top of page

Iechyd a Lles | Byd o Blanhigion

Iechyd a Lles | Byd o Blanhigion

Gyda manteision iechyd meddwl a gyda’i swyn sy’n gallu adfywio unrhyw ystafell llwm, mae planhigion tŷ wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf.

Un o wynebau cyfarwydd cymuned garddio ar-lein Cymru ydi Naomi Saunders, cyflwynydd newydd Garddio a Mwy. Dyma gyfle i’w holi am ei diddordeb a hefyd gofyn am tips i’w rannu gyda darllenwyr Lysh Cymru.

Yr hedyn a blannwyd
Er i’w diddordeb ddyblu yn ei faint dros y blynyddoedd diwethaf, gafodd Naomi fagwraeth ymysg coed bananas a bambŵ ei nain a thaid.

“Oedd Grandma a Grandad fi yn arddwyr tirwedd,” eglura Naomi. Bu farw ei nain, ond mae ei thaid yn ymgartrefu o hyd yng nghanol byd natur sy’n anarferol i’w cynefin nhw, meddai. “Mae Grandad fi yn byw ym Mhenllyn mewn microhinsawdd bach lle maen nhw wedi tŷfu coed bananas, bambŵ, llwyth o bethau boncyrs! Mae yna goed sydd tua 60 oed a chafodd y rheini eu plannu o hadau, sy’n anhygoel!”

Pan mae o’n dod i fambŵ, mae taid Naomi yn athrylith!

“Mae gan fambŵ cylch bywyd o tua 30 blwyddyn a gan Grandad planhigion bambŵ sy’n dod ar ddiwedd y cylch bywyd yna rŵan. Mae o wedi byw yn ei dŷ ers dechrau’r 70au ac mae o’n anhygoel fod o wedi gallu gweld cylch bywyd rhywbeth sy’n cymryd mor hir i fynd drwy’r cylch cyfan.”

Yn saith mlwydd oed, rhoddodd ei rhieni ei phlanhigyn cyntaf iddi. “Nesh i gal planhigyn bach efo blodyn bach piws arno fo. Doeddwn i ddim yn gwybod be oedd o... a dwi dal ddim yn gwybod be oedd o! O’n i wedi mopio efo fo!”

“Nesh i gal ambell i blanhigyn yn y coleg, o gwmpas yr adeg lle'r oedd planhigion tŷ yn dechrau dod yn boblogaidd eto,” meddai Naomi, cyn datgelu diwedd anffodus ei phlanhigion, cyn iddi wybod sut i ofalu amdanynt yn iawn. “Oedd gen i bethau fel Orchid, ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i edrych ar ôl nhw ac ar ôl ‘chydig roeddan nhw’n marw.”

Mae casgliad Naomi o blanhigion yn un eang iawn. O monstera i anthurium, mae Naomi yn egluro fod ei ffefryn yn newid o hyd. "Dwi’n mynd trwy gyfnodau o ffafrio planhigion gwahanol. Llynedd on i’n ffocysu’n fwy ar blanhigion tŷ, blwyddyn cynt on i’n canolbwyntio ar dyfu llysiau a blwyddyn yma dwi’n mynd yn boncyrs efo blodau. Blwyddyn yma dwi’n tŷfu daliahs am y tro cyntaf!” meddai, cyn cyfaddef ei bod wedi mynd dros ben llestri braidd! “Dwi wedi mynd yn boncyrs a phrynu llwyth! Dwi’n licio’r siapia a lliwia gwahanol.”

Manteision Iechyd Meddwl
Mae garddio ac edrych ar ôl planhigion heb os yn gwneud byd o les i’n hiechyd meddwl, gyda sawl unigolyn yn garddio er mwyn lleddfu ar eu gor-bryder.

“Mae o’n rhyfedd, achos weithia mae gen i gymaint o bethau i’w gwneud ar fy rhestr, ond dwi ddim yn stresio allan o gwbl. Dwi’n meddwl fod o’n rhywbeth i wneud efo chwarae efo pridd, gwneud rhywbeth efo dy ddwylo, gwneud rhywbeth naturiol. Dydw i ddim yn licio defnyddio menig garddio achos dwi’n licio teimlo’r pridd a theimlo’r dail... ac mae amser yn mynd mor gyflym, ond eto mae o’n stopio. Mae gynno chi jest chi a’r planhigyn neu flodyn, y job ti’n neud a does ‘na ddim byd arall yn bwysig a ti mewn bubble bach. Mae o’n rili neis anghofio bob dim arall a gadael dy ffôn naill ochr.”

