Hwyl a Hamdden | Gair i Gall - Cer i Deithio!
Joio Mas Draw - dyna yw moto Catrin Haines Davies o Gaerdydd, a dyna yw enw ei chyfrif Instagram hefyd, a dyna ble welwch chi hi’n rhannu lluniau hyfryd o’i hanturiaethau teithio. Dyma hi i’ch ysbrydoli...
Helo! Fi yw Catrin, a dwi'n dwlu ar deithio. Dwi'n gwybod eich bod chi'n rhy ifanc i godi pac nawr, ond beth am ystyried gwneud ymhen rhai blynyddoedd?
Ar ôl i mi raddio o’r brifysgol, ges i swydd cynllun graddedigion gyda chwmni ceir enwog - swydd ddelfrydol. Ond ar ôl cwpwl o flynyddoedd sylweddolais nad o’n i’n mwynhau, ddim yn cael fy ngwerthfawrogi a ro'n i wedi cael digon o weithio 12 awr (literally) y diwrnod. Ar fy mhen-blwydd yn 25 ges i, be dwi’n ei alw, yn quarter life crisis. Penderfynais newid fy mywyd.
Yn gyntaf es i i Africa am fis i gampio (mewn pabell!!) er nad oeddwn erioed wedi campio o’r blaen. Wedyn es i i Asia i ddysgu Saesneg i blant. Wnes i benderfynu gwthio fy hun mewn ffordd o'n i heb ei wneud o’r blaen ac mi roedd y profiad yn anhygoel. OND peidiwch â gadael i Facebook neu Instagram eich twyllo, doedd y dyddiau o weithio 12 awr y dydd tan 9 neu 10pm ddim wedi gorffen, ac ar adegau roedd hi’n anodd, yn enwedig o fod mor bell i ffwrdd o fy nheulu a ffrindiau.
Dwi nôl yng Nghaerdydd nawr ar ôl bod yn teithio am flwyddyn ac yn meddwl setlo lawr a chael swydd ‘go iawn!’ (am y tro!). Trwy rannu hyn gyda chi, dwi'n gobeithio eich ysbrydoli CHI i fynd amdani - beth bynnag yw e - teithio, dechrau hobi newydd neu drio steil newydd a thorri gwallt!
Mae’n 2020 ac mae’n amser gwerthfawrogi eich bywyd CHI a chreu atgofion! Mae’r dywediad enwog, er yn cliché, yn wir - mi wnewch chi ddifaru'r pethau dy'ch chi ddim wedi gwneud yn fwy na’r pethau ry'ch chi wedi eu gwneud, felly EWCH AMDANI!
Eleni dwi’n gobeithio dechrau swydd newydd, cwblhau fy ‘Reading Challenge 2020’, byw fel llysieuwr a theithio mwy o gwmpas Ewrop (awgrymiadau plîs?!)
Be ydych chi am wneud?!
Catrin x