top of page

Iechyd a Lles | Rwyt ti'n ddigon

Iechyd a Lles | Rwyt ti'n ddigon

Yn dilyn pol piniwn diweddar ar dudalen Instagram #LyshCymru, mae 92% o’n dilynwyr yn dioddef o ddiffyg hunan hyder. Waw! Dyma Meleri Bowen, sy’n hyfforddwr meddylfryd cadarnhaol, i rannu cyngor a dweud unwaith ac am byth, ‘Rwyt ti’n ddigon’...

STOP… y tro nesa wyt ti’n edrych ar dy ffrind ac yn dweud dy fod di eisiau “edrych fel hi”, “bod fel hi”… dwi eisiau i ti feddwl am yr holl bethau yr wyt ti’n hoffi amdanat ti.

Does 'na’m angen i ti fod fel rhywun arall i fod yn berson gwell – rwyt ti’n ddigon fel yr wyt ti 😊 Y peth pwysig i gofio yw mai ond un ohonom ni sydd, ac mae hyn jyst yn waw!! Mae pob un ohonom ni’n arbennig yn ein ffordd ein hunain. Eto, rwyt ti’n ddigon.

Sawl gwaith wyt ti wedi dweud “ie” neu “cytuno” gyda dy ffrind er mwyn ffitio mewn neu fod yn rhan o’r gang?

Os wyt ti, dwi’n sori dy fod di’n teimlo'r angen i wneud hyn. Mae’n scary mynd yn groes i dy ffrindiau yn enwedig os wyt ti’n ofni bod un ohonyn nhw am fynd yn grac!! Ond cofia bod gen ti'r hawl i dy farn, yn union fel dy ffrindiau. Ac os wyt ti’n darllen hwn ac yn berson sy’n hapus i roi dy farn, beth am helpu dy ffrind tawel a chael pawb arall i wrando? Nid yw un farn yn gywir a’r llall yn anghywir. Maen nhw jyst yn wahanol! Ac mae hynny’n iawn! Cofia, rwyt ti’n ddigon.

Efallai dy fod di’n teimlo pwysau mawr i lwyddo yn yr ysgol, cael y marciau gorau, cael marciau sy’n debyg i dy ffrind…?

Ydy – mae’n bwysig trio dy orau, ond dydy cael statws ‘top of the class’ na marciau sy’n well na dy ffrind ddim yn diffinio ti fel person. Dwyt ti ddim yn berson gwell achos dy fod yn cael 100% mewn prawf. Mae mwy i berson na darn o bapur â chanran!!! Tro nesa wyt ti’n teimlo’n isel am y darn o waith ysgol yna sydd ddim wedi cael y marc delfrydol (does 'na’m fath beth â marc delfrydol!!), cofia, rwyt ti’n ddigon.

Mae gan bob un ohonon ni gryfderau unigryw, ac mae’n well ffocysu ar y rhain.

Pa wahaniaeth yw e os ydy dy ffrindiau yn cael marciau gwell mewn prawf Mathemateg? Efallai dy fod di’n well yn y gwersi Drama. Mae rhai ohonom ni’n rhagori yn y pynciau rhesymegol, ac eraill yn y pynciau creadigol. Cofia, rwyt ti’n ddigon.

Beth sy’n dy wneud di’n hapus? Sut fyddai dy ffrindiau di’n dy ddisgrifio?

Dyma beth sydd yn dy wneud di’n berson cyflawn. Dyma sydd ar feddwl pawb wrth glywed dy enw. Mae pobl yn cofio sut wnes di wneud iddyn nhw deimlo nid beth oedd dy farc di yn y prawf algebra!!! Felly bydd yn ti dy hun. Cofia, rwyt ti’n ddigon.

Beth am ysgrifennu “Dwi’n ddigon!” ar ddrych, ar post-it, ar yr oergell, er mwyn dy atgoffa pa mor amazing wyt ti? 💜

Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:

Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456

Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463
mind.org.uk

Iechyd a Lles | Rwyt ti'n ddigon
bottom of page