top of page

Iechyd a Lles | Coronafeirws: Goroesi Gyda Gorbryder

Iechyd a Lles | Coronafeirws: Goroesi Gyda Gorbryder

gan Arddun Rhiannon

Ma hi’n gyfnod bizarre, dydi? Mae o fel tasa popeth ‘di troi ar ben ei waered mewn mater o wythnosau. Mae 99% o ddigwyddiadau cymdeithasol wedi cael eu canslo / gohirio, ysgolion ar fin cau, pobl yn cael eu hannog i weithio o adra, a’r bobl hŷn yn ein cymdeithas yn cael cyfarwyddyd i aros adra am wythnosau. Dim ond un pwnc sydd yn cymryd sylw pawb - sef y Coronafeirws.

Y teimlad o ansicrwydd sy’n achosi pryder i’r mwyafrif dwi’n meddwl - does neb yn gwybod am ba mor hir fydd bygythiad y firws o gwmpas, na be ydi o yn union chwaith, ac ma’n rhaid i ni geisio ymdopi drwy addasu ein ffyrdd o fyw am rai misoedd.

Does ‘na’m dwywaith ei bod hi’n mynd i fod yn gyfnod mwy heriol na’r arfer. Ond dwi’n benderfynol o geisio edrych ar yr ochr gadarnhaol hefyd, achos os nad ydw i - ma’n iechyd meddwl i yn mynd i ddioddef. Dwi methu pwysleisio ddigon pa mor bwysig ydi edrych ar ôl dy iechyd meddwl yn ogystal â dy iechyd corfforol. Yn enwedig mewn cyfnod fel hyn.

Wnes i alwad ar Twitter cwpl o ddyddiau yn ôl yn holi am gyngor, gan ‘mod i’n teimlo fy ngorbryder yn gwaethygu. Bob tro ro’n i’n fyr o wynt, neu’n teimlo bach yn boeth, ro’n i’n convinced ‘mod i efo’r firws ‘ma. O’dd pob math o scenarios yn mynd rownd ‘mhen wedyn - rhai gwael, obvs (!) a phan wyt ti’n byw ar ben dy hun, does ‘na neb i dy ddarbwyllo fel arall!

Dwi ‘di cael ymateb *anhygoel* ar Twitter. Do’n i byth yn disgwyl gymaint o bobl i gynnig cyngor a chefnogaeth a ma hynny *yn* rwbath i ddathlu. Roedd o fel cael un hyg virtual enfawr. Y cyngor mwya’ ges i oedd i gamu ffwrdd o’r sgrin, a lleihau faint o fwletins newyddion ro’n i’n eu gwylio. Dwi’n cytuno. Ma hi mor hawdd cael dy sugno mewn i’r holl benawdau sgeri, sy’n cynnwys ieithwedd mor ddramatig a niweidiol, a sgrolio yn ddiddiwedd ‘jyst rhag ofn’ bydd datblygiad arall yn y stori. Neith o ddim gwahaniaeth beth bynnag, felly paid rhoi dy hun drwy’r straen.

Dim ond llond llaw o weithiau ti angen darllen y prif benawdau bob dydd. Yn yr amser rhwng hynny, gwna rywbeth defnyddiol ac sy’n dy wneud di’n hapusach - darllen, ioga, cwblhau jig-sos, sgwennu, defnyddio apps meddwlgarwch, gwylio Netflix, neu droi dy sylw ar y newyddion da sy’n digwydd - unrhyw beth.

Er efallai fydd ‘na bellter corfforol rhwng pobl - tydi hynny ddim yn golygu na ddyla ni gadw cysylltiad dynol! Mae hi wir yn bwysicach nag erioed i wneud amser i siarad ag eraill. Efallai bydd rhai yn hunan ynysu am gyfnod go hir a heb neb arall i gymdeithasu efo - felly ma gwneud defnydd o Facetime/Skype neu gael sgwrs ffôn yn gwbl hanfodol. Mae clywed llais / gweld wyneb weithia’n gallu bod yn fwy effeithiol nag anfon tecst.

Dwi wedi gweld ambell un yn cynnig gwneud siopa neu gasglu presgripsiwn rhai sydd yn hunan ynysu, ac mae hynny’n hyfryd gweld ac yn llenwi chdi efo gobaith am ddynoliaeth. Drwy edrych ar ôl ein gilydd, y llai ffodus yn benodol, mi ddown ni drwy’r cyfnod yma’n gryfach. A phan ddaw pethau nôl i normalrwydd a dod yn fwy sefydlog, mi fyddwn ni’n eu gwerthfawrogi llawer mwy, a gobeithio, stopio cymryd popeth yn ganiataol. Mae cyfle go iawn i ni wella fel dynoliaeth fan hyn, a sylweddoli beth yn union sy’n bwysig i ni.

Cymrwch ofal o’ch hunain ym mhob ystyr, ac edrychwch allan am eraill. A chofiwch olchi’ch dwylo am 20 eiliad pan fo angen wrth gwrs.

O.N Plîs stopiwch brynu gormod yn y siopa mewn panig - ond os ydach chi yn mynnu gwneud hynny - ‘sŵn i’n deud mai Actimels ‘dach chi isho, nid papur toiled!

Arddun x

Dos i Meddwl.org i gael cyngor am sut i ofalu am dy iechyd meddwl yn ystod y cyfnod pryderus hwn.

Gair o Gyngor

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n poeni amdanyn nhw, yn teimlo eich bod wedi'ch gorlethu ag emosiynau fel tristwch, iselder ysbryd, neu bryder, neu'n teimlo fel eich bod chi eisiau niweidio'ch hun neu mae eraill, mae cymorth ar gael:

Meic Cymru
https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help
Rhadffôn 080880 23456

Childline Cymru
https://www.childline.org.uk/get-support/contacting-childline/contacting-childline-in-welsh/
Ffôn: 0800 1111 (24/7, am ddim)

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chyngor cyfredol am y firws yma:
Gov.uk
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Iechyd a Lles | Coronafeirws: Goroesi Gyda Gorbryder
bottom of page