top of page

Iechyd a Lles | Hapus Fy Myd - Mae'n Bosib!

Iechyd a Lles | Hapus Fy Myd - Mae'n Bosib!

Mae Elen Mai wedi brwydro ar hyd y blynyddoedd gyda'i chorff, ond bellach mae hi'n hapus ei byd â hithau ar ei thrymaf. Mae bywyd yn rhy fyr i fod fel arall, meddai. Dyma ei stori hi'n arbennig i #LyshCymru...

Cyn belled ag y gallaf gofio, mae wedi bod yn frwydr pan mae'n dod at fy mhwysau a delwedd fy nghorff. Roeddwn i'n meddwl mai'r unig ffordd y gallwn i fod yn hapus a byw'r bywyd roeddwn i eisiau ei wneud yw pe bawn i'n colli pwysau yn gyntaf. Pe bawn i'n bwyta llai a gwneud mwy o ymarfer corff, byddai popeth arall yn disgyn i'w le. Yn yr ysgol, yn y gwaith, gyda ffrindiau, a theulu. Roeddwn yn argyhoeddedig fod bod yn fwy o faint yn fy atal rhag bod yn hapus.

Roedd gen i ffrindiau a theulu anhygoel, a phobl oedd yn fy ngharu hyd yn oed pan oeddwn i'n ‘dew’. Roeddent yn fy hoffi am bethau y tu hwnt i fy ymddangosiad, felly pam gadael iddo effeithio cymaint arna i? Po fwyaf o amser a dreuliais yn obsesiynu dros fy maint neu fy mhwysau, y lleiaf pleserus oedd hi i bawb arall i dreulio amser gyda fi. Roedd fy nhymer yn wan, byddwn yn osgoi cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda fy ffrindiau, neu hyd yn oed yn osgoi mynd allan yn gyfan gwbl. Roeddwn i'n cario teimlad cyson o gywilydd ac embaras, ac roedd yn flinedig.

Yr embaras oedd yr un rheswm i mi atal fy hun rhag gwneud chwaraeon a'r ymarfer corff roeddwn i wrth fy modd yn eu gwneud. Doeddwn i ddim eisiau gwneud hwyl am ben y ferch dew na allai gadw i fyny. Neu’r ferch dew a oedd yn edrych yn wahanol i bawb arall yn ei chit Addysg Gorfforol.

Yn realistig, nid oeddwn hyd yn oed mor fawr ag yr oeddwn wedi argyhoeddi fy hun fy mod i. Roedd yna ferched lawer llai na fi yn yr ysgol, ond roedd yna ferched yn fwy na fi hefyd. Ond y gwahaniaeth oedd y ffordd y gwelais i fy hun. Fe wnes i gymharu fy hun â merched mewn cylchgronau a rhaglenni teledu, gan feddwl tybed pam nad oeddwn i (yn fy arddegau) yn cymharu â modelau maint 6 yn eu hugeiniau.

Alla’ i ddim cofio’r union bwynt lle newidiodd fy meddylfryd, ond roedd yn broses raddol. Wnes i ddim deffro un bore a meddwl, “Gwych! Amen i hynna!”. Digwyddodd yn araf a chymerodd lawer o waith caled i gyrraedd lle rydw i nawr. Ond fe helpodd i roi pethau mewn persbectif. Faint o gyfleoedd rydw i wedi'u colli, faint o brofiadau rydw i wedi'u gwrthod, dim ond oherwydd fy mod i'n meddwl fy mod i'n rhy dew? Llawer gormod. Mae'n hurt faint o ddyddiau, wythnosau, hyd yn oed fisoedd y gwnes i eu gwastraffu yn eistedd gartref ar fy mhen fy hun. Beth oedd y pwynt? Nid oeddwn yn mynd yn llai, ac roeddwn yn gwneud fy hun yn ddiflas. Roeddwn i’n cwffio heb gamu ymlaen o gwbl.

Sylweddolais yn fuan na ellir gohirio bywyd dim ond oherwydd eich bod yn edrych mewn ffordd benodol. Pan nad oeddwn yn obsesiynu dros fy ymddangosiad, roeddwn yn ffrind, yn ferch, yn chwaer, yn gariad ac yn gydweithiwr gwell. Heb sôn fy mod i jyst yn hapusach yn gyffredinol gyda mi fy hun. Cefais fwy o egni ac amser i ofalu amdanaf fy hun a mwynhau pethau eto. Nid oedd rhywbeth mor syml â gwisgo yn y bore bellach yn feichus. Roeddwn i’n hapus i gael lluniau gyda ffrindiau a do’n i bellach ddim yn golygu’r lluniau ohonof fy hun. Yn eironig, dw i wedi bod hapusaf ar fy mhwysau trymaf yn ddiweddar o gymharu â phan oeddwn yn dipyn llai yr holl flynyddoedd yn ôl.

Y rhan anoddaf bob amser yw cychwyn arni. Pan rydych chi wedi bod yn gaeth mewn ffordd benodol o feddwl am amser mor hir, mae'n anodd gwybod ble i ddechrau. Y cyfan y galla i ei ddweud yw dechrau trwy roi seibiant i chi'ch hun. Nid yw hunangariad yn digwydd dros nos. Gwthiwch eich hun allan o'ch comfort zone, un cam ar y tro. P'un a ydych chi'n penderfynu gwisgo rhywbeth newydd neu ymuno â thîm chwaraeon, jyst byddwch yn garedig i'ch hun.

Felly gwisgwch y bicini, ewch allan i redeg, gwnewch bethau hwyl gyda'ch ffrindiau! Beth sydd gyda chi ei golli? Dim. Peidiwch â gadael i'ch maint bennu'r bywyd ry’ch chi'n haeddu ei gael.

Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456
Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463
mind.org.uk

Iechyd a Lles | Hapus Fy Myd - Mae'n Bosib!
bottom of page