top of page

Iechyd a Lles | Llio Elain - Shêf yn ôl ddy rêf?

Iechyd a Lles | Llio Elain - Shêf yn ôl ddy rêf?

Shafio neu beidio? Dyna'r cwestiwn!
Un dydd Sadwrn pan o’n i’n 14 mlwydd oed ac ar fin mynd i gyfarfod rhai o’n ffrindiau, nes i ddwyn rasal Dad o’r stafell ymolchi, plastro fy nghoesau mewn shaving foam, a shafio am y tro cyntaf erioed (sori Dad). Nes i ddim gwneud job dda iawn ohoni, a ro’n i’n hwyr i gyfarfod pawb achos bod fy fferau yn gwrthod stopio gwaedu. A ro’n i’n drewi o shaving foam.

Do’n i erioed wedi hyd yn oed cysidro shafio fy nghoesau cyn hynny. Doedd Mam ddim yn shafio bob dydd, ac felly roedd hynny’n gwbl normal i fi, tan i un o ferched Blwyddyn 9 ofyn i mi pam nad o’n i’n shafio fy nghoesa. Roedd gen i gymaint o gywilydd (dwi ‘rioed wedi bod yn dda iawn ar wrthsefyll peer pressure), felly nes i gynllwynio i ddwyn rasal Dad un penwythnos, a dysgu fy hun sut i shafio. Doedd o ddim yn pretty picture.

Ond erbyn hyn, dwi’n teimlo’n lot fwy hyderus yn fy hun, a dwi’n ddigon hapus yn peidio shafio fy nghoesau bob tridiau. A deud y gwir, y cwbl dwi’n teimlo o beidio shafio ydi... rhyddhad!

Ac felly dyma restr o’r pethau positif am beidio shafio dy goesau. Mae o’n rhestr hir, mae 'na lwyth o bethau positif!

Legs Up
1. Dwi’n safio pres. O’n i’n arfer gwario tua £10 y mis jyst ar raseli. Ma hynna’n ridicilys, mae o’n £120 y flwyddyn. Felly yn yr 16 mlynedd ers i mi ddwyn rasal Dad, dwi ‘di gwario £1920 JEST AR SHAFIO FY NGHOESA! Nyts.

2. Dwi’n safio plastic! Nes i lwyth o waith ymchwil ar safety razors sy’n well i’r amgylchedd na Bics oren a Venus tafladwy, ond oedd gen i ormod o ofn defnyddio nhw achos oni’n torri’n hun ddigon efo rhei plastig heb ddechrau meddwl defnyddio rhai sgeri metal.

3. Mae’n teimlo’n neis. Dwi’n gwybod fod coesau llyfn yn teimlo’n anhygoel hefyd, OND dim ond cwpwl o oriau ar ôl shafio, mae’r blew yn dechrau tyfu nôl fel nodwyddau bach pigog, ac maen nhw’n crafu yn erbyn dy groen pan ti’n trio cysgu. Ych. Ond os ti ddim yn shafio, ti’n cael coesau fel tedi bêr.

4. Ma’n safio amser. Dim mwy o dreulio hanner awr yn y gawod yn trio cael gwared â bob blewyn. Rŵan, gei di dreulio dy amser sbâr yn cael pamper; be am exfoliatio, gwneud face mask, neu ymarfer unawd ar gyfer Steddfod yr Urdd yn y gawod? La la la!

5. Dim mwy o groen sych. Hwre! Mae pawb yn gwybod fod shafio yn achosi croen sych, a ro’n i’n arfer plastro coconut oil ar hyd fy nghoesau ar ôl eu shafio, jest er mwyn stopio’r croen sych. Ti’n gwbod be arall sy’n stopio croen sych? Peidio shafio!

6. Dim mwy o dorri croen! Dwi mor drwsgl, roedd fy nghoesau’n edrych fel taswn i wedi bod i weld Edward Scissorhands bob tro ro’n i’n shafio, yn enwedig o gwmpas fy mhen-gliniau a fy fferau. Mae’r toriadau yn brifo fel dwnim be, a dydyn nhw ddim yn stopio gwaedu am oriau felly ro’n i wastad efo hoel gwaed ar fy sanau a fy nheits. Aw.

7. Mae’n gynnes. Mae hyn yn swnio’n od, ond dyddiau yma os ydw i’n shafio, dwi wirioneddol yn teimlo’r gwahaniaeth! Mae 'na ddrafft oer ar fy nghoesau bob tro dwi’n shafio, ac mae’n well gen i gadw’n gynnes, diolch yn fawr iawn!

8. Dwi’n teimlo fel ffeminist. Dwi’n gwybod, wrth gwrs, bod ffeministiaid yn cael penderfynu popeth dros eu hunain, felly os wyt ti eisiau shafio, yna dos amdani! Ond os na, wel paid. Os nad oes raid i fechgyn neud, pam ddylwn i?

9. Yr unig reswm mae merched yn teimlo pwysau i shafio ydi am fod cymdeithas yn dweud wrthym ni mai dyna sydd angen ei wneud. Mae peidio shafio yn gwneud i mi deimlo fel rebal! Ac mae gweld ymateb pobl yn reit handi hefyd. Os oes rhywun yn fy ngalw i’n ffrîc neu’n hippy jest am beidio shafio, yna mae’n dangos nad ydyn nhw’n bobl glên iawn!

1o. Mae fel gwisgo glitter! Pan dwi’n torheulo yn yr haul, dwi’n gallu gweld yr haul yn disgleirio fel glitter ar flew fy nghoesau, ac mae o’n fy ngwneud i’n hapus. Gwna dithau'r hyn sy’n dy wneud di’n hapus!

Llio Elain x

Iechyd a Lles | Llio Elain - Shêf yn ôl ddy rêf?
bottom of page