top of page

Iechyd a Lles | Tywysoges Drag - Dyma Fi!

Iechyd a Lles | Tywysoges Drag - Dyma Fi!

Mae Nico James, bachgen 16 oed o Gydweli, Sir Gaerfyrddin wedi magu hyder dros y flwyddyn ddiwethaf wrth arbrofi gyda drag. Yr uchafbwynt iddo hyd yma yw cael ei ddewis yn Dywysoges Prom yn ei ysgol ychydig cyn gwyliau’r haf. Dyma stori Nico ...

Un o’r pethau wnaeth fy ysbrydoli i fwyaf i ddechrau gwisgo drag oedd Ru Paul’s Drag Race (Cyfres deledu cystadleuaeth realiti Americanaidd - gol). Dechreuais ei wylio y llynedd a chefais fy ysbrydoli i roi cynnig ar ddrag, gan ddechrau gyda dim ond mynd ar ddiwrnodau allan mewn drag unwaith bob mis gyda ffrindiau.

Wrth i fi ddechrau teimlo'n fwy cyfforddus, es i ati i wisgo drag yn fwy aml o gwmpas y dref gyda ffrindiau. Mae drag, i fi, yn arbennig iawn, oherwydd ei fod yn fath o gelf sy'n gadael i bobl fynegi eu hunain mewn ffordd unigryw.

Daeth y penderfyniad mawr wedyn - pam lai mynychu’r prom ysgol mewn drag? Doedd dim un o fy ffrindiau ysgol wedi fy ngweld i mewn drag, a ro’n i’n awyddus i ddangos y grefft o ddrag a dangos iddyn nhw sut mae e’n gwneud i fi deimlo.

Roedd yr ymateb gan fy holl ffrindiau ysgol a’u rhieni yn anhygoel o braf - pawb yn sôn pa mor hyfryd a thlws yr o’n i’n edrych, a pha mor falch oedden nhw fy mod i wedi mynegi fy hun. Wrth gyrraedd y prom, roedd rhai o’r athrawon mewn sioc fy mod wedi dod yn fy nillad drag, ac athrawon eraill wedi dod ata i’n syth i dynnu lluniau gyda fi, a dweud pa mor falch oedden nhw ohona i.

Ychydig cyn y prom, wrth fynd trwy luniau’r un digwyddiad y flwyddyn cynt, fe wnes i siarad gyda fy athrawon, a ro’n nhw i gyd yn sôn nad oedd unrhyw un erioed wedi mynd i’r prom mewn drag o’r blaen. Ro’n i’n nerfus iawn oherwydd hyn, ac yn teimlo bod pwysau arna i, ond wnes i wir fwynhau’r noson, ac fe gododd y pwysau oddi ar fy ysgwyddau - diolch yn bennaf i gefnogaeth fy nghyd-ddisgyblion ac athrawon.

Daeth yr amser ar gyfer y seremoni wobrwyo, a do’n i wir ddim yn disgwyl ennill unrhyw beth oni bai am y drama queen fwyaf. Cafodd un o fy ffrindiau ei ddewis fel y Tywysog, a phan wnaethon nhw fy enwi i fel Tywysoges y Prom, ges i gymaint o sioc. Ond ro’n i mor hapus. Ro’n i’n teimlo fy mod i wirioneddol yn cynrychioli rhan wahanol o’r gymuned LGBTQ+. Roedd meddwl bod fy ffrindiau ysgol wedi pleidleisio drosta i, ac mor gefnogol tuag ata i, yn llawenydd mawr i fi.

Mae’r hyder dw i’n ei deimlo pan dw i mewn drag yn anhygoel, a dw i’n gobeithio mynd ati i greu bywoliaeth a gyrfa broffesiynol fel brenhines drag. Mae’r grefft wedi caniatáu i mi fod pwy ydw i a mynegi fy hun mewn ffordd sy’n tyfu mewn poblogrwydd ledled y byd.

Yn yr hinsawdd gymdeithasol sydd ohoni, mae gen i neges bwysig. Mae gan bawb o bob cefndir yr hawl i fod yn chi eich hunain - a bydd mwyafrif o bobl yn eich derbyn. Oes, mae yna rai sy’n dal i ledaenu casineb, ond wnawn nhw ddim ennill y dydd cyhyd a’n bod ni i gyd yn sefyll gyda’n gilydd mewn undod ac yn derbyn pob un.

Os hoffech chi gael cymorth am unrhyw beth sy’n ymwneud a LGBTQ+, mae modd cysylltu gyda Stonewall Cymru ar-lein a dros y ffôn -

www.stonewallcymru.org.uk/cy neu 08000 50 20 20

Iechyd a Lles | Tywysoges Drag - Dyma Fi!
bottom of page