top of page

Teimlo’r Tensiwn:
Byw yn y Byd Sydd Ohoni

Dod o Hyd i Obaith

Weithiau, mae’r byd yn teimlo’n ormod. Gyda’r holl erchylltra sy’n cael ei gyfathrebu i ni drwy’r newyddion a’r ffrwd ddiddiwedd ar ein ffonau symudol, mae’n hawdd i’r cyfan edrych yn ddiobaith. Ers dros fis, mae’r rhyfela yn Gaza wedi bod yn llenwi pob bwletin newyddion yn ddyddiol a phob arbenigwr y byd yn mynegi barn ar bwnc sydd mor sensitif. 

 

Candles

Beth allai wneud?

Wrth wylio o bell, rwyt ti’n siŵr o deimlo rhwystredigaeth am fethu â gwneud dim. Mae hynny’n normal. Mae’r teimlad lleddfol yna o eisiau lapio dy freichiau o gwmpas gymaint o bobl ag sy’n bosib yn cael ei deimlo gan nifer. Felly, beth am i ni wneud yr hyn sy’n cael ei awgrymu gan Lysh bob tro; canolbwyntio ar yr hyn gallwn ni ei wneud.

Cam amlwg mewn unrhyw argyfwng yw rhoddi arian. Nid yw’r ateb yma yn syml i nifer, gan fod arian yn dynn yn yr economi sydd ohoni. Er bod unrhyw swm yn mynd yn bell, os fyddi di’n ystyried rhoddi arian mae’n bwysig gwneud yn siŵr dy fod yn rhoddi i elusen ddilys a chyfreithlon.

Ar hyd a lled y wlad, mae gwylnosau, neu vigils, yn cael eu cynnal. Pwrpas y rhain yw dangos cefnogaeth i’r bobl ddiniwed sy’n dioddef, a lledaenu’r neges o heddwch. Gall mynychu a bod yng nghwmni eraill sy’n rhannu’r un pryderon fod o fudd. Tybed, oes digwyddiad fel hyn yn dy ardal di?

 

Iechyd Meddwl

Gyda’r holl wybodaeth sy’n cael ei roi i ni, weithiau heb i ni hyd yn oed gofyn amdano, mae’n gallu cael effaith ar iechyd meddwl. Oddeutu 21 mis yn ôl, cychwynnodd y rhyfel yn yr Wcráin, ac yn sgil y pryder oedd yn cael ei deimlo gan ein darllenwyr, holodd Lysh y cwnselydd Glesni Prytherch am
eiriau o gyngor i’n helpu i ymdopi.

Mae’r hyn gafodd ei rannu bryd hynny'r un mor wir rŵan. Dylem geisio cyd-bwyso bod yn wybodus ac addysgu’n hunain, tra hefyd bod yn ofalus am faint o wybodaeth rydym yn ei ddarllen neu wylio.

“Mae o’n gymysgedd rili...” esboniodd Glesni. “Mae o’n bwysig dod o hyd i falans. Mae gwybod be sy’n mynd ymlaen yn bwysig a bod yn wybodus, ond dim i’r pwynt lle da ni’n ypsetio gormod. Ar gychwyn y pandemig, nes i orfod peidio gwylio’r newyddion. Oeddwn i’n eistedd yna yn gwylio’r ffigyrau yn mynd i fyny... Nes i feddwl ‘dydi hyn ddim yn dda i iechyd meddwl fi’ a pheidio gwylio gormod.”

 

Recording Time
Holding Hands

Dan ni gyd yn gwybod bod gwerth siarad am ein teimladau, er mor anodd yw hynny weithiau. Pan fyddwn ni’n gwylio’r newyddion, mae cael rhywun yno i ddadbacio’r hyn rydym yn ei weld yn gwneud byd o les, fel eglurodd Glesni. Weithiau, os mae’r gor-bryder yn mynd yn ormod, mae estyn allan am gymorth pellach yn hollol iawn, hefyd.

“Byddwch yn onest efo sut ydach chi’n teimlo. Mae cael sgyrsiau fel hyn yn bwysig. Os mae rhywun angen cymorth pellach am eu bod nhw’n pryderu gormod, does yna ddim byd yn bod efo estyn allan i siarad efo doctor i ystyried cwnsela.”

Y peth pwysicaf oll yw; byddwch yn garedig. I’r rhai o’ch cwmpas ac i chi eich hunain.

 

bottom of page