Iechyd a Lles | Goroesi Afiechyd Bwyta
“Dim ond un corff gewch chi...”
Goroesi afiechyd bwyta
Stori Mared Powell, o Nebo ger Bronwydd.
Dechreuodd pethau pan o'n i’n 17 mlwydd oed ac yn anhapus gyda fy mhwysau a sut ro’n i’n edrych. Penderfynais golli pwysau er mwyn teimlo’n well yn fy hun ac er mwyn hoffi’r ffordd roeddwn i’n edrych.
Dwi’n credu mai achos fy mod i yn yr oedran lle roeddwn i’n dechrau mynd i bartïon pen-blwydd a mynd allan i gymdeithasu ar y penwythnosau, roedd gweld y rhan helaeth o ferched yn edrych yn ffab ac yn gwisgo ffrogiau tynn oedd yn dangos eu ffigurau ar eu gorau ddim yn helpu ac wedi gwneud i mi feddwl am yr hyn roeddwn i’n edrych, gor-feddwl efallai.
Dyma fi’n dechrau bwyta llai a gwneud dewisiadau iach a cyn hir roeddwn i’n dechrau gweld a theimlo gwahaniaeth yn fy nghorff, ac yn hapus gyda’r newidiadau hynny. Ond cyn troi rownd roeddwn i’n bwyta llai a llai, a doedd braidd dim egni gyda fi i wneud dim. A bod yn onest doedd fawr ddim yn fy ngwneud i’n hapus gan fy mod i mor isel fy ysbryd. Erbyn diwedd roeddwn i dan fy mhwysau ac yn edrych yn welw, yn dost.
Cafodd hyn effaith ar fy mywyd yn gyfan gwbl gan fod bwyd yn ffactor hynod bwysig o fyw bywyd bob dydd ac roedd bod mewn unrhyw sefyllfa oedd yn ymwneud â bwyd neu glywed bwyd yn cael ei drafod yn gwneud i mi deimlo panig llwyr, roeddwn i jyst eisiau diflannu.
Fy asgwrn cefn drwy’r siwrnai dywyll yma oedd Mam. Nid dim ond chi eich hun mae salwch fel hyn yn medru effeithio, ond y rheini o’ch cwmpas hefyd. Roedd hi wastad yn barod i wrando arna i pan oeddwn i’n medru siarad am y peth, ond nid oedd geiriau’n hawdd i'w cael allan weithiau ac roedd cwtsh gan Mam ag ysgwydd i lefen arni yn gymaint o ryddhad.
Aeth dros chwe mis heibio cyn fy mod yn sylweddoli fod angen i mi estyn am gymorth ac erbyn hyn roeddwn i’n 18 mlwydd oed yn fy mlwyddyn olaf o’r ysgol uwchradd. Yn anffodus roeddwn yn rhy hen i fedru cael cymorth wrth wasanaeth CAMS (gwasnaeth iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 17 mlwydd oed) ac er bod dau cwnselydd yn dod i’r ysgol, roedd y rhestr aros yn rhy hir. O achos hyn bu’n rhaid i mi fynd yn breifat at gwnselydd lleol.
Gallai ddim a phwyntio bys at un beth penodol a wnaeth helpu mi i wella, ond dwi’n credu y dois i i sylweddoli nad oeddwn yn gallu cario ‘mlaen fel hyn am byth, ac roeddwn i’n benderfynol o fyw bywyd hapus unwaith eto a gallu mynd allan i gymdeithasu eto. Wnaeth pethau ddim newid dros nos ac mae wedi bod yn daith hir a thywyll a heriol ar adegau ond mae’r cyfan werth e yn y diwedd.
Nid yw pethau’n berffaith hyd heddiw, ond maent yn agosach nag erioed. Dwi’n medru bwyta beth bynnag dwi eisiau o ran prydau ac o’r diwedd dwi’n deall pa mor bwysig yw hi i fwyta, yn enwedig y bwydydd cywir er mwyn maethu’ch corff a chael egni. Er fy mod yn ymwybodol fod darn o gacen neu bryd o fwyd allan ddim yn mynd i wneud unrhyw niwed i fy nghorff, mae lleisiau’r salwch yn dod yn ôl yn eu tro sy’n gallu gwneud i mi deimlo’n bryderus. Ond, dwi’n trio fy ngorau i’w hanwybyddu a chysuro fy hun gan fy mod yn gwybod yn well.
Wedi’r cyfan rydyn ni i gyd yn unigryw gan gynnwys ein cyrff ac mae’r salwch yma bendant wedi fy ngwneud yn gryfach nag erioed, yn feddyliol ac yn gorfforol. Rwyf wrth fy modd yn cadw’n heini erbyn hyn ac yn falch iawn fod gen i’r egni i’w wneud.
Dim ond un corff gewch chi felly carwch a gofalwch am eich hun a’r rheini o’ch cwmpas. Allai ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw hi i estyn am help pryd bynnag fo’r angen. Mae’n iawn i beidio â bod yn iawn.
Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456
Beat - www.beateatingdisorders.org.uk
Mae yna hefyd gyngor da ar gael yn Gymraeg ar wefan Meddwl.org - https://meddwl.org/pobl-ifanc