Iechyd a Lles | Ionawr Iach
Gyda’r flwyddyn newydd wedi hen gychwyn, mae mis Ionawr yn llawn traddodiadau hwylus fel Hen Galan a Diwrnod Santes Dwynwen. Ond ymysg y dathliadau hwylus yma sy’n ein cario ni yr holl ffordd i dywydd mwyn y Gwanwyn, mae yna draddodiad cas sy’n cyffwrdd ac yn gwenwyno ein dyddiau Ionawr ni i gyd.
Mae diwylliant deiet a ffitrwydd yn deffro ym mis Ionawr ac yn ysglyfaethu ar bawb sy’n dymuno ceisio gwneud penderfyniadau iachach ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Wrth gwrs, mae gwneud penderfyniadau gwell, fel bwyta llai o sothach a mynd am dro yn fwy aml, yn cael ei groesawu. Maen nhw’n benderfyniadau doeth iawn! Ond mae gan fwystfil y diwylliant deiet a ffitrwydd un peth ar ei feddwl; arian.
Byddwch chi’n siŵr o weld dylanwadwyr yn hybu llu o gynnyrch neu ddulliau o edrych mewn ffordd benodol a ffordd sydd, fel arfer, yn amhosib.
Yn llenwi ein ‘targeted ads’ mae dillad ffitrwydd ac ymarfer corff. Byddwch yn wyliadwrus am y pris, gan fod sawl cwmni yn cymryd mantais o’r trend ‘blwyddyn newydd, fi newydd’ ond pwy a ŵyr, falle bydd bargen i’w gael!
Ar ochr fwy sinistr, mae sawl cynnyrch sy’n cynnig ‘gwyrthiau’, fel te neu lolipop sy’n gwneud i berson colli pwysau. Dros y blynyddoedd mae selebs wedi hybu cynnyrch tebyg ac wedi derbyn llond trol o feirniadaeth am hybu cynnyrch mor beryglus.
Y gwirionedd ydi, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn hwb gwenwynig adeg yma’r flwyddyn, bob blwyddyn. Ni fydd y cwmnïau mawr sy’n pedlo’r peryg yn rhoi’r gorau iddi, felly mae’n bwysig ein bod ni gyd yn amddiffyn ein hunain a dyma lond llaw o tips i chi ar sut i ofalu am eich hunain ar-lein:
Tips
1. Cymerwch saib o’r socials.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn grêt ar gyfer cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a busnesu i mewn i fywydau selebs, ond mae’n hawdd iawn i’r wybodaeth fynd yn ormod. Pan fyddwch chi’n teimlo’ch hun yn cymharu eich bywyd chi gyda dieithryn, rhowch y ffôn i gadw!
Fel soniodd Elin yn ei herthygl fuddugol yng nghystadleuaeth “Fi yw Fi” efallai fod y dylanwadwyr yn cymharu eu bywydau nhw i eraill hefyd!
2. Siaradwch!
Wrth siarad am broblem, mae’r broblem yn cael ei hanneru ac mae siarad yn helpu pawb yn y grŵp! Pan fyddwn ni’n siarad am bwnc, rydym yn normaleiddio’r pwnc ac yn fwy cyffyrddus yn ei godi eto os fydd rhywbeth yn ein poeni. Yn ogystal â hynny, wrth siarad rydym yn dod i sylweddoli nad ydyn ni ar ein pen ein hunain yn ein tosturi ac weithiau mae hynny’n gwneud byd o wahaniaeth!
Os bydd rhywbeth yn teimlo’n ormod i chi allu trafod gyda ffrindiau, ceisiwch siarad gydag unigolyn hŷn y byddwch chi’n ymddiried ynddyn nhw.
3. Mae bywyd ar lein yn fywyd ffug.
Fel dywedodd Mirain yn ei fideo, dim bywyd go iawn ydi’r bywydau y byddwn ni’n eu gweld ar y cyfryngau cymdeithasol.
Meddyliwch, mae 24 awr mewn diwrnod ac weithiau dim ond un llun neu eiliadau sydyn y byddwn ni’n postio. Mae bywydau pob un ohonom ni’n llawn adegau da a drwg a fydd bywyd go iawn byth yn cyfateb i’r bywydau sydd wedi eu curadu ar-lein.
4. Defnyddiwch y botwm ‘unfollow’!
Pan fyddwch chi’n dod wyneb yn wyneb gyda chynnwys nad ydach chi’n dymuno ei weld, mae’n gallu bod yn brofiad anodd. Os oes cyfrif sy’n peri gofid i chi neu sydd jest yn gwneud i chi deimlo’n wael, cofiwch fod pwyso’r botwm ‘unfollow’ yn gallu gwneud byd o les i chi.
Oes gennych chi tips ar gyfer gwarchod dy hun ar-lein? Rhowch wybod i ni!
Am fwy o wybodaeth a chefnogaeth, ewch draw i wefan Meddwl: https://meddwl.org/gwybodaeth/cyfryngau-cymdeithasol/