Bydda'n chdi dy hun!

Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Trawsffobia – a dyma neges gan Lowri Morgan yn arbennig i #LyshCymru

LMW 1.jpg

Wrth dyfu fyny yng Nghaernarfon, roedd o’n anodd i mi ffeindio'r geiriau am amser hir i gydnabod i fi fy hun ‘mod i ddim jest yn licio hogia. Peidiwch â ‘nghael i’n rong, wrth edrych yn ôl, dwi’n rili falch ‘mod i wedi cael fy magu lle wnes i, ond ar y pryd, heb swnio’n rhy ddramatig, mi oedd o’n teimlo ychydig bach fel carchar i fy hunaniaeth.
 

Ro’n i’n ymwybodol o bobl hoyw eraill ond mi roedd gen i ormod o ofn i ymestyn fy llaw a dweud “a fi hefyd”. Mewn gwirionedd wnes i ddim hyd yn oed gadael i fy hun wneud unrhyw beth am y peth nes ro’n i wedi symud i Gaerdydd i’r brifysgol. Mae o’n rhywbeth dwi’n difaru yn fawr iawn oherwydd oedd cuddio rhan mor fawr ohona i rhag fy ffrindiau a fy nheulu yn straen mawr arna i ac ar fy mherthnasau.

Mae internalised homophobia yn rhywbeth mae pob person hoyw yn gorfod byw efo i ryw raddau, sydd yn ofnadwy o drist. Yn gwybod ‘mod i’n licio bechgyn a merched, ro’n i wastad yn teimlo ‘mod i’n gwneud ffŵl o fy hun ac yn twyllo fy hun drwy drio bod yn “wahanol”. Ro’n i’n teimlo mod i wastad yn trio dal fy hun allan a bod be o’n i’n ei deimlo ddim yn wir. Pan wnes i ddechrau perthynas gyda merch am y tro gyntaf a gorfod wynebu fy nheimladau yn iawn, mi oedd o’n anodd iawn i mi ddelio gyda hynna a derbyn bod be o’n i’n ei deimlo yn ddilys.

Mae labels yn rhyw betha bach annoying, tydyn? I fi, ro’n i’n ysu i gal un, ro’n i eisio ffitio mewn i “un” peth a rhoi ruban arno yn ddel fel ‘mod i’n medru dweud: Dyna ni, s’nam rhaid i fi feddwl am y peth ddim mwy. Ond mewn gwirionedd dydw i dal ddim yn siŵr, hyd yn oed ar ôl bod ‘allan’ am flynyddoedd a bod mewn perthynas hir dymor gyda merch, dydw i dal ddim yn siŵr mod i’n ffitio mewn i label ac o’r diwedd alla i ddweud wrth fi fy hun bod hynny’n oce.
 

Mae’r stigma dal yna i fod yn hoyw yng Nghymru, alla i mond siarad â phrofiad fy hun fel dynes cisgender hoyw ond mae o’n deimlad tanseiliol iawn yn byw gyda’r wybodaeth nad oes yna ddim cynrychiolaeth mewn ffilmiau, rhaglenni teledu na theatr Cymraeg o ddynes hoyw gref fel rhyw fath o brif gymeriad. Wrth dyfu fyny hefyd roedd hyn yn atgyfnerthu fy nghred bod o’n rhywbeth i guddio ac yn rhywbeth i deimlo cywilydd ohono.
 

Yr hyn wnes i sylweddoli drwy edrych yn ôl ar fy mhrofiadau oedd, ro’n i’n teimlo mor euog am ddod allan oherwydd oeddwn i’n gwybod bod o’n sgwrs anghyfforddus i rai pobol ac yn brofiad negyddol i eraill. Fyswn i wrth fy modd yn medru mynd yn ôl a dweud wrth fy hun nad oedd rhaid i mi gymryd y bai am adael i bobol wybod pwy ydw i. Mae dod allan yn rhywbeth sydd yn berchen i TI, mae o’n rhywbeth personol a dim ond TI; yr unigolyn, sy’n gwybod pryd mae’r amser iawn i wneud hynny.
 

Mi fyswn i wedi licio pe bawn i wedi bod yn fwy caredig gyda fi fy hun mewn sefyllfaoedd annifyr ac wedi ymddiried yn fy hun ‘mod i wedi gwneud y penderfyniad iawn.
 

Fy nghyngor i? Jest bydda’n chdi, ac ar ôl gadael i bobol wybod - paid ag ymddiheuro am y peth!

Image by Teddy Österblom

Gair o gyngor
 

Siarada gydag athro, rhiant, aelod o dy deulu neu mae modd cael cymorth ar-lein a dros y ffôn hefyd.

www.stonewallcymru.org.uk/cy neu 08000 50 20 20

www.lgbtcymru.org.uk neu 0800 980 4021 (rhadffôn)

Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/ neu Rhadffôn 080880 23456