Iechyd a Lles | Byw'n Wyrddach gyda Mari Elin
Mae’n siŵr eich bod chi wedi clywed tipyn o sôn am yr amgylchedd yn ddiweddar - mae’r newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol yn llawn bob math o straeon am yr effaith ni’n ei gael ar y byd o’n cwmpas. Gall hyn i gyd swnio’n anobeithiol, ond mae llygedyn o obaith… mae jyst angen i ni wneud rhywbeth!
Mae gan bob un ohonom ni ddyletswydd i wneud ein rhan yn yr ymdrech yma i achub y blaned. Does dim rhaid i ni gyd fod fel Greta Thunberg (er byddai hynny’n wych!) ond gallwn ni gyd wneud rhywbeth - dim ots pa mor fach yw’n cyfraniad ni, mae’n cael effaith.
Felly, â hithau’n fis #GorffennafDiblastig beth am drio un o’r syniadau yma… neu hyd yn oed fwy!
5 Tip Byw yn Wyrddach
1. Poteli a Chwpanau Ailddefnyddiadwy
Dim mwy o boteli dŵr plastig a chwpanau coffi tecawê - prynwch fotel a chwpan ailddefnyddiadwy. Mae amrywiaeth wych ar gael!
2. Y ’Stafell Ymolchi
Mae’r ’stafell ymolchi yn lle gwych i dorri lawr ar blastig; cyfnewid siampŵ mewn poteli plastig am fariau siampŵ, defnyddio sebon yn hytrach na jel cawod a chyfnewid eich brwsh dannedd plastig am un bambŵ.
3. Ffasiwn ar Hast
Mae ein harferion siopa ni yn gwneud drwg ofnadwy i’r ddaear - y diwydiant ffasiwn rad a chyflym yw un o’r llygrwyr mwyaf ar ôl olew! Prynwch ddillad ail-law a vintage (mewn siopau elusen ac ar wefannau fel ebay a depop) - nid yn unig byddwch chi’n helpu i achub y ddaear, ond byddwch chi’n datblygu eich steil unigryw eich hunain!
4. Misglwyf Gwyrdd
Mae opsiynau llawer mwy cyfeillgar i’r amgylchedd ar gael i ni ferched ddelio â’n misglwyf. Arbrofwch â chwpanau misglwyf, padiau cotwm golchadwy neu ddillad isaf arbennig - ond cofiwch mai’r peth pwysicaf pan mae’n dod at fisglwyf ydy hyn: gwneud beth sy’n gyfforddus i chi a’ch corff.
5. Rhannu’r Neges
Un o’r pethau pwysicaf allwn ni wneud yw rhannu’r neges gydag eraill. Siaradwch â’ch teulu a ffrindiau, rhannwch syniadau a defnyddiwch eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r neges!
Am fwy o wybodaeth a syniadau…
Blog: https://gwyrddach.wordpress.com
Instagram: @gwyrddach
Facebook: Ymunwch â’r grŵp ‘Gwyrddach gyda’n Gilydd’