top of page

Iechyd a Lles | Codi Llais - Byd o Les

Iechyd a Lles | Codi Llais - Byd o Les

Dwi wastad wedi teimlo’n wahanol, fel pe na bawn i’n ffitio mewn gyda’r plant eraill yn ysgol. Yr hyn nad oeddwn i’n ei wybod ar y pryd oedd o’n i’n blentyn gydag awtistiaeth. Ges i’r diagnosis pan oeddwn i’n bymtheg oed, ar ôl i fi orfod mynd i weld seiciatrydd yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i blant a phobl ifanc.

Dechreuais i deimlo’n isel ac wrth i fi ddechrau ym mlwyddyn 9, daeth y gorbryder i’r amlwg. Doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd i fi, felly fe wnes i gadw popeth i fy hun. Ond wrth i amser basio roedd y teimladau yn gwaethygu. Erbyn tymor yr haf ro’n i’n cael trafferth i fwyta a chysgu, ac fe ddechreuais i hunan-niwedio er mwyn ceisio ymdopi. Ro’n i mor isel, ro’n i’n cael gwaith anadlu, a do’n i ddim yn gallu gweld unrhyw beth positif yn fy mywyd.

Sylweddolodd yr ysgol bod yna rhywbeth o’i le wrth i fi ddechrau ym mlwyddyn 10. Wrth edrych yn ôl, ro’n i’n lwcus i fod mewn ysgol a oedd eisiau fy helpu i. Gwnaethon nhw fy nghyfeirio at y gwasanaethau iechyd meddwl, a dyna pryd wnes i ddechrau gweld y seiciatrydd.

Y peth gyntaf wnaethon nhw oedd rhoi’r diagnosis - awtistiaeth.

Wrth edrych yn ôl, dyma’r rheswm pam ro’n i wastad wedi teimlo’n wahanol, roedd pethau’n gwneud synnwyr o’r diwedd. Ro’n i wedi tyfu lan yn awtistig heb wybod dim am yr awtistiaeth, ac yn sgil hynny, heb gefnogaeth o gwbl. Gwnaeth hyn wneud i mi ddatblygu problemau iechyd meddwl gwael, ac yna salwch meddwl.

Yn anffodus, do’n i ddim yn gallu cael yr help cywir gan y gwasanaethau iechyd meddwl oherwydd problemau yn y system. Dros y blynyddoedd ar ôl cael fy nghyfeirio at y gwasanaethau, fe wnes i waethygu. Dechreuais i weld a chlywed pethau nad oedd yno go iawn, ac fe wnes i ddatblygu anhwylder bwyta, a ro’n i’n peryglu fy hun.

Ro’n i mewn a mas o ysbytai a wardiau seiciatreg, ond hefyd ro’n i’n cael triniaethau a chefnogaeth glinigol ddwys yn y gymuned. Yn sgil hyn, do’n i ddim yn gallu mynd i’r ysgol y rhan fwyaf o’r amser.

Yn fy ngolwg i, roedd e’n annheg bod rhaid i fi ddioddef oherwydd nad oedd y system yn gweithio’n iawn. Felly dechreuais i siarad am fy mhrofiadau, ac er mawr syndod i fi, fe wnaeth pobl ddechrau gwrando ar beth oedd gen i i’w ddweud. Wrth i’r amser fynd ymlaen, roedd fy hyder yn datblygu, a ro’n i’n gallu sefyll ar lwyfannau a rhannu fy stori, siarad â gwahanol gyfryngau am faterion sy’n ymwneud â iechyd meddwl a gweithio gyda grwpiau er mwyn ceisio newid sut mae’r system yn gweithio.

Erbyn hyn dw i’n ymgyrchydd ac yn gweithio ar draws Cymru, Prydain, ac weithiau, Ewrop. Dwi’n yn sefyll o flaen cynulleidfaoedd o bob maint a dw i’n eistedd ar nifer o fyrddau a grwpiau pwysig, gan gynnwys fod yn Gadeirydd newydd i’r elusen iechyd meddwl mwyaf yng Nghymru - Hafal.

Mae mor bwysig i bobl fel fi, pobl gyda salwch meddwl, gael y driniaeth a’r gefnogaeth gywir. Hefyd, mae’n bwysig i blant a phobl ifanc gael y cyfle i ddysgu sut i gadw’n iach yn feddyliol ac emosiynol er mwyn ceisio osgoi problemau iechyd meddwl. Dwi’n awyddus i ddangos i bobl, yn enwedig merched ifanc, bod yna bŵer wrth godi llais. Os ydych chi’n credu mewn rhywbeth, rhaid cael y cryfder i sefyll lan a chreu newid positif yn y byd.

Dw i wedi ac yn dal i frwydro yn erbyn salwch meddwl, yn ymladd y stigma a’r gwahaniaethu sy’n dod gyda bod yn awtistig - ond dw i’n ymladd er mwyn gwneud pethau’n well i’r cenedlaethau sydd i ddod, gobeithio. Mae wedi bod yn daith anodd, ond pleserus iawn ar brydiau.

Peidiwch byth a gadael i unrhyw un ddweud nad oes gyda chi’r cryfder i ddefnyddio’ch llais er mwyn creu newid positif yn y byd. Os ydw i’n gallu gwneud, rydych chi’n gallu gwneud hefyd.

Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456
Mind
0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm)
info@mind.org.uk
86463
mind.org.uk

Iechyd a Lles | Codi Llais - Byd o Les
bottom of page