top of page

Hwyl a Hamdden | Fflip a Thric ar Bedair Olwyn

Hwyl a Hamdden | Fflip a Thric ar Bedair Olwyn

Mae cyn-nofiwr Paralympaidd Cymru Lily Rice yn athletwr WCMX (motocross cadair olwyn), yn perfformio triciau ar rampiau wedi'u haddasu'n arbennig a ddefnyddir fel arfer gan feicwyr BMX a sglefrfyrddwyr.

Credir mai Lily yw'r ferch Ewropeaidd gyntaf i gwblhau bacfflip WCMX, hi yw'r ail yn fyd-eang. Ond pwy yw hi? Aeth Lysh i’w holi...

Enw: Lily Rice
Oed: 15
Byw: Dinbych y Pysgod, Sir Benfro

Mae gen i gyflwr o'r enw Paraplegia Sbastig etifeddol (HSP) ac mae'n effeithio ar y cyhyrau yn rhan isaf fy nghorff, gan achosi iddynt fod yn wan ac yn dynn iawn. Dydw i ddim yn gadael i fy anabledd fy nal i’n ôl na chwaith fy atal rhag gwneud yr hyn dw i eisiau eu gwneud.

Fe wnes i ddechrau gwneud WCMX ddwy flynedd yn ôl. Ar ôl i mi fod yn reidio am ychydig fisoedd ro’n i mewn parc sglefrio yng Nghaerdydd a ro’n i’n meddwl y gallai fod yn hwyl rhoi cynnig ar y bacfflip. Do’n i ddim wedi meddwl y byddai fy nhro cyntaf wedi mynd cystal ag y gwnaeth ac ar ôl chwe awr glaniais fy fflip gyntaf! Mae gwneud WCMX yn anhygoel, a dw i ar fy hapusaf pan dw i wrthi. Dw i jest yn canolbwyntio ar yr hyn dw i’n ei wneud ac nid yr hyn sy'n digwydd o fy nghwmpas.

Dw i’n ymarfer yn bennaf ym mharc sglefrio Hwlffordd, Rampworld Caerdydd, ac Adrenaline Alley er fy mod yn teithio o gwmpas y wlad yn mynd i barciau sglefrio eraill i ymarfer hefyd. Fel arfer dw i’n ymarfer ddwywaith yr wythnos. Mae mor bwysig i ymarfer, ac fe wnes i baratoi ar gyfer mynd i bencampwriaethau'r byd yng Nghaliffornia trwy hyfforddi mewn gwahanol fathau o barciau sglefrio er mwyn cael blas ar wahanol arddulliau a mathau o rampiau.

Beth nesaf? Wel dw i eisiau dod yn gyntaf ym mhencampwriaethau'r byd eleni a dw i hefyd eisiau parhau i ysbrydoli rhagor o bobl i wneud WCMX a bod yn fwy cadarnhaol am eu hanableddau a'u gwahaniaethau.

Byddwn yn disgrifio fy hun yn ysbrydoledig, yn wallgof ac yn alluog.

Fy moto yw ‘mae unrhyw beth yn bosib, dim ond i chi roi eich meddwl ar waith’, a fy hashnod ydy #puttingtheabilityintodisability

Hwyl a Hamdden | Fflip a Thric ar Bedair Olwyn
bottom of page