Iechyd a Lles | "Teimlo'n Fach"
Dyma brofiad merch yn ei hugeiniau sydd eisiau aros yn ddi-enw o ddioddef anhwylder bwyta, yn arbennig i #LyshCymru.
Ar y ffordd adre o fy niwrnod agored cyntaf ym mhrifysgol yn ninas fach yn Lloegr, fe ddechreuodd Mam a Dad drafod y sesiwn a drefnwyd i rieni. Roedd ganddyn nhw benderfyniad i’w gwneud hefyd wrth gwrs, ac roedd y brifysgol yn benderfynol o ennill eu parch. Sesiwn am drawsnewidiad oedd hi, yn paratoi gofalwyr a rhieni ar gyfer yr hyn oedd ar fin digwydd i’w plant nhw. “Roedd 'na fenyw yna,” meddai Mam, “yn sôn am symud i ddinasoedd newydd a sut mae hynny yn rhoi pwysau ar bobl ifanc.” Talais i fawr o sylw. Roedd fy meddwl i ar yr antur nesaf.
Enw’r fenyw oedd Helen ac roedd hi’n gweithio i uned les a chwnsela’r brifysgol. Fe esboniodd hi fod y diwylliant ym Mhrydain yn wahanol i lefydd eraill. Yn Awstralia, meddai hi, mae pobl ifanc yn cofrestru yn y brifysgol leol ac yn aros adre i fyw. Mae’r seiliau cadarn yna, meddai hi, yn gymorth. “Roedd y fenyw yn lyfli,” meddai Dad wrth yrru tua’r gorllewin. “Mae e’n grêt i wybod bod y gwasanaethau yma yn bodoli.” Sold. Roedd Mam a Dad yn hapus. Ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd Helen yn eistedd gyferbyn â fi, gyda blwch o hancesi yn ein dwylo, yn gwylio’r dagrau yn llifo lawr fy mochau. “Does neb yn gwybod fy mod i yma heddiw, Helen.”
I gyrraedd yr adeilad, roedd angen cerdded fyny’r allt, heibio’r llyfrgell ac i lawr y grisiau ger wal y gerddi. Nes i ddim sôn wrth neb fy mod i’n mynd. Amgylchynwyd yr adeilad gan res o goed. Cerddais tuag at y drws a chamu nôl cyn ei agor, yn ofni y byddai pobl yn fy ngweld yn cerdded mewn.
Roedd yr ystafell yn wyn ac yn olau, gyda dwy gadair yn wynebu ei gilydd a bwrdd coffi rhyngddynt. Eisteddodd Helen gyda chlymau o gadwyni arian yn hongian o gwmpas ei gwddf a sbectol yn cuddio o fewn cwmwl o wallt siocled ar ei phen. Roedd ganddi rychau tenau o gwmpas ei llygaid a brychni dros ei thrwyn. Dychmygais ei bod hi wedi treulio ei bywyd yn chwerthin yn yr haul.
Dwi’n cofio'r hyn gwisgais: siwmper du a sgert lliw gwin coch wedi tycio fewn. Roedd fy ngwallt yn hir a fy llygaid yn fawr. O’n i ddim yn edrych yn dost.
Mae’r manylion cadarn yn byw yn fy mhen yn glir; y celfi, y coed, y gwynt yn taflu’r dail o gwmpas yr iard tu fas fel eira ysgafn. Sa i’n cofio’r sgwrs. Sa i’n cofio ateb y cwestiynau. Sa i’n cofio beth ddywedodd Helen.
Ond dw i yn cofio ofni ateb y cwestiwn: pam wyt ti yma?
Doedd gen i ddim rheswm i fod yn dost. Doedd e ddim yn ‘neud sens ar bapur. Roedd mam, dad a fy mrawd yn iachus. Roedd gen i addysg arbennig o fy mlaen, ffrindiau newydd, arian yn fy mhoced a chartref neis yng Nghymru. Ar bapur, roedd bywyd yn dda.
Ond bob nos, o’n i yn gorwedd yn y gwely gyda chorff oer, pen oedd ar dan a bola gwag.
Doedd dim maeth yn fy nghorff. O’n i’n gwthio fy hun i fod yn llai ac yn llai; i fod yn fach mewn bob ffordd bosib. Dyw hi ddim yn ddefnyddiol i ddisgrifio beth o’n i yn gwneud i frifo fy hun. Yn hytrach, wna i ddweud hyn: teimlais yn fach. Roedd byw yn broses drwm. I’r byd, o’n i yn siaradus ac yn hyderus ac yn camu o un profiad i’r llall.
Ond y gwir amdani yw ein bod ni gyd yn dysgu sut i actio yn gynnar iawn yn ein bywydau. Ry’n ni’n holi ‘sut wyt ti?’ ond yn gofyn y cwestiwn nesaf heb aros i wrando ar yr ateb.
