Iechyd a Lles | Digon yw Digon
Nanw’n galw! Merch yn codi llais ar ôl profiad o aflonyddu rhywiol.
Ar ôl cael profiad annifyr gan ddyn dros y penwythnos tra’n beicio, aeth Nanw Beard o Gaerdydd ar ôl gŵr wnaeth ddweud y dylai gael “rhybudd iechyd oherwydd bod dy ben-ôl yn mynd i achosi damwain”, ac uwchlwytho'r gwrthdaro i’w phroffil Instagram.
Bwriad Nanw oedd tynnu sylw at yr aflonyddu y bu’n rhaid iddi ei ddioddef bob dydd yn y brifddinas, a galw ar ddynion i wneud mwy i herio’r ymddygiad gan eraill.
Dywedodd wrth Nation.Cymru dros y penwythnos ei bod yn beicio ar Ffordd Penarth yng Nghaerdydd pan dynnodd y dyn ochr yn ochr â hi a dweud ei sylwadau hyll.
“Pan wnes i ddweud wrtho fod hynny'n ffiaidd gyrrodd i ffwrdd gan chwerthin,” meddai.
Hwn oedd yr ail achlysur o aflonyddu y cafodd hi'r prynhawn hwnnw ar ôl cael dyn arall yn gweiddi pethau anweddus ati.
“Dwi wedi cyrraedd y pwynt lle dwi i mor ddig ac wedi cael llond bol ar yr aflonyddu cyson ar y stryd dwi'n ei wynebu fel menyw, yn enwedig tra fy mod i ar fy mhen fy hun.”
Heriwch!
Dywed Nanw Beard sydd bellach yn 30 oed bod aflonyddu o’r fath wedi bod yn “norm” iddi ers ei harddegau cynnar.
“Mae wedi bod yn rhan o fywyd dwi jyst yn gorfod ei dderbyn. Ond mae darllen straeon am ferched yn dewis peidio â derbyn hyn bellach wedi fy ngrymuso,” meddai.
“Roedd gan y dyn hwn yr hyn dwi’n tybio ei fod yn fab iddo yn y car. Trwy osod yr esiampl yma, mae'n dweud wrth ddynion ifanc fod yr ymddygiad hwn yn iawn.
“Allwn i ddim colli’r cyfle i alw’r ymddygiad allan. Ro’n i'n teimlo'n fregus ac wedi fy mychanu yn dilyn y sylwadau blaenorol y dyn cyntaf.
“Ond ro’n i’n teimlo o’i ffilmio, ei bod yn annhebygol y byddai’n dod allan o’r car nac yn debygol o fy aflonyddu ymhellach.”
Dywed, pan gyhuddodd y dyn o aflonyddu rhywiol, ei fod wedi chwerthin.
“Gwnaeth hyn i fi gwestiynu fy hun, ond gwn fod hwn (gaslight) yn dacteg gyffredin pan fydd dynion o’r fath yn cael eu galw allan am eu hymddygiad,” meddai.
“O ran sut rydyn ni’n atal hyn rhag digwydd, dwi’n credu mai dynion sydd â’r cyfrifoldeb yn bennaf. Heriwch yr ymddygiad pan fyddwch chi'n ei weld ar y stryd, mewn bariau, mewn sgyrsiau yn y gwaith neu unrhyw le.
“Trwy beidio â chodi llais, rydych chi'n ei alluogi.”
Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - neu Rhadffôn 080880 23456