Iechyd a Lles | Rhestr Osgoi Diflastod
Wel, mae’r amser wedi dod. Dim ysgol, gwyliau haf a’r rhagolygon yn gaddo tymor go heulog.
Er i ni edrych ymlaen yn arw at wyliau’r haf, pan fyddwn i yn ei chanol hi mae’n bosib iawn wnawn ni redeg allan o bethau i’w wneud. Os fyddwch chi’n gweld eich bod chi mewn twll diflas, heb syniad beth i’w wneud, dyma restr o awgrymiadau i waredu ar y diflastod!
Byddwch yn ddiog
Weithiau, mae’n hawdd teimlo fel bod rhaid i ni wneud rhywbeth o hyd a chadw’n brysur trwy’r adeg. Fel petai’r gwyliau yn gyfle i wneud gymaint o bethau ac sy’n bosib cyn dychwelyd i realiti mis Medi. Ond mae saib yr haf yn union hynny... saib. Cyfle i gymryd gwynt, aros yn y gwely tan y pnawn neu gymryd siesta bach pan fyddwch chi ffansi. Cyfle i ddod at eich coed ar ôl gweithio’n galed drwy’r flwyddyn ysgol.
Trefnwch dro bach
Sôn am ddod at eich coed... ewch i’r coed! Anfonwch neges yn y group chat, llenwch eich bag gyda da-das ac ewch am dro efo’ch ffrindiau. Dim ffaff, dim ffwdan. Jest chi, eich ffrindiau a llond trol o hwyl a selfies.
Dro ben bore
Mae mynd am dro ben bore yn brofiad arbennig, pan fo pawb arall yn cysgu o hyd a dim ond chi a ffrind sy’n troedio’r fro. Yr haf yma, mae deffro hyd yn oed yn gynt er mwyn croesawu’r haul wrth iddi godi yn hanfodol. Lle fyddwch chi’n dewis ei gwylio hi’n codi? Ar lan y môr, yng nghanol y mynyddoedd neu o ffenest eich llofft gyda phaned?
Ewch i weld teulu
Mae ‘na wastad rhywun dan ni’n teimlo ein bod ni ddim yn gweld digon aml. Ewch i’w gweld nhw'r haf yma. Boed hynny’n paned pum munud yn nhŷ nain neu’n brynhawn yn yr ardd efo’ch anti, byddwch chi’n edrych yn ôl ac yn falch iawn o fod wedi gwneud.
Her siop elusen
Os fyddwch chi fynd i mewn i’r dref gyda’ch ffrindiau ac yn dechrau diflasu, mae’r her yma yn siŵr o’ch diddanu am y dydd! Yr her ydi dod o hyd i wisg gyfan mewn siopau elusen a hynny o fewn eich cyllideb fyddwch chi wedi dewis. Mae’r her yn fwy anodd pan fydd yna dim ond ychydig o gyllideb, efallai £10, a gallwch chi ddewis thema hefyd! Beth am herio’ch gilydd i ffeindio gwisg o dan y themâu “Hollywood” neu “Lan y môr”?
Atyniadau am ddim
Mae yna lwyth o bethau ar hyd a lled y wlad sydd ar gael am ddim. Mae sawl amgueddfa ac oriel gelf yn barod i’ch croesawu ac efallai fod hyn ddim fel arfer yn apelio atoch chi... ond hei, os mae rhywbeth am ddim, beth sydd ‘na i golli? Sgwn i os wnewch chi fwynhau neu efallai dod o hyd i ddiddordeb newydd?
Codwch lyfr
Bob haf, dwi’n ailddarganfod gymaint dwi’n caru darllen. Am ryw rheswm, toes gen i byth digon o amser i eistedd gyda llyfr a mwynhau yn iawn. Ond, unwaith mae’r haul allan mae’n codi blys darllen arna i ac unwaith dwi’n cychwyn byddai’n cofio gymaint dwi wrth fy modd gyda llyfr da.
Am weithgaredd ychwanegol, ewch i ddewis llyfr o’ch llyfrgell leol. Os fyddwch chi’n teimlo fod mynd i lyfrgell a dewis un llyfr ymysg miloedd yn ormod, mae sawl awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth archebu llyfrau llyfrgell ar-lein fel eich bod chi’n gallu cymryd eich amser i ddewis, archebu a phigo’r llyfr fyny pan fydd o’n barod! Syml ac am ddim!
Dysgwch sgil newydd
Tybed allwch chi ddysgu sgil newydd yr haf yma? Gall hwn fod mor syml a dysgu sut i goginio rhywbeth newydd neu sut i wau. Gall hwn hefyd fod mor boncyrs a dysgu sut i ddringo neu ddysgu sut i badl-fyrddio. Efallai mai dim ond diddordeb byr dros yr haf fydd hwn, ond pwy a ŵyr... allwch chi ddarganfod gyrfa eich dyfodol!
Hel ffrwythau
Mae hwn yn weithgaredd sy’n siŵr o aros yn eich cof am flynyddoedd maith. Os oes yna fferm ffrwythau a llysiau yn agos i chi sy’n cynnig gweithgaredd “dewis eich hun” yna mae’n rhaid i chi fynd! Am ryw reswm, mae ffrwythau dach chi’n dewis eich hun llawer mwy melys na’r rhai sydd ar gael mewn siop.
Yn nyddiau olau’r gwyliau haf ac ar drothwy mis Medi, fydd mwyar duon yn rhemp yn ein cloddiau. Dyma weithgaredd arall allwch chi wneud am ddim, sef hela mwyar duon a phobi crymbl. Er, mae’n bwysig cofio wrth fforio mewn cloddiau eich bod chi dim ond yn pigo’r mwyar fyddwch chi’n gant y cant yn siŵr mai mwyar duon ydyn nhw. Os oes unrhyw amheuaeth, peidiwch â’i bigo... a fydd aelodau hŷn eich teulu yn siŵr o wybod be ydi be felly dyma gyfle arall i wneud atgofion gyda nhw.
Rŵan, does dim esgus i chi fod yn ddiflas dros y gwyliau! Cadwch yr erthygl yma yn handi a pan fyddwch chi’n teimlo’n fflat heb syniad beth i’w wneud gallwch chi ddewis gweithgaredd o’r rhestr yma!