top of page

Hwyl a Hamdden | Gwirioni ar Qwerin

Hwyl a Hamdden | Gwirioni ar Qwerin

Mae pawb a’i chwaer ledled Cymru yn hen gyfarwydd efo’r traddodiad gwerin o ddawnsio Cymreig. Efallai eich bod chi’n clywed sŵn y ffidil yn eich pen wrth feddwl am y peth, a’r ambell floedd a chlapio!

Ond, ydych chi erioed wedi ystyried beth fyddai’n digwydd petai chi’n cyfuno dawnsio gwerin gyda sîn clybiau nos queer?

Yr ateb... Qwerin, wrth gwrs!

Mewn gwaith o ddawns gyfoes, mae’r artist dawns Osian Meilir yn archwilio i’r ddwy arddull a’u gweddu’n brydferth i greu gwaith unigryw ym myd y celfyddydau Cymraeg.

Dyma sgwrs arbennig gyda Meilir...

Beth yw Qwerin?

“Darn o ddawns gyfoes a newydd yw Qwerin,” eglura Meilir. “Rwy’n cyfuno'r ddawns werin draddodiadol Gymreig gydag elfennau o ddiwylliant queer, yn arbennig yn tynnu ar elfennau o ddiwylliant bywyd nos queer. Mae’n cyfuno dwy arddull o ddawnsio cymdeithasol, un sy’n hen ac yn draddodiadol ac yn perthyn i Gymru ac un arall sydd efallai yn fwy newydd a mwy cyfoes, sy’n perthyn i glybiau nos yn y diwylliant queer. Yn y ddawns, rwy’n cyfuno’r ddwy elfen er mwyn archwilio i mewn i’r croesfannau rhwng y ddwy hunaniaeth wahanol yma, sef yr hunaniaeth Cymraeg a’r hunaniaeth queer.”

Elfen drawiadol iawn o’r gwaith ydi’r gwisgoedd, sy’n cymryd y wisg Gymraeg a’i chwyddo. Gwelwn ddelweddau a phatrymau cyfarwydd, ond gyda sbin qwerin. Eglura Meilir bwysigrwydd y wisg:
“Mae’r gwisgoedd yn rili bwysig i fi, ac mae’n bwysig iawn i’r ddelwedd a’r syniad. I fi, fel person queer, mae gwisg yn ffordd dwi’n gallu mynegi fy hun ac mae hynny’n wir i bawb, hyd yn oed pobl sydd ddim yn queer. Roedd diddordeb ‘da fi mewn cyfuno gwisgoedd traddodiadol gydag elfen o steiliau gwahanol yn tynnu ar ddylunwyr fel Alexander McQueen a Vivienne Westwood.”

Gweithiodd Meilir gyda dwy o’r byd ffasiwn i greu gwisgoedd gwbl unigryw a newydd oedd o hyd yn clodfori’r hen ffordd i greu.

“Becky Davies sydd wedi dylunio’r gwisgoedd ac Amy Barrett sydd wedi eu creu nhw. Roedd y ddwy yn gweithio efo'i gilydd i greu’r gwisgoedd. Nhw sy’n gyfrifol am greu’r hetiau mawr efo tyllau ynddyn nhw! Maen nhw wedi gwneud jobyn ffantastig yn dod a’r syniadau i gyd yn fyw. Ac mae’r hetiau yn bespoke! Maen nhw wedi cael eu creu yn y ffordd draddodiadol o greu hetiau Cymreig, fel roedden nhw’n cael eu creu amser maith yn ôl. Wnaeth Becky ac Amy wneud gwaith ymchwil i sut roedden nhw arfer creu hetiau Cymreig. Mae’r defnydd tu fewn wedi cael eu creu o ddefnydd traddodiadol, ac mae’r tu allan yn rhyw fath o felfed modern.”

Caru coreograffi
Gyda’r fath dalent creadigol, mae’n amlwg ei fod yn ddawn naturiol. Ers roedd Meilir yn fachgen ifanc, roedd dawns ar ei feddwl, felly mae ganddo gryn dipyn o brofiad coreograffi!

