top of page

Iechyd a Lles | Bys ar Byls y Mislif gyda Hafwen Hibbard

Iechyd a Lles | Bys ar Byls y Mislif gyda Hafwen Hibbard

Fi a'r Mislif
Mae llawer o bobl yn gweld mislif fel newid mawr mewn bywyd i fenywdod. Mae hyn yn gallu bod yn sefyllfa eithaf ofnus i ferched ifanc oherwydd fel arfer dy’ch chi ddim yn ei ddisgwyl. Weithiau pan rydyn ni’n cael ein mislif cyntaf, mae hi’n anodd ei adnabod yn syth.

Pan ges i fy mislif cyntaf, roeddwn i mewn gwersyll haf yn Nyfnaint! Dwi'n cofio meddwl fy mod i wedi cachu fy hun 😂.

Ar y pryd, do’n i ddim yn gwybod fod hyn yn ymateb cyffredin wrth weld eich mislif cyntaf, ond mae hi'n normal iawn i weld gwaed brown yn dechrau eich cylched, dim ond gwaed hen yw e.

Wnes i stryglo dweud wrth Mam fy mod i wedi dechrau fy mislif, oedd gen i deimlad enfawr o embaras, ond ar ôl iddi siarad â fi a dangos i fi sut i ddefnyddio'r eitemau cywir, teimlais yn llawer mwy cyfforddus.

Mae eich mislif cyntaf yn cymryd bach o amser i ddod yn gyfarwydd ag e. Ond ar ôl cwpwl o fisoedd mae'n hollol normal.


Normaleiddio!
Mae miliynau o fenywod wedi bod yn cael eu mislif ers cannoedd o flynyddoedd ac mae’r gymdeithas dal heb ei normaleiddio. Mae mislif yn achosi cymaint o anghysur i fenywod yn barod, mae ychwanegu stigma amdano yn hollol annheg ac mae angen cael ei ddatrys.

Un cam mawr at normaleiddio mislif fydd cael gwared ar bris eitemau fel pads a tampons. Byddai hyn yn galluogi i bawb cael mynediad at yr eitemau sydd eu hangen arnom a bydd hyn yn cyfrannu'n fawr at normaleiddio mislif.

Yn ogystal â hyn, byddai mwy o drafodaethau am ein mislif mewn ysgolion, ar wefannau cymdeithasol ac mewn erthyglau yn gwneud gwahaniaeth mawr am y byddai hyn yn cyfrannu at leihau'r tabŵ o amgylch mislif menywod.


Ymwybodol o Endo
Endometriosis yw cyflwr lle mae meinwe (tissue) tebyg i leinin yn y groth yn dechrau tyfu mewn adrannau fel yr ofari ac y fallopian tubes. Mae Endometriosis yn achosi poenau difrifol sydd yn gallu rhwystro merch rhag gwneud gweithgareddau dyddiol.

Mae’r cyflwr hefyd yn gallu achosi poen wrth ddefnyddio'r tŷ bach a maes o law mewn bywyd, cael rhyw.

Yn ogystal, mae Endometriosis yn gallu achosi salwch, rhwymedd a thrafferthion wrth feichiogu. Mae’n gyflwr anodd iawn ac mae’n bwysig i fod yn ymwybodol ohono.

Os ydych yn gweld symptomau yn ymddangos, siaradwch â doctor.


Stigma ac annhegwch

Mae llawer o stigma pan mae’n dod at fislif sy’n gallu gwneud i ferched teimlo cywilydd yn ystod eu hamser o’r mis. Mewn rhai diwylliannau maent yn derbyn hyn mewn ffordd eithafol iawn, sydd yn achosi camdriniaeth a gostyngeiddrwydd ofnadwy.

Mae hi’n anodd credu ein bod yn 2021 ac mae'r fath yma o driniaeth yn dal i fodoli.

Rydw i’n cyfri fy hun yn lwcus iawn fy mod i ddim yn derbyn y fath yma o annhegwch.

Mae’r stigma rydw i'r fwyaf cyfarwydd gydag e yn dod o ddynion mewn cymdeithas sydd wedi creu camdybiaethau am sut mae mislif yn effeithio menywod.

Faint o weithiau wyt ti wedi clywed, “Www wyt ti ar dy fislif?” gan ddyn pan nad wyt mewn hwyliau arbennig? Dwi wedi colli cownt. Mae llawer o ddynion yn defnyddio geirfa fel hyn er mwyn priodoli emosiynau cryf menyw pan mewn gwirionedd, teimlo emosiynau hollol normal ydyn ni. Mae’r sylwadau yma yn gallu gwneud i ni deimlo fel bod ein teimladau yn annilys, yn enwedig pan rydym yn ei dderbyn gan bobl sydd methu deall beth yn union rydym yn mynd trwyddo.

Yn ôl hanes roedd dynion yn meddwl bod y groth yn gwneud menywod yn afreolus ac yn wyllt, yn amlwg mae’r stigma yma yn dal i fwydo mewn i’r gymdeithas heddiw.

Er bod mwy o drafodaethau ac ymwybyddiaeth yn cael ei rhoi allan i’r gymuned trwy gyfryngau cymdeithasol, mae yna dal llawer o stigma a thriniaeth annheg dros y byd sydd angen cael eu cyfeirio atynt a'u newid er mwyn i ni greu cymdeithas llai beirniadol a mwy deallus.


Cofleidio’r mislif!
• Ceisiwch fod yn ymwybodol o bryd mae eich mislif yn dechrau (mae ap Flo yn dda ar gyfer hwn). Er hyn, weithiau mae eich mislif yn gallu bod yn afreolaidd o ganlyniad i straen a ffactorau eraill felly peidiwch â phoeni gormod os nad ydych cyn dechrau ar yr un dydd bob mis.

• Ewch a bag bach mislif gyda chi i’r ysgol/gwaith fel eich bod chi wastad yn barod os ydych chi neu ffrind angen cyfarpar yn ystod y dydd.

• Mae gan bob merch eitemau mislif maen nhw’n hoffi eu defnyddio fwyaf, felly ffeindiwch yr eitemau sydd fwyaf cyfforddus i chi.

• Mae poteli dŵr poeth yn god send pan dwi ar fy mislif, mae’n caniatáu i gyhyrau’r groth i ymlacio, ac mae’n lleihau’r boen dipyn.

• Os ydych chi fel fi ac yn cael lot o boen, mae meddyginiaethau sy’n helpu i waredu’r boen fel paracetamol yn gallu bod yn help mawr yn enwedig wrth drio mynd i gysgu gyda’r nos.

• Ewch allan i gerdded neu wneud bach o ymarfer corff. Mae symud yn ystod eich mislif yn codi llif eich gwaed, sy’n lleihau’r poenau.

• Ffeindiwch y snac sy’n gwneud i chi deimlo’n dda ar eich mislif. Party Rings i fi!

• Gwyliwch raglen neu fideos ar YouTube sy’n codi eich hwyliau ac sy’n cymryd eich meddwl i ffwrdd o sut ry’ch chi’n teimlo ar eich mislif.

Hafwen x

Iechyd a Lles | Bys ar Byls y Mislif gyda Hafwen Hibbard
bottom of page