top of page

Iechyd a Lles | Byw yn fy Nghroen: Fy Mrwydr i

Iechyd a Lles | Byw yn fy Nghroen: Fy Mrwydr i

Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (Mai 18fed – 24ain) ac mae’r angen i godi llais am broblemau iechyd meddwl yn fwy nag erioed. Dyma stori Luned Hughes, 18 o Dudweiliog am ei brwydr gyda gorbryder ac anhwylder dysmorphia’r corff...

Mond 10 oed on i, dwi’n meddwl, pan wnes i gyfogi’n sbïo arna i fi fy hun yn y drych am y tro cynta’. Mi fyswn i’n cychwyn yn yr ysgol uwchradd y mis wedyn - wedi cael fy symud fyny i flwyddyn academaidd uwch. Mi o’n i’n rhoi pwysau ar fy hun i gario mlaen i’r un lefel o waith, ac yn anffodus, mi aeth yr angen yna i fod yn fwy na pherffaith yn yr ysgol lifo mewn i’r angen i fod yn fwy na pherffaith ymhob ffordd.

‘Da chi’n cofio’r bobl rili annoying yna yn yr ysgol sy’n cael 98% a dechra cwyno bod hynny’m digon da, pan dach chi’n ista yna’n browd iawn o 60%? Wel, on i’n arfer bod yn un o’r bobl yna. Geshi 100% mewn arholiad un diwrnod, ond wedyn brifo’n hun ar ôl cyrraedd adra gan bo fi’n gwybod bo fi ‘di camsillafu rhywbeth. A doedd hynny ddim digon da. On i’n dweud wrth fy hun i “gallio”, ond roedd hynny’n golygu newid yr obsesiwn yma i roi’r gora i ganolbwyntio ar academia i ganolbwyntio ar fy nghorff fy hun.

Doedd glasoed ddim yn garedig iawn efo fi. Neshi roi llawer o bwysa mlaen yn gyflym iawn. I gymharu â phawb arall, yn amlwg, on i’n anferthol, yn fy meddwl i. Dyna pryd gychwynnodd y Body Dysmorphia. Doeddwn i’n llythrennol ddim yn gallu gweld fy hun yn y drych fel oeddwn i go iawn. Yn 12 oed, on i’n sbio’n y drych a gweld fy hun yn chwyddo, yn afiach. Mi benderfynais i bryd hynny bod rhaid i mi golli pwysa. Ar un pwynt on i’n trio gwneud dros 500 o crunches y dydd ac yn rhedeg am o leia awr, neu tan on i’n blackio allan. Rhoi 4 sports bra ‘mlaen bob dydd dan jymper ysgol dri maint yn rhy fawr, rhag ofn i fi deimlo unrhyw fath o ddarn corff yn cyffwrdd y dillad. Achosodd hynny broblema’ anadlu. On i’n teimlo fel dieithryn yn fy nghorff fy hun. A doeddwn i byth yn edrych yr un peth o un diwrnod i’r llall. Rhai dyddia, fyswn i’n dyrnu fy hun yn fy stumog, yn ddigon i gleisio, yn trio cael gwared ohono fo. Weithia, fy stumog i oedd y broblem, tro arall fy nghoesa i. Pan oeddwn i’n cerdded o flaen drych oedd rhaid i mi drio tua deg pose gwahanol allan, i drio gweld p’run oedd yn gwneud i mi edrych deneua.

