Iechyd a Lles | Sbarduno STEM
Wedi anhawster, ganed Sbarduno.
Mae diwylliant STEM yn un eang iawn ac yn cynnwys tri phrif faes; Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Neu GTPM... ond wnawn ni sticio efo STEM!
Mae’n wir fod sawl darganfyddiad hanfodol ym myd gwyddoniaeth wedi cael eu gwneud gan ferched, fel Katherine Johnson, Mary Jackson a Dorothy Vaughan. Gyda’u doniau mathemategol, eu cyfrifiadau nhw oedd yn allweddol i lwyddiant NASA a’r ras i’r gofod yn y 60au.
Heddiw, mae nifer yr ymchwilwyr gwyddonol sy’n ferched yn weddol isel, gyda dim ond 30% o ymchwilwyr ar draws y byd yn ferched.
Un sy’n helaethu hwyl STEM ydi Awen Ashworth, sylfaenydd Sbarduno. Mae Sbarduno yn teithio ar hyd yn fro yn cynnig gweithdai gwyddoniaeth llawn arbrofion arbennig, yn ogystal â chynnig help llaw gydag astudio TGAU. Holodd Lysh am ei llwybr i Sbarduno a tybed beth yw ei barn am ferched mewn STEM?
Stori Awen
Gwyddoniaeth oedd breuddwyd Awen, ac aeth hi ymlaen i’r brif ysgol er mwyn gallu astudio a magu gyrfa yn niwydiant gwyddoniaeth.
“Es i i Brifysgol Bangor ac astudio gradd mewn cemeg, ac on i isio astudio gwyddoniaeth oherwydd oeddwn i wedi cael fy ysbrydoli yn yr ysgol. Roeddwn i’n licio'r athrawon oedd yn dysgu fi ac yn rili mwynhau’r gwersi,” eglura Awen, cyn nodi mai hi oedd y cyntaf yn ei theulu i fynd i’r brifysgol.
“Doedd neb yn fy nheulu wedi bod yn y coleg cyn fi. Cefais fy magu mewn tŷ cyngor a doeddwn i ddim yn cael gwersi preifat fel rhai.”
Rhoddodd Awen cryn dipyn o feddwl i’w gyrfa yn y dyfodol, drwy benderfynu yn ofalus pa radd oedd hi am ei astudio yn y brifysgol.
“Wnes i benderfynu cadw fy ngradd yn eithaf pen agored drwy ddewis gradd mewn cemeg oherwydd doeddwn i ddim yn gallu penderfynu pa lwybr gyfra oeddwn i am ei ddilyn. Dieteteg oedd y freuddwyd i gychwyn, ond fyswn i wedi bod yn weddol gyfyng o ran be fyswn i’n cael o ran gyrfa.”
Ar ôl cwblhau ei gradd a chael ‘chydig o brofiad gwaith, symud i ffwrdd i weithio oedd ei bwriad, ond yna daeth plot twist...
“Wnes i gyfarfod fy ngŵr! Felly wnes i benderfynu aros yma yng Nghymru,” meddai.
Ac aeth Awen ati i ddarganfod cyfleoedd yn lleol.
“Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yna lot o ddiwydiannau yn cau i lawr felly wnes i benderfynu gwneud cwrs TAR, cwrs ymarfer dysgu, ac roeddwn i’n athrawes am ddeng mlynedd.”
Wel, dyma i chi plot twist arall yn hanes Awen...
“Wedyn, wnes i gael efeilliaid! Ac oedd o’n newid byd go iawn... Wnes i fynd yn ôl i’r gwaith yn rhan amser, ond mewn ffordd doedd y job satisfaction ddim cweit yr un fath.”
Wrth fynd ati i chwilio am gyfleoedd oedd yn siwtio, cymerodd Awen siawns i gysylltu efo cwmni mawr ac egluro ei sefyllfa.
“Wnes i gysylltu efo nhw a dweud beth oeddwn i isio eu gwneud. Dipyn o fisoedd wedyn, ges i alwad ffôn yn gofyn i gwrdd a dyma nhw’n cynnig swydd i fi fel Swyddog Addysg rhan amser! Roeddwn i’n trafeilio i sawl ysgol ac roeddwn i wrth fy modd!”
Ydach chi’n barod am plot twist arall?
“Efo’r cwmni oeddwn i’n gweithio iddyn nhw... cafodd pob prosiect ei ohirio. Contractwr oeddwn i, felly dyna fo... Roedd pawb arall yn cael cynnig redundancy packages, ond doeddwn i ddim yn gymwys i ddim byd. Roeddwn i wedi gadael swydd dysgu llawn amser, gyda phensiwn a bob dim... a rŵan roedd pob dim wedi stopio.”
Ond, dim dyna ddiwedd y stori. Megis ffenics yn codi o’r lludw, casglodd Awen ei phrofiadau i gyd ac yna, ganed Sbarduno.
“Wnes i feddwl ‘Reit, be dwi am neud rŵan... ydw i am fynd yn ôl i ddysgu neu ydw i’n cychwyn rhywbeth sydd wedi bod yng nghefn fy meddwl i ers tipyn...’ a hynny oedd Sbarduno!”
“Wnes i greu gweithdai hands-on, i ddangos i blant a phobl ifanc fod gwyddoniaeth yn hwyl!” eglura, ac esbonio hefyd mai dim plant yn unig mae hi’n ceisio eu hysbrydoli.
“Roeddwn i isio dangos i athrawon fod o’n hawdd gwneud gwersi gwyddoniaeth yn hwyl, gydag arbrofion ac yn y blaen, a hynny yn weddol rhad.”
Merched Mewn STEM
Mae hybu merched i mewn i fyd STEM wedi profi i fod yn her, yn enwedig pan mae llyfrau hanes gwyddoniaeth yn orlawn o ddynion a’u doniau nhw yn hytrach na’r gwaith arbennig, a hanfodol, mae merched mewn hanes wedi rhoi i ddiwylliant gwyddoniaeth.
Creda Awen fod angen balans rhwng merched a dynion ym myd STEM.
“Mae o’n bwysig cael cydbwysedd,” meddai. “Mae angen y cydbwysedd o ferched a dynion achos ‘da ni’n meddwl mewn ffordd wahanol. Mae yna sawl gwlad gyda chydbwysedd gwell na ni, ac o beth dwi’n ei weld maen nhw o flaen ni mewn datblygiadau STEM, felly tybed os dyna pam... oherwydd eu bod nhw efo cydbwysedd da o ferched a dynion?”
STEM Lleol
Dydi dilyn llwybr STEM ddim yn gorfod golygu symud yn bell o adra y dyddiau yma, gyda sawl brosiect gwyddonol a technolegol hyd yn oed yng nghefn gwlad Cymru.
“Dwi’n meddwl ar y funud fod yna lot o brosiectau cyffrous ar y gweill yn lleol i fi ac ar draws Cymru,” meddai Awen. “Mae cyfleoedd lleol, ond i chi chwilio amdanyn nhw.”
Felly, beth amdani? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes STEM?
Cofiwch, ewch i gael sbec ar gyfrifon cymdeithasol Sbarduno i gadw llygaid allan am weithdai cyffrous yn lleol i chi!