top of page

Iechyd a Lles | Insta-hwyl? gan Mari Glwys

Iechyd a Lles | Insta-hwyl? gan Mari Glwys

Mae’n hawdd iawn dweud a gwneud pethau ar gyfryngau cymdeithasol, heb feddwl am bwy sy’n darllen. Dyma gerdd fer gan Mari Glwys, 12, o Groeslan ger Llandysul sy’n taflu goleuni ar hyn.

Insta-hwyl?

Instahwyl ar app, ar hap,
Mewn chwinc heb inc na phapur,
Gwisgo gwên mewn ac mewn un clic
Ei lwytho i’r byd ar amrant.

Iaith slic, heb gymryd y mic,
Iaith cŵl a hashnod mewn fflic.

Lluniau gwg, gwefusau cam,
Ein cinio wy a ham;
Ein bywyd beunyddiol mewn ffram
Yn dwt dan ffilters fyddai’n gwingo llygaid Mam.

Instahwyl ar app, ar hap,
Heb ffiniau i’r ffrindiau rhithiol
Sy’n fythol byw a bod gyda’u bodiau’n dangos eu doniau
A neb yn y byd go iawn yn gweld eu dagrau.

Mari Glwys

Os ydych chi’n cael amser caled ar-lein, cofiwch fod yna bobl i’ch helpu – boed yn athro ysgol neu bennaeth blwyddyn, ffrindiau a theulu. Neu ffoniwch Meic Cymru ar 080880 23456. Llinellau ar agor 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae Meic Cymru yn wasanaeth arbennig i chi sy’n gyfrinachol, yn ddienw ac am ddim.

Iechyd a Lles | Insta-hwyl? gan Mari Glwys
bottom of page