Rhwng Dau Glawr | The Austen Girls
Teitl: The Austen Girls
Awdur: Lucy Worsley
Cyhoeddwr: Bloomsbury Children’s Books
Dyddiad Cyhoeddi: Ebrill 2020
Pris: £7.99
“…mae modd bod yn arwres i’ch stori eich hun, ac nad oes angen dyn arnoch er mwyn llwyddo!” – Kayley Sydenham
'The Austen Girls'
Ffuglen hanesyddol
Wrth ddilyn traddodiad y teulu a’r cyfnod, mae’n rhaid i Anna Austen briodi’n gyfoethog- mae ei dyfodol yn dibynnu arno. Wedi dweud hyn, yn lwcus i’w hannwyl gyfnither, Fanny, mae ganddi hi fwy o ryddid a dewis, ond fel Anna, mae hi hefyd dan bwysau gan ei theulu i ddod o hyd i briod/ŵr. Ond, sut gall y naill ferch wybod beth maen nhw eu heisiau? Ac oes rhaid dod o hyd i briod/ŵr i fyw bywyd hapus?
Yr unig berson sy’n ymddangos fel petai ganddyn nhw’r holl atebion yw eu modryb Jane. Nid yw hi wedi priodi ac, mewn gwirionedd, yn byw bywyd yn berffaith hapus, wrth brofi nad oes angen gŵr arnoch. Yn lwcus i Anna a Fanny, mae eu modryb yno i’w tywys a’u helpu i wneud dewisiadau, wrth gynnig cymorth ar hyd y daith.
Gwelwn berthynas Fanny a’i modryb Jane yn tyfu’n agosach drwy’r nofel, ac erbyn y diwedd daw Fanny i wybod am gyfrinach cyfoeth ei modryb, sef ei bod yn awdur! O ganlyniad i hynny, dechrau ysgrifennu ei hun mae Fanny, wedi ysbrydoliaeth ei modryb Jane Austen.
Ffuglen hanesyddol fendigedig sydd yma, sy’n profi i ferched ifanc, beth bynnag eich oedran, mae modd bod yn arwres i’ch stori eich hun, ac nad oes angen dyn arnoch er mwyn llwyddo!
Archwilio bywydau dwy o nithoedd Jane Austen, Fanny ac Anna wna’r awdur, Lucy Worsley. Llwydda’r awdur i’w hail-lunio’n hyfryd, ac roedd yn ddiddorol iawn cael gweld eu perthnasoedd â’i gilydd, â’u teuluoedd yn datblygu.
Cymeriad a oedd yn sefyll allan ei hun, oedd Jane yn y nofel, wrth ddysgu i’r ddwy bod mwy i fywyd y ddwy ohonyn nhw na chanfod gŵr.
Ochr yn ochr â’r thema hon, mae Worsley hefyd yn cydnabod yn frwd y frwydr dros fenywod yn ystod y cyfnod yma, ac yn tanlinellu llawer o wirioneddau hanesyddol eraill y dylem ni fod yn ymwybodol ohoni heddiw fel pobl ifanc.
Mae Worsley yn plethu elfennau ffeithiol a ffuglennol, i greu stori ddychmygus, newydd, ac roeddwn i wrth fy modd yn cael fy nghludo yn ôl mewn amser, i ddilyn eu hanes, ac rwy’n siŵr y byddwch chi hefyd!
Adolygiad gan Kayley Sydenham