Iechyd a Lles | Tyfu Gyda'n Gilydd
Neges Elin Williams, sy’n blogio am ei phrofiad o fyw gyda nam ar ei golwg ar My Blurred World, yn ystod wythnos Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc 2022
Mae’n amser i agor sgwrs mawr ei hangen am iechyd meddwl.
Os ydych chi'n fy adnabod o gwbl, byddwch chi'n gwybod fy mod i'n ymwneud â chofleidio'r pethau cadarnhaol o fyw gyda nam ar y golwg, gan ganolbwyntio ar y rhain i fy arwain trwy'r dyddiau tywyllach. Ond dydw i ddim yn un am guddio unrhyw beth a byddaf yn un o'r rhai cyntaf i ddweud wrthych y gall y profiad fod yn heriol. O’r frwydr ddi-baid am fynediad a chydraddoldeb i’r effaith emosiynol, mae digon i ymgodymu ag ef ac mae codi llais am yr heriau hynny yn stori arall.
Roeddwn i’n cadw fy hun i fy hun yn blentyn, a oedd yn aml yn golygu y byddai teimladau o bryder ac unigrwydd yn byrlymu yn fy meddwl heb unrhyw le i fynd oherwydd wnes i ddim siarad amdanyn nhw. Byddwn i’n dianc i fy nghragen pryd bynnag y byddai rhywun yn gofyn a oeddwn yn iawn, gan sgubo’r cwestiwn o dan y carped gyda’r geiriau syml, cyfarwydd ‘Dwi’n iawn’. Roedd hynny'n ymddangos yn haws na chyfaddef sut roeddwn i'n teimlo mewn gwirionedd.
Mae cynnydd wedi ei wneud ers hynny ac rydw i wedi dod yn fwy agored gyda mi fy hun, ac eraill, wrth i mi dyfu i fyny. Dyna pam mae thema eleni gydag wythnos Iechyd Meddwl Plant Place 2 Be, Tyfu Gyda’n Gilydd, yn arbennig o addas gan ei fod yn annog plant (ac oedolion) i ystyried sut maen nhw wedi tyfu, a sut y gallant helpu eraill i dyfu.
Gyda’n bywydau ond yn mynd yn brysurach, mae’n hawdd diystyru’r cyfle i eistedd i lawr a chael sgyrsiau o’r galon, ond mae mor bwysig normaleiddio’r sgwrs am iechyd meddwl a sicrhau ein bod yn neilltuo amser i siarad amdano.
Roeddwn i’n arfer ofni y byddai siarad am sut roedd fy nam yn effeithio ar fy iechyd meddwl yn gwneud i mi ymddangos yn wan ac fel na allwn i ymdopi. Ychydig a wyddwn y byddai’n gwneud yn union i’r gwrthwyneb. Credwch fi pan ddyweda i, os galla i godi llais a bod yn agored, gall unrhyw un.
Roeddwn i’n arfer ofni y byddai siarad am sut roedd fy nam yn effeithio ar fy iechyd meddwl yn gwneud i mi ymddangos yn wan ac fel na allwn i ymdopi. Ychydig a wyddwn y byddai’n gwneud yn union i’r gwrthwyneb. Credwch fi pan ddyweda i, os galla i godi llais a bod yn agored, gall unrhyw un.
Nid yw bywyd yn ddu a gwyn ac rwy’n meddwl mai’r ffordd orau o lenwi’r gofod llwyd hwnnw yw trwy siarad am ein profiadau. Trwy siarad, rydyn ni'n helpu'n gilydd i sylweddoli nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain, rydyn ni'n annog ein gilydd i dyfu ac rydyn ni'n tanio sgyrsiau a allai fynd heb eu clywed fel arall.
Mae cryfder mewn bod yn agored ac mae gennym ni i gyd y llais bach hwnnw ynom yn rhywle.
Atgoffwch eich hun heddiw, a bob dydd, eich bod chi'n gryf a’ch bod chi’n ddigon ♥️