top of page

Hwyl a Hamdden | Lodes Lysh: Efa Lois

Hwyl a Hamdden | Lodes Lysh: Efa Lois

Mae Efa Lois, yr arlunydd ifanc, wrth ei bodd gyda chreadigrwydd o bob math. Mae hi hefyd yn credu’n gryf bod angen annog positifrwydd. Dyma ddysgu rhagor am y lodes Lysh yma...

Beth yw dy enw di?
Efa Lois

Oedran:
24

Ble wyt ti’n byw?
Dwi rhwng llefydd ar hyn o bryd, ond dwi newydd raddio o brifysgol Lerpwl.

Wyt ti wastad wedi bod yn greadigol?
Dwi ‘di bod yn arlunio, ac yn hoff iawn o arlunio, ers fy mod yn ifanc. Treuliais flynyddoedd o fy mhlentyndod yn siŵr mai dylunydd ffasiwn oedden i am fod pan oedden i’n hŷn, ac mi fydden i’n llenwi ffolderi â phapurau o fy ‘nyluniadau’, ond bellach pensaernïaeth a chelf yw fy mhrif ffocysau creadigol (er bod fy narluniau wedi ymddangos ar grysau-T erbyn hyn!)

Pwy/Beth sy’n dy ysbrydoli di?
Dwi’n darllen tipyn o hen chwedlau, ac am hanes, felly mae hynna’n elfen o fy ngwaith, ond o ran edrychiad fy ngwaith dwi’n cael fy ysbrydoli’n fawr gan Tove Jansson, Kay Nielsen a llyfrau plant a chloriau recordiau o’r 60au a’r 70au. Dwi’n cael fy ysbrydoli’n fawr gan ddillad a nwyddau vintage hefyd – mae gen i sawl ffrog o’r 70au a dwi’n dwlu arnyn nhw!

O ble wyt ti’n cael y dillad vintage yma?
Cyfuniad o lefydd rili. Pan oedden i’n byw yn Lerpwl roedd yna sawl Oxfam oedd yn wefreiddiol ar gyfer dillad vintage. Fel arall dwi’n dwlu ar siopau vintage – mae sawl un yng Nghymru fel Cant a Mil Vintage yng Nghaerdydd a Coastal Vintage yn Aberystwyth sydd yn cynnig dillad cŵl iawn am bris rhesymol.

Mae tipyn o dy waith yn ymwneud â negeseuon positif. Pa mor bwysig yw hi i drosglwyddo negeseuon positif i ferched heddiw?
Dwi’n credu ei fod e’n hynod bwysig! Dwi’n credu ein bod ni oll angen cael ein hatgoffa weithiau – er popeth rwyt ti’n ei glywed gan bobl eraill, y cyfryngau, dy atgofion a’r hysbysebu rwyt ti’n ei wynebu bob dydd, rwyt ti’n gryf ac yn wych, a rwyt ti’n ddigon. Does dim angen i ti newid i blesio unrhyw un – rwyt ti’n haeddu’r rhyddid i fod yn ti dy hun.

Beth sydd gen ti ar y gweill?
Dwi wrthi yn arlunio gwrachod Cymru yn ystod mis Hydref – gallwch eu gweld draw ar fy nhudalen Instagram. Mae gen i gwpl o brosiectau eraill fydd yn cael eu rhyddhau dros y misoedd nesaf (gobeithio!), ac mae gen i bodlediad ar y gorwel. Dwi hefyd yn gobeithio rhyddhau mwy o brintiau i’r siop Etsy cyn bo hir!

Gwefan: efalois.cymru
Instagram: @efalois
Siop: https://www.etsy.com/uk/shop/Rhithganfyddiad
Trydar: @efalois

Hwyl a Hamdden | Lodes Lysh: Efa Lois
bottom of page