top of page

Hwyl a Hamdden | Stwff Ma Hogia ‘Di Ddweud Wrtha Fi

Hwyl a Hamdden | Stwff Ma Hogia ‘Di Ddweud Wrtha Fi

Sgwrs gyda Llio Elain Maddocks am ei phamffled o Instagerddi...

1. Rwyt ti wedi bod yn cyfansoddi Instagerddi ers tro, beth wnaeth dy ysgogi i’w casglu mewn pamffled?

Er mai Instagram ydi fy mhrif gyfrwng i, dwi hefyd wrth fy modd yn gafael mewn cyfrol o gerddi. Dwi’n licio eu casglu ar silff, a gallu mynd atyn nhw bryd bynnag fyddai isio. Felly roedd creu cyfrol o gerddi ar bapur yn syniad atyniadol erioed.

Ges i sgwrs efo Iestyn Tyne o gyhoeddiadau Y Stamp ac maen nhw’n griw mor wych ac yn creu gwaith anhygoel, felly pan nath o holi os o’n i ffansi cyhoeddi cyfrol efo nhw, do’n i methu deud na! A dwi mor falch mod i wedi, mae’r pamffled wedi cael ymateb hollol hyfryd gan bawb, ac mae’r broses greu wedi bod yn hynod ddiddorol hefyd. Yn rhyfedd iawn, mae creu instagerdd a chreu cerdd ar gyfer ei hargraffu yn broses gwbl wahanol i mi, felly roedd rhaid i mi ffeindio rhywle yn y canol i greu instagerddi i’w hargraffu! Roedd cael artist i greu'r darluniau yn cŵl hefyd, mae wedi bod mor neis gweithio efo Erin Thomas (@eerinart) i weld sut mae hi’n diffinio ac yn darllen y cerddi, ac mae hi wedi gwneud job anhygoel efo’r gwaith celf!

2. Ydi’r cerddi wedi’i selio ar dy brofiad di, profiad pobl ti’n eu ‘nabod, straeon ti wedi clywed yntau cyfuniad o’r tri? Ai dyma oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer pwnc y pamffled?

Cyfuniad o’r tri sŵn i’n deud. Enw’r pamffled ydi ‘Stwff Ma Hogia ‘Di Ddeud Wrtha Fi’, ac felly mae pob cerdd o fewn y pamffled yn ymateb i rywbeth go iawn mae bachgen neu ddyn wedi ei ddweud. Mae nifer o’r rhain yn bethau dwi wedi eu clywed yn bersonol, ond mae rhai wedi codi o sgyrsiau efo ffrindiau. Dwi hefyd wedi cael ambell i DM ar Instagram gan ferched eraill yn dweud dylwn i sgwennu cerdd am rywbeth mae bachgen wedi ei ddweud wrthyn nhw!

Dwi wedi bod wrth fy modd yn sgwennu’r gyfres yma. Rŵan, pan mae dyn yn deud rwbath gwrth-ffeminist neu secsist wrtha i, dwi’n deud wrtho fo, ‘Dwi’n mynd i sgwennu cerdd am hynna,’ ac yn chwerthin arno fo yn lle aros yn dawel neu mynd yn flin. Dwi’n eitha joio weindio nhw i fyny, a gwneud iddyn nhw edrych yn wirion drwy gyfrwng barddoniaeth.

3. Pam wyt ti’n meddwl bod codi’r pwnc yma yn bwysig i ferched ifanc?

Dwi’n meddwl bod merched wastad yn siarad am y pethau ‘ma, yn rhannu'r cwestiynau dibwynt ‘da ni’n gorfod eu hateb o hyd, a’r ystrydebau rhwystredig sy’n ein hwynebu ni. Ac felly roedd o’n gwbl naturiol i mi drio crisialu'r sgyrsiau yma mewn cerddi, er mwyn eu rhannu mewn ffordd bitesize a catchy fel bod nhw’n cael eu rhannu ymhellach a bod y sgyrsiau yma yn parhau.

Dyna ydi barddoniaeth, i mi. Mae cerddi’n cyflwyno profiadau cyfarwydd mewn ffordd newydd, neu anghyfarwydd, neu’n ei eirio mewn ffordd berthnasol neu gofiadwy. Mae instagerddi yn enwedig angen bod yn berthnasol ac yn fyr a chryno, felly dwi’n gobeithio eu bod nhw’n help i ferched eraill sylwi a rhoi chwyddwydr ar y pynciau hefyd.

4. Oes un o’r cerddi’n sefyll allan fel un o dy ffefrynnau a pham?

Dwi’n meddwl mai fy hoff gerdd erioed ydi’r un nes i sgwennu ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched nol yn 2020, sef ‘Merched yn Toilets Clwb Ifor’. Gath hon ymateb anhygoel ar Instagram, a dwi dal wrth fy modd efo hi.