Nid yn unig y weithred o blannu a garddio sy’n gwneud byd o les i ni, ond ymysg y garddwyr mae cymunedau clos a chefnogol ar y cyfryngau cymdeithasol.

“O fewn y gymuned garddwyr, yn enwedig efo planhigion tŷ, mae ‘na lot o bobl sydd yn dioddef efo iselder neu gor-bryder ac mae edrych ar ôl planhigion wedi rili helpu nhw i ffocysu ar rywbeth arall. Mae o’n ddiddordeb sy’n helpu lot o bobl. Mae pawb wastad yn helpu ei gilydd ac mae o’n rili neis i weld hynny.”

Garddio ar raddfa fach
Pan fyddwn ni’n meddwl am arddio, mae rhai yn diystyru’r syniad am nad oes ganddyn nhw lawer o le i wneud hynny. Fodd bynnag, mae Naomi yn pwysleisio nad oes angen lot fawr o le i ymddiddori ym myd planhigion ac mae’r ffocws yn hytrach ar gael y lle iawn i’r planhigyn.

“Y peth ydi cael y lle iawn efo’r golau iawn. Yn fy ystafell wely i does gennai ddim planhigyn yna ar y funud achos mae o’n wynebu’r gogledd. Maen nhw’n iawn yna dros yr haf ond yn y gaeaf dwi’n dod â nhw i ochr arall y tŷ lle mae’n oleuach.”

Does dim angen lot o le i allu tyfu bwyd chwaith, ac mae tomatos yn tyfu’n wych mewn potiau yn ôl Naomi a’r tomatos hynny yn siŵr o fod yn blasu’n well na thomatos o unrhyw siop. “Fedri di dyfu letys mewn troth bach, hefyd. Mae yna lot o bethau sy’n gallu cael eu haddasu er mwyn eu tyfu ar raddfa fach.”

Daw cyfryngau cymdeithasol i’r adwy unwaith eto er mwyn ysbrydoli unigolion sydd â diffyg gardd fawr i allu tyfu planhigion mewn mannau bach iawn. “Fy hoff Instagrammer yn y byd ydi boi o’r enw The Frenchie Gardener. Dyn o Ffrainc o’r enw Patrick sy’n byw ym Merlin ac mae o’n tyfu pethau ar ei falconi. Mae o efo bob dim mewn tybiau ac mae o’n dysgu pobl i dyfu mewn lle bach iawn. Dwi’n caru hynna achos mae ‘na gymaint o bobl mewn dinasoedd sydd methu gwneud ar raddfa fawr ac maen nhw’n gallu cymryd rhan.”

Top tips
Mae byd planhigion yn gallu bod reit ofnus i rai sy’n cychwyn am y tro cyntaf. Mae yna gymaint i ddysgu, a bob planhigyn yn gofyn am ofal gwahanol... Ond peidiwch â phoeni, dyma Naomi i rannu 3 tip i’n rhoi ni ben ffordd.

• “Cychwynna efo rhywbeth hawdd fel pothos. Maen nhw’n edrych yn neis, tyfu’n dda a neith o ddim eich gadael chi lawr.” Er bod pobl weithiau yn awgrymmu cactus fel planhigyn cyntaf, mae Naomi yn argymell fel arall! “Pan mae rhywun yn cael planhigyn am y tro cyntaf, maen nhw’n lyfio dyfrio trwy’r adeg... a dyna’n union sut i ladd cactus!”

• Cyn prynu planhigyn, mae Naomi yn awgrymu eich bod yn gwneud mymryn o waith ymchwil i wneud yn siwr eich bod yn gallu cynnig y cartref perffaith i’r planhigyn yna. “Cymerwch dau funud i ddysgu sut i edrych ar ei ôl o, sut olau mae o’n licio a phryd i’w ddyfrio. Mae gwneud y gwaith ymchwil sydyn yna yn gwneud byd o wahaniaeth.”

• “Peidiwch a gor-ddyfrio!” rhybuddiai Naomi. “Codwch y pot i fyny a dros amser wnewch chi ddysgu sut mae potyn ysgafn (angen dŵr) a photyn trwm (ddim angen dŵr) yn teimlo.”

Un tip arall gan Naomi ar sut i ddatgan os mae planhigyn angen ei ddyfrio neu beidio.
“Sticiwch eich bys holl ffordd i mewn i’r pridd, a dim ond os ydach chi’n teimlo’r pridd yn sych gyda’ch bys mae o angen ei ddyfrio.”

Gyda chyngor da Naomi, does dim i’ch dal yn ôl rhag cychwyn eich gardd sil ffenest fach eich hun!

Iechyd a Lles | Byd o Blanhigion
bottom of page