top of page

Iechyd a Lles | Gofal dros y Gaeaf

Iechyd a Lles | Gofal dros y Gaeaf

gydag Arddun Rhiannon o Hel Meddyliau a Meddwl

Mae’r clociau wedi cael eu troi am yn ôl, mae’r tymheredd tu allan wedi gostwng, ac mae’r haul ‘di machlud erbyn 4:30 o’r gloch yn y prynhawn – does dim rhyfedd bod nifer ohonom yn ffeindio tymor y Gaeaf, yn benodol, yn dymor heriol i’n hiechyd meddwl ni.
Wrth reswm tydw i ddim yn arbenigwr ar iechyd meddwl, ond yr hyn alla i wneud ydi cynnig ambell top tip, a dwi’n gobeithio drwy rannu yr hyn sydd y fy helpu i ymdopi a chadw fy iechyd meddwl rhag dirywio, y bydda i’n medru helpu o leiaf un person sy’n cael trafferth codi’u hysbryd ar hyn o bryd.
Er i mi fod mewn denial am gwpl o fisoedd, mae’n saff dweud bod y dyddiau cynnes hirddydd Haf wedi mynd am y tro, felly mae hi’n bwysicach nag erioed i wneud yn siŵr ei bod ni’n gwneud y mwyaf o’r golau yn ystod y dydd. Felly os na ‘mond rhyw awr y dydd o olau ‘dan ni’n llwyddo ca’l yn ystod yr wythnos, ceisiwch gael mwy na hynny ar eich penwythnosau drwy fynd am dro, neu os chi ddigon lwcus o gael gardd – beth am eistedd allan efo panad / siocled poeth (jyst lapiwch fyny cyn gwneud wrth reswm!)

Peidiwch â theimlo’n euog am y ffordd rydych chi’n teimlo
Mae’ch teimladau a’ch emosiynau chi yn gwbl ddilys. Does gan neb yr hawl i ddweud wrthoch chi fel arall. ‘Dan ni gyd yn trio cadw’n pennau uwchben y dŵr at the best of times, heb sôn am yn ystod pandemig byd-eang! Mae’n iawn i gael diwrnodau lle na’ch llwyddiant mwyaf chi ydi’ch bo’ chi wedi gallu codi o’r gwely. Mae’n iawn i gael diwrnodau lle ‘dach chi methu stopio crio. Mae’n iawn i fod yn flin. Mae’n iawn i deimlo.

Ymarfer Corff
Plis peidiwch â sgrolio heibio hwn! Bear with me, oce? ‘Sdim rhaid i chi fy ‘nabod i’n dda iawn i w’bod nad ydw yn ffan enfawr o ymarfer corff (ddim ers on i yn yr ysgol gynradd beth bynnag!). Ond yn ddiweddar dwi ‘di troi at fideos ffitrwydd ar YouTube (rhai hawdd ar gyfer dechreuwyr math o beth de…) a heblaw’r adeg wnes i anghofio c’nesu fyny a gorfod defnyddio bannister y grisia’ fel crutch y diwrnod wedyn… dwi wir yn gweld budd iddo – i fy iechyd corfforol ac iechyd meddyliol. Dwi’n gweld o fel ffordd dda o gryfhau fy nghyhyrau, mae’n rhyddhau endorphins, a hefyd mae o’n rwbath i dynnu’n sylw i ar ôl diwrnod hir. Nadi, ella tydi o ddim i bawb, ond ‘swn i wir yn argymhell i chi drio cyn ei nocio, fel petai!

Gwnewch Hunan Ofal yn Flaenoriaeth
Mae bywyd yn gyffredinol yn gallu bod yn brysur iawn, yn enwedig ar hyn o bryd efo cyfnod y Nadolig yn agosáu, mae ‘na gymaint o bethau angen ei sortio (a’u prynu!). Ond er hyn, mae rhaid parhau i wneud amser ar gyfer chi’ch hun a g’neud rhywbeth ‘dach chi yn ei fwynhau. Yn bersonol, dwi’n caru rhoi ‘nghlustffonau ‘mlaen, pwyso shuffle ar Spotify a joio gwrando ar ganeuon Dua Lipa un funud, ac yna Bryn Fôn y funud nesaf!
Yn ogystal â cherddoriaeth, dwi ‘di ca’l gymaint o fwynhad yn gwrando ar bodlediad ‘DEWR’ – cyfres o sgyrsiau dirdynnol, personol, a gonest rhwng Tara Bethan a 10 o enwogion Cymru. Mae gwrando / darllen am brofiadau pobl eraill fel rhyw fath o therapi i mi. Mae gwybod nad w’t ti ar ben dy hun efo’r emosiynau ti’n ei deimlo, neu’r meddyliau sy’n rasio drw’ dy ben, yn helpu rhywun i ymdopi.
Ac un cyngor arall – os ‘chi ddim awydd chwilio am fideo ffitrwydd ar YouTube, yna mae ‘na filoedd o glipiau comedi ar gael! Yn bersonol, dwi yn crio chwerthin ar fideos Peter Kay – dwi’n meddwl bo’ hi’n amhosib peidio gwenu (o leiaf) ar ei fideos o!
G’won, dwi’n dare-io chi….
Cymrwch ofal o’ch hunain y Gaeaf hwn, ac os ydach chi’n stryglo, plis peidiwch â bod ofn siarad yn agored efo rhywun ‘dach chi’n ymddiried ynddynt – ‘dach chi byth ar eich pen eich hunain.
‘Nai orffen gyda’m hoff ddywediad – ‘un dydd ar y tro.’ x

Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456
Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463
mind.org.uk

Iechyd a Lles | Gofal dros y Gaeaf
bottom of page