Hwyl a Hamdden | Llyfrau Lliwgar
Mae darllen stori dda yn gallu eich tywys chi i fannau arallfydol. Mae stori dda yn gallu eich cysuro, gwneud i chi grio a chwerthin, a hynny weithiau mewn un dudalen!
Ond, be sy’n well na darllen ydi rhannu’r profiad gyda ffrindiau. Mae Llyfrau Lliwgar yn glwb llyfrau LHDTC+ ac maen nhw’n cyfarfod yn aml ym Mhontio, Bangor. Yno, byddant yn trafod bob math o lyfrau, y dwys a’r digri, a hynny mewn cwmni clos a chefnogol o gyd-ddarllenwyr brwd.
Er mwyn darganfod mwy am drafodaethau’r clwb, holodd Lysh Cymru sylfaenwr Llyfrau Lliwgar, sef Gareth Evans-Jones, ac eglurodd sut mae’r grŵp yn dysgu gyda’i gilydd a sut mae’r grŵp wedi dod yn ffrindiau da.
Beth yw eich hoff lyfr sydd wedi cael ei drafod yn y clwb lyfrau?
Dyna goblyn o gwestiwn anodd gan ein bod wedi trafod bob math o lyfrau, o’r ysgafn i’r dwys, a phob man yn y canol! Ond dwi’n meddwl i hunangofiant John Sam Jones, The Journey is Home, wneud argraff arbennig arna i. Mae hi’n gyfrol mor onest ac yn gofnod pwysig o driniaeth cymdeithas o bobl hoyw. Mi wnes i hefyd wir fwynhau Oranges Are Not The Only Fruit gan Jeanette Winterson. Dyna gyfrol onest arall a thrawiadol iawn, sy’n archwilio rhywioldeb yng nghyd-destun cymdeithas a chrefydd. Ond a dweud y gwir, mae pob un o’r llyfrau wedi bod yn ddiddorol ac wedi sbarduno trafodaeth!
Pa mor bwysig ydi o wyt ti’n meddwl fod storïau LHDTC+ yn cael eu hadrodd mewn llyfrau cyfoes, yn enwedig llyfrau Cymraeg cyfoes?
Mae’n hollbwysig fod straeon LHDTC+ yn cael eu hadrodd mewn llyfrau cyfoes, ac yn bendant, mewn llyfrau Cymraeg. Mewn difri, mae yna brinder llyfrau LHDTC+ Cymraeg, ond braf ydi gweld bod yna lenorion yn mynd i’r afael â hynny. Er enghraifft, braf iawn oedd gweld Ciaran Eynon yn cipio Cadair Eisteddfod yr Urdd eleni gyda cherdd yn trafod rhywioldeb a’r Gymraeg. Dyma’n rhannol hefyd pam ein bod wedi sefydlu rhwydwaith llenorion LHDTC+ Cymraeg - ac mae croeso i awduron o bob math a phrofiad ymuno â’r criw!
Wyt ti’n meddwl y dylai llyfrau sy’n adrodd storïau LHDTC+ cael eu cynnwys mewn cwricwlwm ysgolion fel llyfrau testun TGAU?
Ydw, dwi’n meddwl fod ’na le i gynnwys llenyddiaeth LHDTC+ yng nghwricwlwm ysgolion, boed fel testunau craidd neu destunau cysylltiol. Rydan ni’n byw mewn oes lle mae yna fwy o ymwybyddiaeth o bobl LHDTC+, er bod ’na gryn dipyn o ffordd i fynd eto cyn bod ’na gynwysoldeb cyffredinol, felly dwi’n teimlo bod angen cynnwys llyfrau o’r fath. Er enghraifft, gwych o beth oedd gweld dwy gyfrol a gyfieithwyd gan Elin Haf Gruffydd Jones sy’n cynnwys dwy fam mewn un a dau dad yn y llall yn cael eu cyhoeddi eleni. Y gobaith ydi y bydd y cyfrolau hynny’n cyrraedd ysgolion ar hyd a lled Cymru ac yn normaleiddio perthnasau hoyw, yn yr achos hynny. Byddai mwy o lyfrau yn trafod amrediad gwahanol o themâu yn gysylltiedig â gwahanol bobl yn y gymuned LHDTC+ yn gyffredinol yn fanteisiol iawn.
Beth yw sylwadau’r rhai sy’n mynychu’r clwb lyfrau am y clwb? Pa werth wyt ti’n meddwl maen nhw’n cael o fynychu clwb lyfrau?
Dwi’n gobeithio bod yr aelodau’n mwynhau dod i’r clwb! Mae ’na griw selog sydd wedi bod yno o’r dechrau, ond mae ’na aelodau newydd yn gyson ymuno, a dyna rywbeth rydan ni’n teimlo’n gryf yn ei gylch, sef bod croeso mawr i bawb ymuno unrhyw dro. Mae’n gyfle i ni drafod llenyddiaeth LHDTC+, math o lenyddiaeth sydd, tan yn ddiweddar iawn, heb gael ei drafod yn ddigonol nac yn eang. Mae’n gyfle i glywed barn a safbwyntiau pobl wahanol a dysgu gan ein gilydd. Yn ogystal, dwi’n teimlo ei fod yn gyfle da iawn i gymdeithasu a chwrdd â phobl o wahanol gefndiroedd, profiadau, oedran, ac ati. Yn bendant, dwi wedi ennill nifer o ffrindiau ella na fuaswn wedi eu cyfarfod oni bai am y clwb, ac mae sawl un arall wedi dweud hynny hefyd.
Ti sy’n arwain y sgwrs yn ystod y sesiynau... Sut brofiad ydi hynny?
Ia, fi sy’n dechrau’r sgwrs, sy’n brofiad difyr iawn. Mi fydda i’n dechrau gydag ambell gwestiwn a buan fydd y drafodaeth yn tyfu ac yn bywiocau ohoni ei hun. Mae’n wych fod yr aelodau i gyd yn fodlon rhannu eu barn, gwrando ar safbwyntiau ei gilydd,dadlau’n ysgafn ambell dro, a chreu trafodaeth hynod ysgogol.
Pam fod darllen yn gyffredinol o les?
Mae darllen yn gyffredinol o les eithriadol. Mae llyfrau’n gallu codi drych i’r byd rydan ni’n byw ynddo a thrwy weld cymeriadau’n profi straeon sy’n debyg i ni mewn rhyw ffordd, mae modd deall ein sefyllfaoedd yn llawnach. Mae’r gallu i uniaethu â chymeriadau llenyddol yn brofiad eithriadol, ac yn fodd o gyfoethogi bydolwg rhywun. Yn wir, mae darllen yn medru bod yn therapi, ac felly, mae’n rhywbeth y dylem ni gyd ei werthfawrogi a’i hyrwyddo’n eang.
Mae sesiynau Llyfrau Lliwgar yn cael eu cynnal ym Mhontio, Bangor. Ewch draw i’w tudalennau cymdeithasol i ddarganfod y dyddiadau!