Iechyd a Lles | Fy stori i... Meddwl, Alopecia a Chroen gyda Lodes MACh
Naomi Rees, 22 oed ydw i, a dwi’n byw ym Machynlleth (Lodes MACh - gwneud sens?!). Dwi’n byw efo gorbryder ac iselder, a dwi jest wedi blino - yn feddyliol ac yn gorfforol.
Fy stori â’r Meddwl
· Galar ar ôl galar yn ystod 2015-2018, colli pedwar person pwysig iawn yn fy mywyd. Yn anffodus, dyma gychwyn fy siwrnai o ddioddef gyda fy iechyd meddwl, yn enwedig ar ôl bod yn bresennol yn ystod dwy farwolaeth.
· Chwefror 2020, doctor yn dweud wrtha i fy mod yn dioddef o iselder a gorbryder Yna, cefais referral i gwnselydd, a chael fy rhoi ar feddyginiaeth.
· Cyfnod Clo cyntaf, canolbwyntio ar golli pwysau, ta ta i bedair stôn, tywydd braf ac o’n i’n gwneud yn ffantastig. Cwnselydd wedi dweud, “You’re doing great!” FFANBLYDITASTIG!
· Mis Hydref - Mis Rhagfyr 2020, nôl at y doctor, ail-referral i’r cwnselydd a chryfhau meddyginiaeth. Dan lot o straen rhwng bob dim, yn amlwg yn effeithio arna i yn feddyliol ac yn gorfforol.
· Ionawr a Chwefror 2021, Cyfnod Clo rhif 3. Bellach wedi cael pedwar apwyntiad gyda fy nghwnselydd. Referral i Cruse, cychwyn rhaglen SilverCloud, heintiau, Alopecia, amser off gwaith i gael sortio fy hun allan a dechrau cyfrif Instagram MACh.
Alopecia. Alopwy?
Cyn ‘dolig o’n i’n sylwi ar y bald patches ‘ma ar fy sgalp. Es i at y doctor a ddudodd hi bod straen ac iselder, teimlo’n run down, yn dod â'r pethe ‘ma mlaen a gollwng y geirie ‘Alopecia Areata’ ac o’n i fel ALOPWY? So ie, classic merch, es i gwglo a do, wnes i dorri ‘nghalon a meddwl yn syth, O mai gosh, ma hynne am ddigwydd i fi! OND, ar ôl darllen a darllen mae yna wahanol fathau o alopecia a tydi pawb ddim yn dioddef o alopecia totalis. Ma gen i ffurf patchy o alocepia ac yn yr wythnos diwethaf ma’r patches wedi mynd yn waeth a dechrau lledaenu sydd yn hollol naturiol enwedig ein bod wedi cael bach o eira a thywydd oer.
Dio’m yn deimlad neis ond dwi’n oce am y peth acshyli, fedra i ddim gadael y tŷ̂ heb wisgo het neu fand gwallt, ond mae’n rhywbeth mae’n rhaid fi ddelio ag o, ac mae’n rhywbeth sy’n digwydd i LOT o bobl. Does dim cure i alopecia, ‘mond triniaethau gwahanol i helpu’r gwallt dyfu nôl. Mae ‘na gyffurie, injections steroids, siampŵs a chemegion drud ond i fod yn onest I’m gonna ride it out. Time is the best healer a jyst gadael i natur ddangos y ffordd. A rili de, I’m embracing it, ond mae hynny yn anodd weithie yn enwedig gweld yr holl wallt ar waelod y bath ac ar y llawr.
Croen
So mae ‘nghroen i yn hynod o sensitif, ond mae’n gwbl naturiol, yn enwedig dan yr amgylchiadau presennol. Gall straen, iselder, gorbryder effeithio ar fwy na'r meddwl - gall hefyd gael effaith ar eich gwedd. Gall unrhyw fath o straen amlygu yn eich croen, gan mai hwn yw’r organ fwyaf yn y corff.
Gall straen gynyddu lefelau cortisol sydd yn ei dro yn achosi inflammation yn y croen. Yn fy achos i, dwi’n cael recurring impetigo mewn mannau gwahanol ar fy ngwyneb, fel arfer yn rili boenus ond yn clirio ar ôl diwrnodau o antibiotics. Dwi’n ceisio rhoi brêc i fy nghroen ar hyn o bryd a pheidio rhoi unrhyw beth arno sydd am achosi irritation… PS - BODYSHOP 4eva!
TIPS?
1. Siaradwch, gofynnwch am help. Mae hynne yn ei hun yn dangos pa mor gry’ dach chi.
2. Peidiwch â phoeni am be mae pobol eraill yn meddwl amdanoch chi. (Ie, haws dweud na gwneud).
3. Ymlacio, gwrando ar gerddoriaeth, hunanofal a phampyr!
4. Mynd am dro
5. Anadlu a Myfyrdod
Ac yn olaf, byddwch yn garedig â’ch hun.
Naomi (Lodes MACh) x