Iechyd a Lles | Wythnos gwrth-fwlio: Rhannu’r Caredigrwydd
‘Un Gair Caredig’, dyna yw thema Wythnos Gwrth-Fwlio eleni. Beth fydd dy air caredig di?
Mae’n bwysicach nag erioed i fod yn ystyriol - gall hynny arwain at newid y byd i rywun sy’n cael ei bwlio.
Yr wythnos hon be am wneud y canlynol?
Gofyn a ydy rhywun yn iawn. Bod yn glust i wrando. Mae dim ond bod yno yn gallu meddwl y byd i rywun.
Gwneud tro da a lledaenu geiriau caredig. Mae’r byd yn gallu bod yn llawn negyddiaeth ar brydiau, ond gall un gair caredig roi eiliad o obaith. Gall olygu trobwynt a llwybr o’r newydd i’r sawl sy’n cael ei bwlio. Gall newid eu diwrnod, mae hynny’n sicr, gall ddechrau sgwrs a thorri’r cylch bwlio.
Bod yn garedig dro ar ôl tro. Mae caredigrwydd yn tanio caredigrwydd - a dychmygwch y pŵer pe bai pob un ohonom yn ei wneud? Yn y dosbarth, yn y ffreutur, ar y buarth amser chwarae, mewn neges destun.
Plannu mwy o hadau caredigrwydd. Rhaid dechrau heddiw - a gall ddechrau gydag un gair neu frawddeg yn unig. Gyda’n gilydd, gallwn bweru positifrwydd a gwneud gwahaniaeth.
Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - neu Rhadffôn 080880 23456
Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463