Welish i rywbeth ar y wê am gyfri calorïa’. 400 y dydd oeddwn i’n gael, udish i wrth fy hun. Felly, yn gyflym iawn, neshi ddatblygu anhwylder bwyta. Dwnim faint o weithia geshi’n ngalw’n ‘fabi’ yn y cyfnod yna, gan fod fy llygada i’n llawn dagra ar ôl bod yn pwyso dros y toiled yn yr ysgol nes oedd fy stumog i’n hollol wag. Aeth fy mhwysa gwaed i’n isel. Stopiodd fy ngwallt i dyfu ac mi wnaeth fy ‘mocha i ddechra’ suddo. Mi wnes i golli pwysa, do. Ond llongyfarchiada a chael fy holi am dips geshi, nid help. A pan on i’n dweud bo fi’m yn ddel, neu bo fi’n dew, oni jyst yn “chwilio am gompliments.’ Dim dyna oedd o. Oeddwn i’n teimlo felly go iawn. Os swni’n dena’ i gychwyn efo hi, dwi’n bendant y byswn i ar ward meddyliol o fewn wythnosa...ond pan ‘da chi’n fwy i ddechra efo hi cyn colli’r pwysa...dach chi’n troi fewn i ryw fath o success story tywyll iawn.

Ma diffyg bwyta’n gwneud i chi golli ffwythiant meddyliol hefyd - ddim jyst ffwythiant corfforol. Prin iawn dwi’n cofio gwenu’n ystod y cyfnod yna. Prin iawn dwi’n cofio teimlo dim, i ddweud y gwir. Dim byd yn fy ngwneud i’n hapus, ond dim byd yn fy ngwneud i’n drist chwaith. Jyst bodoli bob diwrnod, yn benderfynol o beidio dangos emosiwn. On i’n repressio fy nheimlada am gymaint o ffactora, on i’n repressio POB teimlad dynol. Dwi’n actores dda, yn anffodus. Felly oeddwn i’n gallu actio fel nad oedd dim o’i le - yn ymddangos y hollol hapus a distaw, tra ar y tu mewn, on i’n meddwl am esgus dros y cleisia’, neu pa mor dew oedd fy nghefn i’n edrych i’r genod ar y ddesg tu ôl i mi. Ar ôl dipyn, aeth pob dim jyst yn ddibwynt. Iselder posib, wrth sbio’n ôl ar y peth. Oedd hynny hefyd yn golygu, pan oeddwn i YN teimlo rhywbeth, oedd o’n llawer cryfach na emosiyna normal.

Oedd ‘na gyfnod lle oedd gen i anger issues hefyd, oherwydd hyn i gyd. A sociopath geshi’n ngalw gan rai. Munud ma rywun yn brandio chi’n rhywbeth felly, dach chi’n cychwyn meddwl bo nhw’n gywir. On i’n hollol convinced bo fi’n seicopath. Yn haeddu dim byd o gwbl. Y gwaetha o’r gwaetha. A dyna’r unig bryd wnes i frifo’n hun. Haf arall yn gwisgo llewys hir. Mi oeddwn i’n genfigennus iawn o’n ffrindia. Oedden nhw’n gallu rhoi eu llaw i fyny’n y dosbarth heb gael panic attack. Gallu peidio gwisgo dau T-shirt a shorts i fynd i nofio. Gallu cysgu. Dim ond dau lun sy’n bodoli ohona i am gyfnod o 4 mlynedd. Neshi erfyn ar fy ffrindia i ddileu unrhyw rai eraill, a gwneud yn siŵr mai fi fuasai’n tynnu’r llunia fel arfer - fel na fyswn i’n poeni sut on i’n edrych.

On i wastad yn blentyn swil. Ond dydi swildod ddim jyst yn swildod’ ar brydia’. Ma anxiety wastad wedi bod yn rhan ohona i. Ddim yn gallu gwneud yr un symudiad na dweud gair heb feddwl be fysa pobl eraill yn ei feddwl ohona i. Meddwl be fysa’n GALLU digwydd bob diwrnod cyn gallu codi o ‘ngwely, nes on i’n methu codi o gwbl allan o ofn. Hyd yn oed pan on i tua 5, ac yn mynd i’r siop efo Nain, mi fyswn i’n crynu yn gorfod siarad efo rhywun newydd. Ond fyswn i byth yn cyfadda’r ffasiwn beth. Dyna oedd hi am y blynyddoedd cynta, cuddio bob teimlad oddi wrth bawb nes i mi wneud fy hun yn sâl. Yn sâl iawn.

