top of page

Iechyd a Lles | Blwyddyn Ysgol Werdd

Iechyd a Lles | Blwyddyn Ysgol Werdd

Mae hi’n flwyddyn ysgol newydd ac yn ddechrau newydd i ni gyd. I lawer, mae’r llechen lân yn cael ei chroesawu ac mae’n gyfle perffaith i wneud newidiadau am y gorau. Allwn i fanteisio ar y cyfle yma i wneud newidiadau bach gwyrdd yn ein hysgolion, tybed?
Rydyn ni gyd yn ymwybodol o newid hinsawdd ac mae hynny’n peri pryder. Mae gor-bryder o ganlyniad i’r wybodaeth am newid hinsawdd, neu eco-anxiety, yn gyffredin iawn ac mae’n bwnc sy’n effeithio ni gyd. Felly, beth am i ni reoli beth allwn ni ei reoli gyda’n gilydd gan ganolbwyntio ar sut i fyw bywyd ysgol mewn ffordd sy’n fwy gwyrdd?

Nwyddau Ysgrifennu
Meddyliwch yn ôl i’r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd a’r sioeau amaethyddol. Ydych chi’n cofio’r holl freebies? Y beiros, y prennau mesur, y pensiliau? Wel, mae eu hawr i serennu yn eich cas bensiliau wedi cyrraedd o’r diwedd!
Mae gan bawb drôr yn rhywle sydd llawn dop o’r beiros y maes gyda logos bob cwmni dan yr haul arnyn nhw. Maen nhw fel arfer o safon wych, yn para amser maith ac mae defnyddio’r rhain yn arbed arian a thrip i’r siop i chi!

Potel o ddŵr
Mae dod a photel o ddŵr eich hun yn gynnig syml iawn ond yn un pwysig iawn hefyd. Mae’n ffaith fod 3.25 biliwn o boteli plastig yn cael ei daflu heb eu hailgylchu yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Felly, mae synnwyr yn dweud fod dod a photel i’w hailddefnyddio bob dydd yn arbed ein hamgylchedd yn ogystal ag arbed arian i chi.

Gwisg Ysgol
Nid oes modd osgoi'r angen am wisg ysgol a phrynu meintiau mwy bob cwpwl o fisoedd. Mae pawb yn tyfu, dim bai chi ydi hynny! Er bod gwisg ysgol addas yn rheidrwydd, mae ffyrdd gwahanol o gyflawni’r dasg yma sydd ddim yn golygu prynu’n newydd ac ymrwymo i ffasiwn cyflym.
Wrth chwilio am drowsus neu sgert ysgol, mae hynny fel arfer yn weddol hawdd gan nad oes logo’r ysgol ar y rheini. Ceisiwch ddod o hyd i bâr ail-law mewn siop elusen neu ar apiau dillad ail-law, fel Depop.
Pan mae’n dod at siwmperi, mae hynny’n ychydig mwy o her. Mae rhai ysgolion yn mynnu logo ar y siwmperi, felly mae dod o hyd i un ail-law mewn siop elusen yn anodd (er nid yn amhosib ac mae’n werth chwilio!). Os fyddwch chi’n ddigon ffodus o gael brawd, chwaer neu gefndryd sy’n hŷn mae’n bosib y byddwch chi’n derbyn hen rai ganddyn nhw. Os ddim, peidiwch â phoeni! Holwch o gwmpas i weld os oes rhywun yn y gymuned eisiau cael gwared â hen siwmperi, neu tybed ydi’ch ffrind efo un sydd yn rhy fach bellach?

Bag Newydd
Den ni’n deall yn iawn... Mae siopa am fag ysgol newydd yn gyffrous. Wedi’r cwbl, dyma un o’r pethau sy’n galluogi chi i hawlio’ch hunaniaeth wrth wisgo gwisg ysgol. Ond, oes wir angen bag newydd arnoch chi? Tybed wneith y bag para cwpwl o fisoedd mwy, er mwyn cael y mwyaf allan ohono?
Os mae’r bag wir ar ei ddyddiau olaf, yna ail-law yw’r opsiwn orau wrth gwrs! Efallai fe ddowch chi o hyd i un handi yn y siop elusen leol ond beth am gynnwys eich ffrindiau yn eich antur i chwilota am fag drwy gyfnewid bagiau? Cynigwch eich bod chi’n mynd draw i dŷ ffrind gyda llond llaw o hen fagiau yr un, taflwch nhw i gyd at ei gilydd a cheisiwch ddod o hyd i un sy’n siwtio chi!

Holwch eich cyngor ysgol
Ewch ymhellach a holwch eich cyngor ysgol a’r llywodraethwyr beth sy’n cael ei wneud i hybu’r disgyblion a’r staff i fod yn unigolion mwy gwyrdd? Tybed oes rhywbeth yn digwydd i wneud yr adeilad yn fwy gwyrdd? Oes gan yr ysgol gynllun ailgylchu gwisg ysgol?
Mae nifer fawr o ysgolion yn gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy sy’n fwy caredig i’r amgylchedd. Ond, mae’n bwysig eich bod chi’n gofyn ac yn cynnig syniadau! Dyma gwpwl o gynigion:

- Mae’r ystafell gelf yn lleoliad perffaith ar gyfer ail-bwrpasu sbwriel. Allwch chi holi’r gegin am botiau plastic ar gyfer storio brwsh paent, sialc neu siarcol.
- Mae sawl arbrawf gwyddoniaeth sy’n gallu cael eu gwneud gyda sbwriel hefyd, fel defnyddio potel blastig i greu llosgfynydd!
- Ewch o amgylch yr ysgol i hel sbwriel sy’n addas ar gyfer eu hail-bwrpasu ac ewch ati i drefnu cystadleuaeth celf sy’n ail-ddefnyddio sbwriel.
- Sôn am gystadleuaeth... Beth am drefnu cystadleuaeth osgoi sbwriel? Y syniad ydi fod yr ystafell ddosbarth sydd â’r biniau sbwriel mwyaf gwag yn ennill! A’r ystafell ddosbarth gyda’r mwyaf o sbwriel? Wel, wnawn ni adael hynny i chi i benderfynu’r gosb!
- Oes yna ddigon o finiau ailgylchu yn eich ysgol chi?
- Oes mannau priodol ar gyfer llenwi poteli dŵr?

Mae’n bwysig, wrth ddioddef o gor-bryder sy’n ymwneud â newid hinsawdd, ein bod ni’n nodi beth allwn ni ei reoli a gweithredu ar y rheini gan gofio fod siarad am ein pryderon yn hynod o bwysig.

Oes gyda chi syniadau ar sut i greu ysgol werdd? Tagiwch @lyshcymru wrth i chi rannu eich syniadau ar-lein!

Iechyd a Lles | Blwyddyn Ysgol Werdd
bottom of page