top of page

Hwyl a Hamdden | Mai Mynd am Dro

Hwyl a Hamdden | Mai Mynd am Dro

gydag Anna Wyn

Wrth i ni baratoi at groesawu tywydd braf yr haf, amserol iawn yw mis cenedlaethol mynd am dro! Gyda’r llwyni’n brysur o fywyd natur a golygfeydd hyfryd o’n cwmpas, mae digonedd i’ch diddanu wrth i chi droedio’r fro.

Mae cyfrif Instagram Anna Wyn o Lanrug yn llawn o’r lluniau mwyaf gorjys o’n gwlad ni a thu hwnt wrth iddi ddogfennu ei theithiau ar droed. Ond tybed lle yw ei hoff lefydd i fynd am dro?

“O stepan drws, dwi’n licio mynd i ben Llyn Padarn. Mae o tua milltir o fy nhŷ i. Dwi’n gallu cerdded yna, gweld yr olygfa a cherdded adra. Weithio dwi’n dreifio yna a cherdded i rywle arall o fanna. Mae o’n dro bach hawdd a sydyn, rhywle i fynd ar ôl gwaith,” eglura Anna, cyn son am ei hanturiaethau tu hwnt i’w milltir sgwâr. “Pan on i’n fengach on i’n licio mynd i Raeadr Abergwyngregyn a dwi’n licio mynd o hyd achos ti’n gallu cerdded yna a gweld golygfa fawr ar y diwedd. Dwi’n trio mynd i lefydd gwahanol o hyd, fel Sir Fôn, Pen Llŷn, Betws y Coed, Llanrwst...”

Er i Anna gwyrdro ei chynefin yn dwll, mae hi’n hoff o fentro yn bellach hefyd a newydd ddychwelyd o daith i Dwrci. Mae yna luniau anhygoel ar ei chyfrif Instagram, yn bennaf y lluniau o’r hot air balloons.

“Cefais i fynd mewn hot air balloon!” mae Anna yn brolio. “Dyna ydi atyniad Cappadocia. Mae yna tua chant a hanner hot air balloons yn mynd i fyny bob bora i weld toriad y wawr bob bora o’r flwyddyn... os mae’r tywydd yn iawn! Roeddwn ni’n lwcus, achos tuag wythnos cyn i ni fynd oedd y tywydd wedi bod yn wael. Roedd yna eira a glaw mawr! Roeddwn ni’n lwcus ein bod ni wedi gallu mynd i fyny! Roedd o’n bucket list moment go iawn. Wnes i brynu charm i roi ar fy mreichled tra oeddwn i yna, mewn siap hot air balloon fel rhywbeth bach i gofio’r profiad!”

Felly beth sy’n ysgogi Anna i fynd allan a mwynhau'r awyr iach yng Nghymru fach?

“Mae Mam wastad yn deud, ‘Reit, ‘dan ni angen mynd am dro! Tyrd, awn ni allan o’r tŷ ar ôl gwaith...’ Mae Mam yn un dda!” meddai Anna. “Dwi’n licio mynd am dro, achos os dwi wedi bod am dro wna i gario ymlaen i wneud pethau bach fel dystio, gwneud gwaith tŷ... Os dwi’n gorffen gwaith ac yn eistedd i lawr, dwi’n dechrau scrollio ar fy ffôn a dwi ddim yn teimlo fel neud dim byd wedyn. Ond os dwi’n mynd am dro, dwi’n deffro dipyn bach wedyn ac efo dipyn bach mwy o egni. Os dwi’n mynd am dro gyntaf dwi on a roll, ella wna i neud swpar, clirio llofft, neud rhywbeth sydd wedi bod ar fy to-do list...” meddai Anna.

Er ei bod hi’n ffan fawr o fynd am dro, mae Anna yn cyfaddef ei bod hi ddim wastad eisiau mynd am dro!

“Weithiau, dwi yn stryglo mynd allan am dro... Dwi yn joio mynd am dro a dwi’n joio y munud dwi allan ond weithiau pan dwi’n dod adra ar ôl gwaith dwi jest eisiau eistedd i lawr efo panad... Ond y munud dwi allan dwi mor falch ‘mod i wedi mynd!”

Pan mae Anna yn mentro mynd am dro, mae hi’n hoff o fynd â rhywbeth efo hi. “Dwi’n licio mynd â phanad a bisged,” meddai. “Ti’n neud fwy o beth ohona fo wedyn, mae o’n fwy ‘na mynd am dro er mwyn cael allan o’r tŷ.”

Yn ogystal â phanad, mae Anna yn rhoi esgidiau call am ei thraed! “Gwisga trainers dwyt ti ddim yn meindio cael dipyn bach yn fwdlyd. Dwi wedi cael fy nal allan cyn heddiw yn mynd i rywle a ddim rili wedi ystyried fod y llwybr yn gallu mynd yn fwdlyd... Paid â mynd a trainers newydd sbon efo chdi!”

Mae llawer o fanteision i fynd am dro, er enghraifft gwella ffitrwydd, gwella ein hiechyd meddwl a hefyd mae dewis cerdded yn hytrach na gyrru’r car o fantais i’r amgylchedd. Ond, y fantais fwyaf gwerthfawr, heb os, ydi creu atgofion oes. Rhannodd Anna atgof arbennig o’r cyfnod clo cyntaf:

“Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, roedd hi’n rili braf. Oeddwn i eisiau mynd i weld yr haul yn machlud ac oedd fy mrawd adra efo ni. Felly dyma’r pedwar ohona ni (fi, Mam, Dad a fy mrawd) yn penderfynu mynd i dop y lôn ac am dro i weld yr haul yn machlud. Oedd o’n noson rili neis! Dwi ddim yn meddwl ein bod ni erioed wedi gwneud hynny o’r blaen, ac oedd o jest yn rhywbeth i neud achos o’r cyfnod clo. Mae gen i lot o luniau neud o’r noson sbeshal yna.”

Lle fyddwch chi’n mynd am dro? Rhannwch eich lluniau a cofiwch tagio @lyshcymru!

Hwyl a Hamdden | Mai Mynd am Dro
bottom of page