Helo ‘na!
Pwy sydd wedi cael llond bol ar glywed y gair ‘coronafeirws’ bellach? Dan ni gyd wedi, fwy nag thebyg. Mae popeth yn fy mywyd i wedi cael ei ganslo’n gyfan gwbl- sioe flynyddol drama, arholiad piano, Clwb Ffermwyr Ifanc, gigs - yn bwysicach fyth, pêl-droed! Dwi ar goll yn llwyr heb fy mhêl-droed. A gyda’r newyddion drwg fod Ewros yn symud at flwyddyn nesaf, mae hi’n mynd yn waeth.
Dwi’n ddisgybl ym mlwyddyn 10 ac mae hi yn gyfnod mor anodd i weithio yn yr ysgol. Mae athrawon wedi bod yn arbennig o dda yn rhoi gwaith i ni ar gyfer y cyfnod nesaf wrth i ni weithio o adref. Beth sydd am ddigwydd gyda’r arholiadau ydy'r cwestiwn mawr? Mis Fehefin eleni roedd gen i bedwar arholiad, i fod, a fyddai wedi cyfri, ond rŵan does gen i ddim syniad be fydd y camau nesaf. Os bydd angen sefyll yr arholiadau yma’r flwyddyn nesaf, mae’n mynd i fod yn bwysau ychwanegol wedyn ac yn sicr fydd hynny’n effeithio ar ein hiechyd meddwl ni. Mae’n ddyddiau cynnar gyda gweithio o adref - ond y poen meddwl mwyaf ydy be sy’n digwydd nesaf.