Hwyl a Hamdden | Geid Goroesi Eisteddfod yr Urdd
Eleni, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod Eisteddfod yr Urdd yn ôl unwaith eto! Cawn grwydro’r maes gyda’n ffrindiau, gweld hen gyfeillion a gwneud rhai newydd sbon.
Gan fod maes go iawn Eisteddfod yr Urdd wedi cael seibiant ers 2019, efallai eich bod chi ychydig allan o bractis pan mae’n dod at oroesi diwrnod llawn dop o Steddfota.
Er mwyn eich rhoi chi ar ben ffordd, dyma geid goroesi’r Steddfod er mwyn sicrhau diwrnod i’w gofio:
1. Bag mawr ar eich cefn
Byddwch chi angen llond llaw o bethau sy’n hanfodol ar y diwrnod, ac mae’r rhain wedi eu cynnwys yn y geid yma. Peidiwch â chyboli efo bag bach - fydd o ddim yn ddigon mawr! Gyda bag mawr ar eich cefn, allwch chi sicrhau bod gennych chi bob dim a hefyd gwneud yn siŵr eich bod yn gallu cario pob dim yn gyffyrddus.
2. Eli haul
Mae eli haul yn HANFODOL. Hyd yn oed os tydi hi ddim yn ddiwrnod heulog, mae pelydrau UV dal i wneud niwed heb yn wybod i chi. Efallai y bydd hi’n dywydd garw yn y bore, ond mae pob posibilrwydd y bydd hi’n heulwen braf yn y prynhawn a does dim byd gwaeth na bod yn sownd heb eli haul!
3. Dŵr
Bydd digon o opsiynau o ddiodydd ar gael ar y maes, ond mae’n handi iawn cael potel o ddŵr wrth law trwy’r adeg er mwyn osgoi’r ciwio, yn enwedig pan fydd eich hoff fand yn chwarae a fyddwch chi ddim ishe colli eich lle yn y blaen! Fyddwn i’n argymell potel metel sy’n cadw’ch diod yn oer.
4. Esgidiau addas
Os bydd hi’n braf, fydd trainers neu sandals cyffyrddus yn gwneud y tric. Ond, os mae son am law, mae o werth dod a welis yn y car, rhag ofn. Does ‘na ddim byd yn fwy hwyl na throedio maes gwlyb mewn wellies!
5. Arian Parod
Er ein bod ni wedi hen arfer gyda thapio cerdyn banc ar y teclyn talu, mae gan arian parod ei le... fel pan mae teclynnau talu yn stopio gweithio! Peidiwch â chael eich dal allan pan mae’r teclynnau talu yn penderfynu mynd i gysgu, cofiwch fynd ag ychydig o arian parod efo chi.
6. Byrbrydau
Mae mynd a thamaid bach o fwyd yn eich bag wastad yn syniad da. Mae’n wir fod digonedd o ddewis i gael o ran bwydydd ar y maes, ond mae hynny’n gallu bod yn gostus os fyddwch chi’n mentro i’r faniau bwyd yn aml. Rhowch baced o grisps ac afal yn eich bag, rhag ofn! Yn debyg i’r tip potel o ddŵr, fyddwch chi’n diolch i Lysh am eich atgoffa i ddod a snac pan fyddwch chi ar bwys y llwyfan a ddim awydd gadael!
Gyda’r chwe argymhelliad yna, fyddwch chi’n siŵr o gael diwrnod, neu ddiwrnodau gwerth chweil wrth greu atgofion oes!