Hwyl a Hamdden | Hanes ar Gynfas
Sgwrs gyda Meinir Mathias
Mae Meinir Mathias, un o beintwyr mwyaf cyffrous Cymru, yn parhau â’i harchwiliad a’i hail ddehongliad o dreftadaeth Gymru. Mae'r gwaith wedi'u gwreiddio mewn diwylliant Cymreig ond eto mae'n cysylltu â phrofiad personol, cof ac yn chwarae gyda materion ehangach fel sut mae rolau rhywedd yn cael eu darlunio trwy hanes celf.
Yn dilyn y sioe 'Rebel' a werthwyd allan y llynedd yn seiliedig ar Ferched Beca, mae Meinir yn parhau â'i harchwiliad o bortreadau Cymreig wedi'u hail-ddychmygu sy'n gysylltiedig â'r symbolaeth o Lên Gwerin Cymru a phrotest wleidyddol a bydd Oriel Plas Glyn y Weddw yn cynnal ei sioe unigol nesaf yno ym mis Mai blwyddyn nesaf.
Mae ei gwaith yn tynnu ar ddigwyddiadau hanesyddol a delweddaeth werin i archwilio'r syniadau sy'n ymwneud â hunaniaeth Gymraeg sy'n gysylltiedig â thir, lle a chof. Prynwyd nifer o’i lluniau gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer y Casgliad Cenedlaethol ac yn ddiweddar enillodd wobr Dewis y bobl yn Academi Celf Gain Frenhinol Cambrian. Fe ymddangosodd ar gyfres eleni o ‘Cymru ar Gynfas’ ac fe’i comisiynwyd i baentio portread o Iolo Williams.
Wedi'i chyfweld o'i stiwdio wrth iddi weithio ar ei chorff nesaf o waith, dyma hi’n rhannu gyda Lysh Cymru rhai o'r syniadau a'r prosesau wrth iddi weithio a datblygu delweddau sy'n archwilio agweddau ar berthynas emosiynol a dynol o fewn cymdeithas, a sut maen nhw'n cysylltu â hanes a thir. Maent hefyd yn tynnu cysylltiad cryf â phrofiadau ei hun a chof plentyndod.
Mae'r gwaith yn aml yn darlunio cymeriadau gwrthryfelgar ac annibynnol ffyrnig. Gan dynnu syniadau o gymeriadau matriarchaidd a fydd yn ymddangos yn ei sioe nesaf, bydd yn archwilio syniadau ac emosiynau cymhleth fel hunan-rymuso a dibyniaeth emosiynol o fewn strwythur cymdeithas Gymru.
O’r cymeriadau rwyt ti wedi eu darlunio hyd yma, pwy hoffet ti fod wedi cwrdd â nhw?
Byddwn i wrth fy modd yn cwrdd â Sarah Jane Rees (Cranogwen). Roedd hi'n gawr o ffigwr, o flaen ei hamser. Cafodd ei geni a'i magu mewn pentref bach lleol ac er gwaethaf pwysau cymdeithas a oedd yn ei gwneud hi'n anodd iawn i fenywod symud ymlaen a chyflawni yn yr amser hwnnw, yn enwedig o gefndiroedd dosbarth gweithiol, fe wnaeth baratoi'r ffordd ar gyfer hawliau menywod yng Nghymru a chyflawni cymaint yn ei hoes.
Prynwyd y darn o gelf wreiddiol gan Elin Jones AS, ac mi werthais brintiau cyfyngedig er mwyn codi arian i’r ymgyrch o gael cofeb i Cranogwen yn Llangrannog.
Mae’n bwysig mynd i'r afael â'r anghydbwysedd o ran sut mae ffigurau o'n hanes yn cael eu dathlu a'u cofio. Yn aml, anwybyddir menywod a phobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol. Weithiau, maent yn cael eu cofio fel cymeriadau mewn straeon gwerin, yn cael eu cofio trwy adrodd straeon llafar a’u hail ddychmygu ond heb eu cydnabod a’u coffáu’n swyddogol gyda cherfluniau fel mae cymaint o ddynion, yn enwedig o deuluoedd mwy ‘nodedig’ sy’n tueddu i fod trwy gydol hanes.
