top of page

Hwyl a Hamdden | Lodes Lysh: Erin Sy’n Serennu

Hwyl a Hamdden | Lodes Lysh: Erin Sy’n Serennu

Er ein bod wedi hen ffarwelio gydag Eisteddfod yr Urdd eleni, mae’r prif gystadlaethau wedi denu criw creadigol a thalentog newydd i’r lan ym myd llenyddiaeth Cymru. Un hynod ddawnus sydd wedi dod i’r amlwg ydi Erin Hughes a gyrhaeddodd y tri uchaf yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama a hithau’n newydd iawn i fyd y dramâu.

Enillodd Elin y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed nôl yn 2018. Gwnaeth salwch ei rhwystro rhag derbyn ei chlod yn draddodiadol yn y cnawd, ac er iddi dderbyn cefnogaeth a dathliadau gan yr Urdd, cafodd Cymru gyfle i’w llongyfarch yn wresog ar faes yr Eisteddfod bedair blynedd yn ddiweddarach wrth iddi gyrraedd tri uchaf yn y Fedal Ddrama.

Manteisiodd Lysh Cymru ar y cyfle i holi Erin am ei phrofiadau o gystadlu, ei gwaith a’i hysbrydoliaeth...

Sut deimlad ydi o i gyrraedd y tri uchaf mewn un o brif gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd?

Mae 'braint' yn air sy'n cael ei ddefnyddio'n aml iawn yn y cyd-destun yma, ond alla i ddim peidio â theimlo'n freintiedig iawn. Dyma'r tro cyntaf i mi droi fy llaw at y ddrama, ac er mai monolog ddaru mi ei sgwennu, ro'n i'n teimlo bod y cyfrwng yn dra gwahanol i'r rhyddiaith dwi wedi arfer ag o. Roedd gallu arbrofi fel hyn, yn ei hun, yn deimlad braf, ac roedd derbyn cydnabyddiaeth am y gwaith jest yn coroni'r holl beth. Wrth symud ymlaen, dwi'n meddwl wna i arbrofi mwy efo ceisio dal deialog yn hytrach na sgwennu perfformiad un person. Mae 'na gymaint o bosibiliadau, a dyna sy'n cadw'r maes mor ffres a hyfyw.

Wyt ti’n falch o dderbyn dy glod yn iawn am dy fuddugoliaeth nôl yn 2018?

Mi wna i ddweud yn onest mod i'n fwy na bodlon ar y gydnabyddiaeth ges i yn ôl yn 2018. Er na ches i fy anrhydeddu'n iawn ar y diwrnod, roedd maint y gefnogaeth a dderbyniais i yn gwbl anhygoel, dwi'n parhau i deimlo ryw gynhesrwydd tu mewn i mi wrth feddwl am yr adeg honno. A dwi'n meddwl mai dyna'r peth pwysicaf dwi eisiau ei bwysleisio - er mor wael ro'n i yn 2018, roedd y cyntaf o Fehefin yn ddiwrnod o lawenydd hollol. Felly wrth gwrs, dwi'n credu bod yr Urdd wedi bod yn gynhwysol a charedig tu hwnt yn fy anrhydeddu eleni, ond mi wnaethon nhw ddangos yr un rhinweddau yn ôl yn 2018. Mi wnaethon nhw wneud i ferch wael deimlo'n arbennig iawn, iawn, a does gen i ddim byd ond atgofion bendigedig o edrych yn ôl ar Seremoni'r Goron, 2018.

Wnes di son ar y llwyfan eleni dy fod methu darllen llyfr heb bensil yn dy law i wneud nodiadau! Oes gen ti arferion tebyg pan wyt ti’n ysgrifennu hefyd?

Ar hyn o bryd, dwi'n eithriadol o chwit-chwat efo fy sgwennu, felly dwi ddim yn meddwl bod hawl gen i i drafod arferion arbennig. Ond wedi dweud hyn, am flynyddoedd, ro'n i'n cadw cofnod o bob dyfyniad hyfryd ro'n i'n ei ddarllen neu'n ei glywed, bob gair newydd a diddorol. Achos fel hyn mae sgwennwyr yn datblygu. Mae'n rhaid bod yn gwbl effro i'r holl ddylanwadau o'ch cwmpas.

Pan wyt ti’n ysgrifennu, beth sy’n dy ysbrydoli di?

Dwi'n dwyn ysbrydoliaeth o bob man, o bob dim. Mae 'na lyfrau a phodlediadau a chaneuon a ffilmiau a chymeriadau a sgyrsiau a chymaint, cymaint mwy sy'n dylanwadu ar beth dwi'n ei sgwennu. Ac os fydda i fyth yn teimlo fy hun yn rhygnu mlaen efo ryw stori neu'i gilydd, mi af am dro hir, hir - dyma'r peth sydd wastad yn ddibynadwy pan fydda i'n teimlo'n styc a ddim yn gwybod pa drywydd i'w ddilyn nesaf.

Beth yw dy hoff lyfr Cymraeg di?

EH: Mae gen i ddau, ac alla i ddim meddwl enwi un heb enwi'r llall hefyd. Yn Hon Bu Afon Unwaith gan Aled Jones Williams, a Rhwng Noson Wen a Phlygain gan Sonia Edwards. Dau lyfr sy'n llwyddo i lonni a thorri fy nghalon i'r un pryd.

Pwy ydi dy hoff ddramodydd di?

EH: Wna i ddim honni mod i wedi bod ym myd y ddrama yn ddigon hir i allu dewis hoff ddramodydd. Rhyddiaith, fel rheol, ydi fy mhethau i. Mae gen i feddwl mawr iawn o waith Aled Jones Williams, ac mae gwaith Sonia Edwards yn gwbl, gwbl hyfryd. Mae Manon Rhys yn chwip o awdur, ac Angharad Tomos efo hi. Mae Steve Eaves a Cowbois Rhos wedi dylanwadu'n fawr arna i hefyd, yn ogystal â'r athrylith, Sbardun.

Be fysa dy gyngor di i rywun sy’n meddwl am gystadlu yn un o’r prif gystadlaethau am y tro cyntaf?

EH: Amdani. Peidiwch byth, byth a chwestiynu a ydych chi'n ddigon da i gystadlu, er mor naturiol ydi hynny. Dwi'n grediniol bod yna allu tu mewn i bob un ohonom i adrodd stori, a'i hadrodd hi'n dda. Peidiwch â gadael i'r diawl bach mewnol eich dal chi'n ôl rhag y posibilrwydd o dderbyn beirniadaeth adeiladol, a bod eich gwaith yn cael gweld golau dydd.

Hwyl a Hamdden | Lodes Lysh: Erin Sy’n Serennu
bottom of page