“Yn edrych yn ôl, fi wastad wedi moyn dawnsio ers oedran ifanc iawn. Fi wastad wedi mwynhau creu dawnsfeydd a chreu pethau yn gyffredinol,” meddai. Roedd Meilir yn gwybod yn iawn mai coreograffi oedd yn mynd i gipio’i yrfa yn y dyfodol. “Fi’n credu, deep down, fi wastad wedi gwybod mod i ishe coreograffi. Roeddwn i’n creu dawnsfeydd fy hun ar gyfer cystadlaethau’r Urdd a wastad yn gwneud stwff fy hun. Yn anaml iawn byddwn i’n mynd at rywun arall i’w cael nhw i greu’r dawnsfeydd i fi!”

Gydag Eisteddfod yr Urdd ar y gorwel, mae Meilir yn llawn clod o’r mudiad ieuenctid.

“Mae ‘na ddiwylliant perfformio yng Nghymru a dim ots pwy wyt ti, pa gefndir na beth yw dy ddiddordebau, ti’n cael dy roi ar lwyfan rhyw ffordd. Boed hynny mewn côr, mewn parti llefaru ac ati.

“Dwi’n credu bod hynny wedi bod o fantais i fi fel rhywun oedd gyda diddordeb yn y celfyddydau felly dwi’n credu mod i wedi elwa yn fawr iawn o’r cyfleoedd yna wnaeth alluogi fi i archwilio dawns ac i archwilio perfformio mewn ffordd wahanol.”

Qwerin ar daith
Mae calendr Meilir a chriw Qwerin yn llawn dop o berfformiadau dros yr haf. Wedi perfformio yng Ngŵyl Fach y Fro, y Bari, mae Qwerin yn paratoi i berfformio yng ngŵyl Tafwyl, Caerdydd cyn symud ymlaen gyda fersiwn estynedig!

“Den ni’n datblygu Qwerin i fod yn fwy o faint,” sonia Meilir. “Den ni’n mynd o dri dawnsiwr i chwech ym mis Gorffennaf ac wedyn fydd y fersiwn ‘mawr’ yma mas yn yr Eisteddfod ac yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, a llawer mwy o leoliadau ar draws Cymru yn ystod yr haf.”

Ond, petai yna ddim cyfyngiadau a petai arian ddim o bwys, lle fyddai Meilir yn hoffi mynd a pherfformiadau Qwerin?

“Fi’n credu byddwn i’n dwlu mynd a Qwerin i wlad wahanol fel India, o bosib. Dwi’n credu mod i’n dweud India achos bod e’n le mor lliwgar, a gyda’r lliwiau gwahanol yng ngwisgoedd Qwerin dwi’n credu byddai’n gyfuniad diddorol.”

Mae sawl gwlad ledled y byd, fel Cymru ac India, yn berchen ar draddodiadau dawns eiconig iawn, a hoffa Meilir gyd-weithio gyda sawl unigolyn o sawl gwlad wahanol!

“Fyddwn i’n dwlu cyd-weithio efo artistiaid dawns ac archwilio dawns draddodiadol gwledydd eraill.”

Hapusrwydd yw popeth
Tybed pa air o gymorth byddai Meilir yn ei roi i unigolion fyddai’n dymuno dilyn ei drywydd ym myd dawns?

“Y cyngor byddwn i’n ei roi... i ddilyn trywydd a dilyn gyrfa mewn rhywbeth rydych chi wir yn mwynhau ei wneud. 'Sdim byd mwy arbennig ‘na gwneud bywoliaeth o be chi moyn gwneud. Os mae rhywun yn trio stopio chi... trystiwch eich hun. Mae ‘na lot o bobl yn meddwl bod gyrfa mewn dawns yn ansefydlog, a ma’ fe ar adegau, ond dwi’n hapus yn gwneud beth dwi’n wneud ac mae e’n bwysig bo’ chi’n hapus yn gwneud beth dech chi’n wneud.”

Hwyl a Hamdden | Gwirioni ar Qwerin
bottom of page