top of page

Iechyd a Lles | Hunan-niweidio, fi 'di bod yna

Iechyd a Lles | Hunan-niweidio, fi 'di bod yna

Profiad a chyngor gan ddarllenydd di-enw #LyshCymru
RHYBUDD CYNNWYS: Darllenwch gyda gofal gan fod y darn hwn yn trafod hunan-niweidio. Cysylltwch gyda’ch meddyg teulu i gael cymorth, ac os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid neu’r gwasanaethau brys ar 999. Mae dolenni i gael cymorth pellach ar waelod yr erthygl.
Hunan-niweidio yw pan fydd rhywun yn fwriadol yn gwneud niwed i’w hunain, gan amlaf fel ffordd i fynegi neu i ymdopi gyda theimladau anodd. Mae’n rhywbeth mae llawer o bobl yn ei brofi, ac yn effeithio ar tua 1 o bob 12 person ifanc. Yn groes i’r gred gyffredin, gall effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed, a gan amlaf nid oes cysylltiad rhwng hunan-niweidio a hunanladdiad.

Annwyl ffrind,

Dwi’n deall sut wyt ti’n teimlo; rwyt ti’n teimlo dan bwysau a straen anferthol, yn brwydro yn erbyn yr ysfa ddyddiol i niweidio dy hun, ac yn methu dychmygu gall pethau wella.
Dwi’n deall dy fod di’n teimlo cywilydd, yn teimlo’n wan na alli di ymdopi heb niweidio dy hun, ac yn teimlo y dylet ti fedru ymdopi mewn ffordd fwy cadarnhaol. Mae’n iawn. Does dim angen i ti deimlo cywilydd nac euogrwydd. Nid yw hyn yn dy wneud yn berson gwael na gwan, ac mae’n beth llawer mwy cyffredin nag wyt ti’n meddwl.
Dwi wedi bod yn dy sefyllfa di, ac rwy’n addo, gall pethau wella. Galli di ddysgu dod i garu dy hun, i dderbyn pwy wyt ti, ac i ffeindio ffyrdd gwell i ymdopi.
Roeddwn i’n 16 oed pan niweidiais i fy hun am y tro cyntaf. Doeddwn i methu ymdopi â’r pwysau roeddwn i’n rhoi ar fy hun i lwyddo gydag arholiadau a gwaith ysgol, roedd fy iechyd meddwl ar ei waethaf, a doeddwn i ddim yn hoffi fy hun yn gyffredinol.
Yr eiliad niweidiais i fy hun am y tro cyntaf, roeddwn i’n teimlo rhyddhad a dihangfa o’r meddyliau negyddol. Ond wnaeth y rhyddhad yna ddim parhau am hir, ac yn fuan wedyn roeddwn i’n teimlo cywilydd, euogrwydd ac ofn am yr hyn roeddwn i wedi ei wneud. Parhaodd hyn am rai blynyddoedd.
Yr eiliad roeddwn i’n niweidio roedd popeth yn llonydd ac roedd fy meddwl yn dawel. Ond yna, roedd y teimladau roeddwn i’n ceisio dianc oddi wrthynt yn dychwelyd yn gryfach, yn ogystal â’r euogrwydd a’r cywilydd am wneud hyn.
Mae rhywfaint o wirionedd i’r syniad fod pobl yn niweidio eu hunain er mwyn cael sylw. Roeddwn i’n ysu i rywun i weld y marciau a sylweddoli nad oeddwn i’n iawn. Doedd gen i ddim y geiriau na’r cryfder i ofyn am gymorth. Dyna oedd fy ngalwad i am help. Doeddwn i ddim yn deall pam bod niweidio fy hun yn gwneud i mi deimlo’n well, ond dyna’r peth cyntaf roeddwn i’n meddwl amdano pan oedd rhywbeth yn mynd o’i le. Yn raddol, datblygodd y niweidio yn gaethiwed: roeddwn i’n meddwl amdano bob munud o bob diwrnod, ac yn niweidio sawl gwaith y dydd. Roeddwn i’n deall nad oedd creu niwed corfforol yn ffordd iach i ymdopi â phoen meddyliol, ond roedd yn gaethiwed, ac am rai eiliadau, yn ddihangfa.
Ar ôl i mi orffen yn yr ysgol, mi wellodd pethau yn sylweddol. Doedd yr ysfa i niweidio fy hun ddim mor gryf, ac roeddwn i’n hapusach fy myd yn gyffredinol. Roedd y cyfnod hwnnw flynyddoedd yn ôl bellach, ac er bod hyn yn rhywbeth rwy’n dal i wneud yn achlysurol, erbyn hyn rwy’n medru ymdopi â theimladau anodd mewn ffyrdd mwy cadarnhaol.

Os oes rhywun agos atoch yn hunan niweidio...
Peidiwch â chynhyrfu, er efallai bod hyn yn sioc i chi.
Peidiwch â mynnu na gofyn i’r person roi’r gorau i wneud. Gallai hynny ychwanegu at yr euogrwydd maen nhw eisoes yn ei deimlo.
Peidiwch â mynd â’r gwrthrych maen nhw’n ei ddefnyddio oddi arnynt. Gallent geisio defnyddio rhywbeth sydd hyd yn oed yn fwy peryglus. Nid yw mynd â’r gwrthrych yn cael gwared â’r ysfa i niweidio.
Peidiwch â’u beirniadu. Efallai nad yw hyn yn gwneud synnwyr i chi – mae’n debygol nad yw’n gwneud synnwyr iddyn nhw chwaith.

Yn hytrach…
Gwrandewch. Nid oes rhaid i chi wybod beth i’w ddweud. Gadewch iddyn nhw wybod eich bod yna i wrando ac nad ydych yn eu beirniadu.
Cynigiwch eu helpu i gael cymorth proffesiynol.

Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
https://meddwl.org/erthyglau/technegau-ymdopi-gyda-hunan-niweidio
https://www.mind.org.uk/cy/gwybodaeth-a-chefnogaeth/hunan-niweidio/helpu-eich-hun-nawr
https://www.meiccymru.org/cym/dirgelwch-hunan-niweidio
https://meddwl.org/cymorth
http://www.lifesigns.org.uk/read-this-first
https://hatw.co.uk/things-to-try
https://giveusashout.org
https://meddwl.org/erthyglau/hunan_niweidio_helpu

Iechyd a Lles | Hunan-niweidio, fi 'di bod yna
bottom of page