Dwi’n meddwl bod ymddygiad merched mewn toiledau cyhoeddus mor ddiddorol. Gei di nunlla mwy cefnogol, mae o fatha cael cheerleaders personol i hypio chdi fyny, neu berswadio chdi i beidio gneud rwbath gwirion fel tecstio dy ex. Mae’r gerdd yma fel time capsule bach rŵan hefyd achos nes i sgwennu hi jest cyn y cyfnod clo cyntaf, ac wedyn treulio blwyddyn a hanner heb allu mynd i Clwb Ifor, nac unrhyw glwb arall! Dwi’n hiraethu am y gymuned yna o ferched dieithr mewn toiledau. Ma genod jest yn class dydi, rili.

5. Rwyt ti wedi cyfansoddi cerddi Stwff Ma Genod yn Ddeud erbyn hyn - a fydd pamffled ar gyfer y cerddi yma hefyd?

Cwestiwn diddorol! Nes i ddechrau sgwennu rhein ar ôl llofruddiaeth Sarah Everard. Gafodd yr achos yma effaith arnom ni i gyd dwi’n meddwl, yndo. Nes i dorri nghalon yn gweld yr holl ferched yn cael eu llusgo o’r wylnos mewn ffordd mor amharchus a threisgar, tra roedd pawb yn trio delio efo’r trawma mawr ‘ma. Nath o neud fi mor flin. Ac odd yr holl ferched yma ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhannu eu tips am sut i aros yn saff, a’r pethau maen nhw’n gorfod ei ddweud wrth ddynion er mwyn cael llonydd. Ro’n i isio archwilio'r pethau ma, y côd cyfrinachol sydd gan ferched efo’i gilydd, a thynnu sylw atyn nhw, i ddangos solidariaeth ond hefyd gan obeithio y byddai dynion yn eu darllen nhw ac yn meddwl am eu hymddygiad.

O’n i hefyd isio tynnu’r sylw oddi ar ddynion yn fy ngherddi i, a rhoi’r sylw a'r ffocws i ferched. O’n i mor flin, ddim jest efo dynion sy’n ymddwyn yn dreisgar, ond efo’r dynion hynny sy’n sefyll ar y cyrion ac yn dweud dim. Dydyn nhw ddim yn haeddu fy sylw a fy ymdrech i.

Dwi’m yn gallu newid y byd, ond mae pawb yn gallu gwneud pethau bach. Be dwi’n gallu g’neud ydi sgwennu cerddi a thrio creu cymuned saff lle mae pobl yn gallu rhannu eu profiadau, a gweld eu hunain yn y cerddi gobeithio. Ac os oes ‘na un dyn yn meddwl eilwaith am ei eiriau neu ei ymddygiad ar ôl darllen cerdd gen i, yna fyddai’n hapus.

Dwi’m yn siŵr os nai sgwennu pamffled o’r rhain - falle fyddai hynny’n broses rhy dorcalonnus. Ond dwi’n sicr am ddal i’w sgwennu a’u rhannu nhw.

6. Beth ydi’r peth gorau am Instagerddi i chdi?

Dwi’n licio pa mor gyflym ydi’r broses. Fel arfer, nai sgwennu, teipio a chyhoeddi'r gerdd mewn llai na hanner awr. Ma hyn yn golygu mod i’n gallu ymateb i bethau amserol, straeon, newyddion a ballu, ond mae o hefyd yn rhan bwysig o fy mhroses greadigol i. Dwi’n licio bod instagerddi yn cynrychioli ennyd o fywyd rhywun, cipddarlun o’u hymennydd nhw. Dydi fy instagerddi i ddim wedi stiwio, na’u mireinio nes eu bod nhw’n berffaith. Maen nhw’n llawn gwallau a chamgymeriadau, a pan dwi’n edrych nôl ar rai ohonyn nhw dwi’n ysu am gael newid y strwythur neu’r odl, ond mae hi’n rhy hwyr. A duw, does dim bwys chwaith. Maen nhw’n rhan ohona i, ac maen nhw’n hwyl i’w creu. A deud y gwir, maen nhw’n adlewyrchu fy mywyd i. Llawn gwallau a chamgymeriadau oedd yn lot o hwyl ar y pryd.

7. I ferched ifanc sydd eisiau bod yn feirdd, pa gyngor bysa ti’n ei roi?

Rhanna dy waith. Hyd yn oed os ydi o’n achosi cywilydd neu os wyt ti’n nerfus, jest dechreua rhannu cerddi, neu ambell i linell. Nei di ddysgu be sy’n gweithio a be sydd ddim, ac mae’n rhoi cyfle i ti arbrofi a chwarae.

Tria ffeindio dy lais, neu dy frand. Gwna rywbeth sydd am wneud i chdi sefyll allan, ac sy’n dy wneud di’n unigryw. Falle neith o gymryd sbel i’w ffeindio, a ma hynna’n oce - tan hynny, jest caria mlaen i arbrofi!

Ffeindia dy ysbrydoliaeth. Boed hynny’n gerddi pobl eraill, ffilms, rhaglenni teledu, caneuon, natur, dy gath. Mae ‘na rywbeth sy’n ysbrydoli pawb. Gwna y mwyaf ohono.

O, a stopia edrych ar dy ffôn, ma jest yn wast o amsar.

Hwyl a Hamdden | Stwff Ma Hogia ‘Di Ddweud Wrtha Fi
bottom of page