Mae'r paentiad hwn wedi'i steilio, yn ei darlunio mewn ystum wrywaidd a chryf, yn gwisgo dillad gwrywaidd yn hytrach nag mewn osgo benywaidd, ‘parchus', fel y byddid wedi'i ddisgwyl gan fenywod yn yr oes honno sy'n ymgais i ail-fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhywiol a sut canfyddir menywod mewn hanes.
Mae'r dwylo'n fawr ac yn y cefndir rydyn ni'n gweld y môr stormus a llong unigol y tu ôl i'r creigiau yn Llangrannog, mae'n symbol o'i dygnwch a'i brwydr i gyflawni a chreu newidiadau cadarnhaol i ferched yng Nghymru.
Mae portreadau poblogaidd Merched Beca hefyd yn dod â’r cymeriadau hanesyddol hyn yn fyw wrth iddynt gael eu hail-ddychmygu wrth wisgo ffabrigau ‘benywaidd’ a'i lliwiau cyfoethog ac addurnedig.
Mae'r ystumiau'r dynion, gydag iaith gorff mwy modern, yn chwarae gyda'r syniad o sut mae rolau gwrywaidd a benywaidd yn cael eu gweld mewn celf.
Pa mor bwysig yw cipio chwedloniaeth Cymru a chymeriadau hanesyddol o Gymru?
Mae dod ag elfennau o straeon gwerin, tir a phobl yn teimlo fel proses hollol naturiol. Mae straeon yn fy ysbrydoli'n fawr, ac mae myfyrio ar gof personol sy'n cydblethu â hanes yn adlewyrchiad o fy hunaniaeth ddiwylliannol.
Mae’r corff nesaf o waith yn ymchwilio’n ddyfnach i’r thema hon ac yn archwilio’r cysylltiad emosiynol a’r berthynas sydd gennym â’n ‘hunaniaeth Gymreig’ a all fod yn felys chwerw ar brydiau.
Mae pwysau o gadw ein diwylliant a'n hiaith yn fyw yn rhywbeth y mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg wedi'i brofi. Mae’r syniad yna ein bod ni'n gorfod ailddyfeisio ein hunain yn gyson fel Cymry yn rhywbeth dwi'n edrych arno.
Ar hyn o bryd rwy’n gweithio trwy frasluniau a chyfansoddiadau ar raddfa fwy ar gyfer cyfres o baentiadau ffigurol a fydd yn darlunio golygfeydd dramatig wedi’u hail-ddychmygu o hanes sy’n cydblethu â phrofiad personol ac emosiwn.
Pa gyngor y byddet ti’n ei roi i artistiaid ifanc?
Mor ystrydebol ag y mae’n swnio, fy nghyngor i fyddai bod yn wir ac yn onest i chi'ch hun. Ymchwiliwch a phrofwch fywyd gyda meddwl agored a byddwch yn barod i fyfyrio ac ehangu ar eich syniadau trwy eich gwaith.
Mae'n rhaid i chi hefyd garu'r hyn rydych chi'n ei wneud yn llwyr a bod yn barod i weithio'n galed i rhoi eich amser i'ch crefft. Rhaid i chi hefyd beidio â phoeni am yr hyn y gall eraill ei ddweud neu feddwl am eich gwaith. Rhaid i chi greu i chi'ch hun.
Beth fyset ti'n neud pe baet ti ddim yn artist?!
Ni allaf ddychmygu fy hun yn unrhyw beth heblaw am artist i fod yn onest. Pe na bawn i'n beintiwr, byddwn yn dal i ystyried fy hun yn artist a byddwn yn dod o hyd i lwybr creadigol arall i fynegi fy syniadau.