Iechyd a Lles | Dan Sylw: Newyddion Ffug
Pan mae newyddion mawr yn torri, mae’r newyddion yna yn ein cyrraedd mewn munudau, os nad eiliadau weithiau. Ond nid yn unig newyddion go iawn sy’n ein cyrraedd ni mewn da bryd, ond newyddion ffug hefyd.
Mae newyddion ffug yn teithio’n gyflym iawn ac mae 70% yn fwy tebygol o gael eu ail-drydaru ar Twitter yn ôl arolwg gan yr Athrofa Dechnoleg Massachusetts. Mae’n anodd weithiau adnabod os yw stori’n wir ai peidio. Gyda’r rhyngrwyd o fewn cyrraedd ni gyd mae creu newyddion ffug yn hawdd ac o fewn gallu sawl unigolyn.
Beth ydi newyddion ffug?
Mae gwahanol fathau o newyddion anghywir, yn amrywio o fod yn falais i fod yn ddiniwed. Tra bod rhai yn creu newyddion ffug i fod yn gas, mae rhai yn rhannu newyddion ffug ar ddamwain.
Mae camddehongliad yn ddiniwed ac enghraifft o hynny ydi unigolyn yn rhannu newyddion maen nhw’n meddwl sy’n wir neu rannu llun o ddigwyddiad mawr maen nhw’n feddwl sy’n llun diweddar, ond mewn gwirionedd mae’n hen lun. Camgymeriad syml yw hyn.
Weithiau mae pobl yn rhannu newyddion sydd ddim yn ffeithiol gywir fel jôc. Ar wefannau cymdeithasol, mae sawl cyfrif sy’n gwneud hwyl ar y newyddion ac er mai sbri diniwed yw hyn mae’n hawdd cymysgu neu beidio sylweddoli mai comedi ydi’r cynnwys.
Yna daw’r newyddion ffug sy’n cael eu creu o falais a’u pwrpas ydi gwneud i unigolion penodol edrych yn ddrwg neu i’n dychryn ni. Mae'n bwysig ein bod ni’n gallu adnabod yr erthyglau a’r cynnwys yma fel ein bod yn gallu gwneud yn siŵr ein bod ni ddim yn ei rannu a lledaenu newyddion ffug.
Sut i adnabod newyddion ffug
Er bod erthyglau a chynnwys digidol ffug yn gallu edrych yn wir, mae modd adnabod y newyddion ffug wrth chwilota am gliwiau allweddol. Dyma dri tip i’ch helpu:
1. Beth yw’r ffynhonnell?
Mae’r gair ffynhonnell yn swnio’n ddiflas, rhywbeth o wers hanes... Ond mae o’n bwysig i ni heddiw wrth i ni geisio darganfod y newyddion gwir.
Pan fyddwch chi’n gweld erthygl yn cael ei rannu gan ffrind ar wefan cymdeithasol ac mae’n peri gofid i chi neu mae o’n newyddion annhebygol, ystyriwch os ydi’r ffynhonnell yn un allwch chi drystio.
Meddyliwch, ydych chi wedi darllen newyddion o’r wefan yma o’r blaen? Ydych chi wedi clywed am y wefan yma o’r blaen? Ystyriwch os ydi’r newyddion yma yn cael ei gyhoeddi yn debyg ar wefannau eraill a chymharwch y cynnwys gyda ffynonellau eraill.
2. Peidiwch â thrystio’r pennawd yn unig
Wrth edrych ar wefan newyddion ac erthyglau sy’n cael ei rannu ar wefannau cymdeithasol, mae’r penawdau fel arfer yn gwneud mawr o fynydd. Yn naturiol, mae mudiadau newyddion eisiau i chi glicio a darllen yr erthygl, ond mae un prif wahaniaeth rhwng pennawd erthygl ffeithiol gywir ac erthygl newyddion ffug. Tra bod pennawd erthygl go iawn yn tueddu i bigo eich cydwybod, nod pennawd erthygl ffug ydi i beri gofid i chi.
3. Edrychwch ar y dyddiad
Yn aml, mae pobl yn rhannu erthyglau ar eu cyfrifon ar-lein heb sylwi fod yr erthygl wedi cael ei gyhoeddi gyntaf sawl blwyddyn yn ôl! Er bod newyddion hen fel hyn ddim yn cael ei ystyried yn newyddion ffug (gan fod yr erthygl yn gywir ar y pryd)
Beth nesaf?
Er i chi ddarllen ac adnabod newyddion ffug, efallai bod y storis ffug dal yn eich poeni. Mae’n bwysig eich bod chi’n trafod eich pryderon, hyd yn oed os dydi’r stori sy’n eich pryderu ddim yn wir. Cofiwch estyn allan i oedolyn cyfrifol ry’ch chi’n ymddiried ynddynt, ac efallai wnewch chi ddysgu rhywbeth iddyn nhw am adnabod newyddion ffug!
Eisiau darllen ymhellach?
I ddysgu rhagor am newyddion ffug a llawer mwy, beth am droi at lyfr Cwestiynu Popeth, sy’n taflu goleuni ar sut i ddod o hyd i'r gwir y tu ôl i'r stori drwy ddefnyddio'ch sgiliau critigol? O ddeall beth yw newyddion ffug i ddatrys dirgelion ac ymchwilio i drychinebau, byddwch yn gallu meddwl drosoch eich hun, a chwestiynu popeth! Mewn byd lle mae yna ddrysfa o wybodaeth – dyma’r llyfr perffaith i chi!