O’n i’n rhedeg yn rhy gyflym. Fe ddaeth Helen cyn i fi gwympo.
Fe dreuliais chwe wythnos o fy mywyd yn y coleg yn cerdded i fyny’r allt, heibio’r llyfrgell ac i lawr y grisiau ger wal y gerddi i weld hi. Gyda phob wythnos oedd yn mynd heibio, camais yn agosach at y gwanwyn. Roedd y boreau yn oleuach a’r pwysau o’n i’n cario o gwmpas yn ysgafnach.
Gyda phob sesiwn, fe ddaeth y geiriau yn gliriach yn fy mhen a’r sgyrsiau yn llai mwdlyd. Siaradodd Helen am y gwahaniaeth rhwng ffaith a theimlad. Nath hi ofyn i fi ysgrifennu rhestr o’r pethau oedd yn bwysig i fi a rhestri pam dwi’n haeddu hapusrwydd.
Eisteddais ar garthen mam-gu ar fy ngwely, wedi amgylchynu gan lyfrau, yn ysgrifennu fy rhestr. Fe ddaeth bob dim nol i’r un tri pherson yn fy mywyd: mam, dad a fy mrawd. Roedd rhaid i fi wella ar eu cyfer nhw, meddyliais.
Heb garu fy hun, doedd dim ffordd caru eraill. Gydag ond chwe awr, fe lwyddodd Helen i fy ngosod ar seiliau cadarn unwaith eto. O fanna, fe ddechreuais adeiladu.
Mae hi wedi cymryd mwy na phum mlynedd i fi ysgrifennu’r darn yma. Dyw hi ddim wedi bod yn oleuni i gyd ers i’r sesiynau gyda Helen ddod i ben ond mae gen i’r sgiliau nawr i gydnabod pryd dwi’n ei chael hi’n anodd.
Mae byw yn broses. Mae’n gyfres o atgofion heulog a phrofiadau dirdynnol. Weithiau mae’r darnau yn cwympo mewn i le. Ar ddiwrnodau eraill, mae angen gorffwys dy ben a gobeithio y bydd yfory yn well.
Un peth yw gwybod dy fod yn fwy na dy feddyliau ond peth arall ydy cofio hynny ar ddiwrnod tywyll.
Roedd siarad am fy iechyd meddwl fel camu allan o fy nghorff fy hun. Gyda help Helen, dechreuais feddwl am fy meddyliau fel gwrthrychau tu hwnt i fi fel person; fel darn o farddoniaeth i ddadansoddi a dehongli o bellter. Nid fy meddyliau oedd yn diffinio fi.
Dw i’n teimlo fel drafft o berson nawr ac mae hynny yn iawn. Dwi’n dysgu, dwi’n tyfu, dwi’n newid siâp. Weithiau dwi’n llwyddo ac weithiau dwi’n gwneud camgymeriadau. Mae hynny yn iawn hefyd.
Dw i byth wedi trafod y cyfnod hwnna gyda mam a dad. Dim adlewyrchiad ohonyn nhw yw hynny. Maen nhw wastad wedi bod yn agored am deimladau ond roedd hwn yn frwydr breifat. Dw i wedi ystyried rhannu’r hanes. Dw i wedi ysgrifennu llythyron. Dw i wedi drafftio esboniadau yn fy mhen. Dw i wedi teimlo cywilydd am gadw cyfrinachau. Ond gydag amser, dw i wedi gwerthfawrogi taw nid cyfrinach mo hon.
Cofiaf am y siwrnai nol o’r brifysgol a sut siaradodd y ddau am Helen. Mae hynny yn gysur.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn her i ni gyd yn feddyliol. Y gwir amdani yw does dim angen label i ddioddef. Does dim angen cael diagnosis i gael cyfnod heriol. Mae jyst angen rhywun, fel Helen, i eistedd a gwrando.
Wrth gamu tua’r heulwen drosiadol nawr, dw i’n bwriadu teimlo’r tywod dan fy nhraed, arogli’r blodau, cael yr haul ar fy wyneb a gafael yn nwylo fy nheulu. Dw i am wledda a blasu bob un plat. Ac ar y diwrnodau glawog, fe wnâi gofio fy mod i’n haeddu’r maeth a’r cariad a wnai basio’r anrheg ymlaen. Heb hynny, mae joio byw yn amhosib.
Gair o gyngor
Os hoffech gael cymorth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, rhiant, ffrind neu athrawes. Neu opsiwn arall yw chwilio am gyngor ar-lein. Ewch i:
Meic Cymru - https://www.meiccymru.org/cym/iechyd-meddwl-sut-gael-help neu Rhadffôn 080880 23456
Beat - www.beateatingdisorders.org.uk
Mae yna hefyd gyngor da ar gael yn Gymraeg ar wefan Meddwl.org - https://meddwl.org/cyflyrau/anhwylderau-bwyta/