top of page

Iechyd a Lles | Neges Atgoffa: Cara dy Gorff!

Iechyd a Lles | Neges Atgoffa: Cara dy Gorff!

gyda Mari Gwenllian

Ȃ hithau’n ddiwedd Ionawr, diwedd mis cyntaf 2021, dyma neges atgoffa i ti gan y biwti Mari Gwenllian, H.I.W.T.I sy’n lledaenu’r cariad am ddathlu’r corff. Dy hyfryd gorff. Cara dy gorff, cara ti dy hun fel yr wyt ti!
*Mae modd prynu cynnyrch hyfryd H.I.W.T.I yma

Dim ond fi, fy mola hyfryd a fy nghoesau lysh yma i dy di atgoffa bod ‘blwyddyn newydd’ yn llythrennol yn golygu ei bod hi’n fis Ionawr eto. Ionawr oedd hi flwyddyn yn ôl a bydd hi’n Ionawr eto mewn blwyddyn.
Alli di fyth bwlio dy gorff bob mis Ionawr a disgwyl iddo newid dy fywyd.
Cer tu fas, cer i gerdded, dechreua arferion newydd (fi wrth fy modd yn mynd i'r gym a bydden i’n awgrymu gwneud hynny ond damo #covid). Dere o hyd i dy ‘chwaraeon’ dy hun a’i fwynhau. Os yw hynny'n codi pwysau neu'n rhedeg, ymarferion ioga ysgafn neu fynd am dro i dy siop goffi agosaf.
Dal ati i symud dy gorff a chael awyr iach. Ond paid â rhoi dy hun trwy rywbeth nad wyt ti'n ei fwynhau er mwyn i ti allu postio llun ohonot mewn bicini ym mis Mehefin pan fyddi di’n dala dy wynt ar gefn lilo yn dy ardd (eto, blydi #covid) a disgwyl iddo wneud ti'n hapus, yn wyrthiol.

Mae ‘mynd yn ôl i rwtin’, beth bynnag mae hynny’n ei olygu, yn iawn. Fi’n mynd nôl i fwyta llysiau a phrotein ac ymarfer corff yn amlach, ond mae hynny oherwydd mae’n wirioneddol fy ngwneud i'n hapus a dyna pryd dwi'n teimlo orau - yn fy nghorff ond yn bwysicach fyth, fy ymennydd. Rho gariad pur i dy gorff, nid cosb ❤️

Iechyd a Lles | Neges Atgoffa: Cara dy Gorff!
bottom of page