn ydi Begw Elain ac mae hi’n un o’r ffans mwyaf eiddgar tîm pêl-droed Cymru.

“Heb amheuaeth, dylai FIFA ddim wedi caniatáu prif dwrnament pêl-droed y byd mewn gwlad fel Catar,” meddai. “Gêm i’r bobl yw pêl-droed ond erbyn heddiw mae arian yn cymryd drosodd a ni ddylai cynnal y twrnament mewn gwlad sydd yn erbyn rheolau dynol.”

Er nad ydi Begw yn cytuno gyda rhoi’r llwyfan i Gatar, credai fod angen manteisio ar y platfform. "Tra mae’r twrnament yma, credaf y dyliwn ni fel cymdeithas ddefnyddio’r statws a phŵer sy’n dod gyda bod mewn twrnament fel hyn i hyrwyddo fod gan bawb yr hawl i wylio gêm bêl-droed yn gyffyrddus ac yn hapus,” eglurai. “Ddylai neb beidio gallu mynd i ddilyn eu gwlad yng Nghwpan y Byd oherwydd eu rhywioldeb. Mae’n siomedig iawn fod cefnogwyr wedi methu mynd oherwydd eu rhywioldeb a gobeithiwn y gallwn ddefnyddio hyn i ysbrydoli fwy o ymgyrchu a bod pawb yn cael yr hawl i gefnogi eu gwlad yn y dyfodol. Gyda’n gilydd yn gryfach!”

 

Soccer Game

Mae’r sgwrs ‘Yma o Hyd’

Mewn cwpwl o wythnosau, bydd y gêm wedi gadael Catar a’r timau yn dychwelyd adref. Ond, nid dyma ddiwedd y sgwrs. Credai Ywain Gwynedd fod ffordd eto i fynd a bod parhau i sgwrsio am gydraddoldeb yn hynod bwysig.

“Pob tro ti’n meddwl fod cymdeithas ‘di symud ymlaen ti’n sylwi fod ‘na lot fwy o waith i’w wneud. Mae’n torri 'nghalon i fod pobl traws heddiw’n wynebu llawer o’r heriau ac atgasedd ag oedd bobl hoyw yn wynebu yn ôl yn yr 80au a’r 90au, ac yn dal i wynebu mewn gwirionedd, fel ‘dan ni’n weld yn Catar,” meddai. “Dwi isio ‘fast forwardio’ i fyd lle dwyt ti ddim yn gorfod bod ofn bod y person wyt ti, heb boeni fod ‘na lefydd yn y byd lle chei di ddim dy dderbyn. Mae ‘na lot o waith i neud, dim fi fydd ar flaen gad y frwydr, ond pan mae’r bobl sy’n rhedeg y gêm dwi’n caru’n gwneud y fath benderfyniadau, mae o’n ddyletswydd arna i a pob un cefnogwr pêl-droed i ddod a’n lleisiau at ein gilydd i floeddio dros yr anghyfiawnder.”