Dwi’n sgwennu am fy mhrofiada’ yn fama am ddau reswm. Yn gynta’, ella alla i helpu rhywun sylwi bo nhw DDIM yn ‘seico’. Yn ail, mae o’n helpu finna’ hefyd. Wnes i bara ryw wyth mlynedd heb yngan gair am ddim wrth neb. Dwi angen gwneud fyny am hynny rŵan. Gefais i sesiyna CBT efo therapydd yn y chweched. Ond erbyn i mi gael apwyntiad, oedd y rhan fwya’ o’r anxiety wedi diflannu beth bynnag. Dyna pryd wnes i sylwi fy mod i’n ddigon cry’ i siarad am y petha’ ‘ma.

Dwi’n maddau i bawb wnaeth alw fi’n dew tra on i’n bwyta 1 cream cracker y dydd. Dwi’n maddau i bawb alwodd fi’n ‘fabi’ am grio ar ôl taflu fyny. Dwi’n maddau i bawb alwodd fi’n ‘weirdo’. Ddim bod angen maddeuant, chwaith. Doeddan nhw’m yn gwybod. Dim nhw sydd ar fai. Yn bwysicach na hynny, dwi’n maddau i mi fy hun. Am bob dim. Dwi go iawn wedi trio osgoi bod yn cheesy ond, yn cliche iawn - mae o wedi fy ngwneud i’n gryfach. Fyswn i’n licio siarad am sut y gwnaeth petha wella. Sut dwi ‘di cyrraedd y pwynt yma heddiw, heb boen yn y byd heblaw pa sgert i wisgo tro nesa’ af i allan. Ond yn rhyfedd iawn, sgena i ddim syniad o gwbl. Un wythnos on i’n crynu wrth orfod ateb y ffôn, a’r wythnos wedyn on i’n dawnsio ar ben bar am ddau o’r gloch y bore. Amser ‘di’r peth pwysig. Ers misoedd, dwi heb feddwl unwaith am ba mor dew ydw i. Dwi wedi gallu sbio arna fi fy hun yn y drych a gwenu. Gallu gwneud penderfyniada’ heb boeni be fydd barn neb arall. Es i i Seland Newydd ar ben fy hun ym Mis Chwefror, heb boeni dim be fyswn i’n ei wneud ar ôl cyrraedd yno. ‘Di’r term ‘glow-up’ ‘rioed di bod mor briodol dwi’m yn meddwl.

Ma rhan fwya o bobl sy’n fy nabod i’n gwybod nad ydw i’n cymryd llawer yn ddifrifol iawn. Dwi’n stryglo peidio trio ffeindio’r digri ym mhopeth. Dwi’n gwneud y rhan fwya’ o betha’n jôc - ond dwi’n meddwl mai fy ffordd i o ddelio efo petha ydi hynny. Yn lle poeni bod pobl yn chwerthin ar fy mhen i, dwi’n joio eu bod nhw. Yn trio gwneud i fyny am yr holl chwerthin ddylwn i wedi ei wneud flynyddoedd yn ôl. Mae gen i’r ffrindia a’r teulu mwya cefnogol yn y byd, a sgen ‘run ohonyn nhw syniad o ba mor lwcus ydw i o’u cael nhw. Yn llythrennol, ma nhw’n lifesavers. Fysa Luned flwyddyn yn ôl ddim yn adnabod y Luned sy’n stryglo i gadw’r sgwennu ‘ma’n siriys heddiw. Geith pobl dynnu fy nghoes i gymaint â allan nhw bellach, gan bo fi’m yn meindio rŵan, ond hefyd oherwydd all neb fod mor gas efo fi a oeddwn i fy hun un tro.

Dwi’n joio bywyd heddiw, a dwi’n browd iawn o’r hogan fach ‘na fuodd yn poeni lot gormod ers talwm.

Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456
Beat - www.beateatingdisorders.org.uk

Iechyd a Lles | Byw yn fy Nghroen: Fy Mrwydr i
bottom of page