top of page

Hwyl a Hamdden | Llond Gwlad o Wyliau

Hwyl a Hamdden | Llond Gwlad o Wyliau

Eleni, mae sŵn cerddoriaeth yn rhuo dros ein bryniau unwaith eto a does dim rhaid i deithio’n bell i fwynhau miwsig Cymraeg, gyda gŵyl ar stepen ddrws y genedl gyfan.

Gyda sawl un wedi ei chynnal yn rhithiol dros y cwpwl o flynyddoedd diwethaf, mae’r newyddion o ddychweliad yr hen wyliau yn ogystal â rhai newydd yn newyddion i’w ddathlu ac er bod sawl gŵyl wedi ei chynnal yn barod eleni, mae dal digonedd o’r haf ar ôl i fwynhau a bopian.

Ymfalchïwn yn yr holl wyliau bendigedig... ond mae’n anodd weithiau gwybod beth sy’n digwydd a phryd! Mae Lysh Cymru wedi bod wrthi’n casglu llond llaw o’r digwyddiadau fyddwch chi ddim eisiau colli!

Eisteddfod Llangollen, 7fed-10fed o Orffennaf
Dywed rhai bod rhaid i chi fynychu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o leiaf unwaith yn eich bywyd. Maen nhw hefyd yn dweud os fyddwch chi’n mynychu, fyddwch chi’n siŵr o fod eisiau dychwelyd!
Mae’r ŵyl yma yn un byd enwog, wrth i bentref bach Llangollen groesawu’r byd cyfan i’w bro. Wrth droedio’r maes, cewch flas ar ddiwylliant sawl gwlad a bydd y gwisgoedd a’r lliwiau yn siŵr o godi gwên.
Eleni, mae’r ŵyl yn dathlu 75 mlynedd o uno diwylliannau ac mae Llanfest 2022 yn cael ei chynnal ar y dydd Sul, y 10fed o Orffennaf. Ar y diwrnod, cewch glywed artistiaid fel Kizzy Crawford a Band Pres Llareggub.

Gŵyl Canol Dre, 9fed o Orffennaf
Draw yng Nghaerfyrddin, cynhelir Gŵyl Canol Dre a does dim cyfle i ddiflasu yn yr ŵyl yma. Gyda sawl ardal wahanol, gan gynnwys Pabell y Cwrwgl, Ardal Chwaraeon a Lolfa Lên, mae rhywbeth at ddant pawb o bob oedran.
Yn serennu ar lwyfan yr ŵyl mae artistiaid fel Candelas ac Al Lewis, heb anghofio Mari Mathias. Cewch fwynhau’r gerddoriaeth a’r gweithgareddau hyn i gyd am ddim!

Sesiwn Fawr Dolgellau, 15-17 o Orffennaf
Os fyddwch chi ond yn mynychu un ŵyl eleni, hon ydi’r boi. Mae fel petai bob un artist cyfoes yn chwarae yno eleni, felly peidiwch â methu allan!
Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yn 1992 ac er iddi fynd trwy gwpwl o flynyddoedd heriol dros y blynyddoedd, mae Sesiwn Fawr 2022 yn rhagweld i fod yn yr un orau erioed gyda’r lein yp yn un maith! Gan groesi bysedd am dywydd digwmwl, cewch glywed merched arbennig gan gynnwys Mali Haf, Beth Celyn a Casi Wyn.

Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022, 2il-6ed o Awst
Dyma ŵyl arall i ychwanegu i’ch rhestr ‘Bucket List Gŵyliau Cymraeg’. Ar y llwyfan eleni mae Adwaith, Chroma a llawer, llawer mwy.
Ar wefan Maes B, cewch weld pwy sy’n chwarae dros y pedair noson ar ba lwyfan... Ydych chi wedi gweld Llwyfan 1 ar y nos Wener?! Eden, Tara Bandito, Eädyth a Mali Haf... Llwyfan y flwyddyn, os nad y degawd!
Os na fyddwch chi’n gallu mynychu eleni, mae dal modd i chi fod yno mewn enaid gyda playlist arbennig o’r enw “Maes B 2022”. Ewch i wrando!

Gŵyl y Dyn Gwyrdd, 18fed-21ain o Awst
Pen-blwydd hapus Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn 20 oed! Mae hon eto yn ŵyl sydd wedi gwneud ei hun yn gartrefol yng Nghalendr Cerddoriaeth Cymru ac yno’n serennu mae Adwaith a Cerys Hafana.
Er, dydi’r ŵyl ddim yn fiwsig yn unig! Cewch fwynhau gweithgareddau celf a chrefft amrywiol yn ogystal â sioeau syrcas, hud a lledrith.

Gŵyl Llanuwchllyn, 27ain o Awst
Yn ystod dyddiau olaf yr haf, mae Gŵyl Llanuwchllyn yn gyfle i chi wneud y mwyaf o’r hyn sydd ar ôl a hynny yng nghwmni artistiaid adnabyddus Yws Gwynedd, Rhys Gwynfor a mwy.
Wedi ei leoli ar droed Llyn Tegid, cewch chi ddim gŵyl gyda golygfeydd gwell i fwynhau’r gorau o gerddoriaeth Cymraeg.

Gŵyl Ara Deg, 25ain-28ain o Awst
Draw yn Neuadd Ogwen, Bethesda, mae’r Ara Deg.
Dyma gyfle arall eleni i weld Adwaith, ond hefyd cyfle i fwynhau artistiaid newydd fel Sage Todz. Mae’r ŵyl yn argoeli i fod yn un gwefreiddiol, gyda chyfuniad o artistiaid amrywiol a chanran uchel o’r tocynnau wedi gwerthu allan yn barod!

Pa bynnag ŵyl fyddwch chi’n mynychu eleni, mwynhewch!

Hwyl a Hamdden | Llond Gwlad o Wyliau
bottom of page